Mynd i'r cynnwys
Home » Cyfle i gwrdd â’r Cymrodyr o Namibia: Ayesha Wentworth 

Cyfle i gwrdd â’r Cymrodyr o Namibia: Ayesha Wentworth 

 

 

Ar hyn o bryd mae DECIPHer yn cynnal chwe gweithiwr proffesiynol o Namibia ar ganol eu gyrfaoedd mewn cynllun a drefnir gan Brosiect Phoenix. Mae’r Cymrodyr yn treulio tri mis yn cydweithio â’n hymchwilwyr i astudio sut y gall addysg merched arwain at rymuso menywod. Yn y blog cyntaf o’n cyfres o flogiau, rydyn ni’n dal i fyny gydag Ayesha Wentworth i gael gwybod sut mae ei lleoliad yn mynd hyd yn hyn.

 

 

Dywedwch wrthon ni am eich gwaith yn Namibia


Fi yw Cyfarwyddwr Rhaglenni a Sicrhau Ansawdd yn y Weinyddiaeth Addysg, Celfyddydau a Diwylliant ac yn Seicolegydd Clinigol yn ôl fy mhroffesiwn. Mae’r gyfarwyddiaeth yn bennaf gyfrifol am ddatblygu polisïau a rhaglenni, eu gweithredu ac yna monitro a sicrhau ansawdd.  Ar hyn o bryd, o dan fy nghyfarwyddiaeth, rydym yn gyfrifol am roi’r cwricwlwm ar waith yn ogystal â datblygiad cyfannol dysgwyr drwy raglenni amrywiol eraill fel: Rhaglen Integredig Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion (ISHS), Rhaglen Bwydo Ysgol Namibia (NSFP), Rhaglen Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol Integredig (IPESS), Fframwaith Ysgolion Diogel Cenedlaethol (NSSF), i enwi rhai yn unig.  Mae’r gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am fynd i’r afael â materion fel proffesiynoldeb athrawon a beichiogrwydd dysgwyr trwy ddatblygu ymyriadau rhaglennol yn ogystal â deddfwriaeth. 

 

Pam oeddech chi eisiau cymryd rhan ynh nghynllun Cymrodoriawth Broffesiynol y Gymanwlad?

Un o’r meysydd mwyaf heriol i ni fel gwlad yw gweithredu ein polisïau a gweld canlyniadau’r ymyriadau.  Roedd rhaglen Phoenix yn cyd-fynd â’m dyhead i wneud pethau’n wahanol a chreu effaith wirioneddol wrth sicrhau addysg i bawb.  Mae Cymrodoriaeth Broffesiynol y Gymanwlad yn rhoi cyfle i rannu ac i ddysgu am arferion gorau ac yn hyrwyddo prosiectau cydweithredol rhwng y sefydliadau cynnal a’r cymrodorion, yn ogystal â’r cymrodorion eu hunain, a dysgu ar draws gwledydd.

Beth yw eich nodau tra byddwch chi yma?

Rwyf am ddysgu cymaint ag y gallaf a chreu rhwydweithiau ar gyfer cryfhau ymyriadau gartref. 

Chwith i’r dde: Honor Young, Cynthy Haihambo, Rosa Persendt, Rachel Freeman, Ndinelago Shilongo; Ayesha Wentworth, Rhiannon Evans, Rakel Kavena Shalyefu

Sut brofiad ydych chi wedi’i gael yma hyd yn hyn?

Rwyf wedi dysgu cymaint yn barod a gallaf eisoes ragweld y newidiadau yr hoffwn eu sefydlu ar lefel polisi yn fy ngwlad, ond hefyd ar lefel gweithredu.  Rydym wedi bod yn cael trafferth ers blynyddoedd gyda mater beichiogrwydd dysgwyr ac mae cael gwybod am y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud yn y maes hwn o ymyriadau cymhleth wedi rhoi golwg newydd i mi o ran sut y gallwn o bosibl fynd i’r afael â’r broblem a chyd-greu ymyriadau mwy cynhyrchiol a fydd yn rhoi canlyniadau gwell.

Un maes yn unig yw hwn, ond mae’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm hefyd yn hynod ddiddorol ac yn cyd-fynd â nodau terfynol ein gweinyddiaeth.  Edrychaf ymlaen at fynd adref ac ymgysylltu â’m cyd-Aelodau o weinidogaethau llinell mewn rhai o’r meysydd amserol eraill rydym wedi’u hamlygu, nad ydynt o reidrwydd yn dod o fewn cwmpas fy ngwaith.

Ac rydw i wedi cwrdd â’r bobl fwyaf hyfryd a diddorol.  Mae ein mentoriaid yn wych ac wedi bod mor garedig a chymwynasgar fel ein bod yn teimlo’n hollol gartrefol yma.  Felly, diolch yn fawr iawn i Rhiannon, Honor a Michelle am bopeth maen nhw wedi’i wneud!!

A fu unrhyw brofiadau hyd yn hyn sy’n sefyll allan i chi?

Mae’n oerach pan fydd yr haul yn tywynnu yma!! Mae Caerdydd yn lle prydferth gyda hanes mor gyfoethog ac amrywiol, felly mae wedi bod yn hyfryd crwydro’r ddinas a gweld y golygfeydd a’r synau gwahanol.

Credaf mai’r sylweddoliad dwysaf yw, er bod ein cyd-destun ni a chyd-destun Cymru mor wahanol, eu bod mor debyg mewn sawl ffordd.  Rydym yn wynebu’r un heriau ar wahanol lefelau, ac mae cymaint y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd a’i gymryd oddi wrth ein gilydd i gryfhau ein hymyriadau yn y cyd-destunau cymhleth hyn. 

Rydym hefyd yn cael rhywfaint o hyfforddiant arwain ac yn cymryd rhan mewn theori newid sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer myfyrio personol a thwf. 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf at ddysgu amdano tra byddwch yma yng Nghaerdydd?

Er fy mod eisiau dysgu popeth!! Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at ddysgu mwy am y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a sut i greu/datblygu hwnnw yn Namibia, fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o les ein dysgwyr a’n hathrawon. Rwyf hefyd yn gyffrous iawn i ddysgu am wahanol ymyriadau yn y system addysg a sut y gallwn o bosibl eu haddasu i ddiwallu anghenion Namibia.

Gallwch chi ddod o hyd i gyfrif Twitter Ayesha yma: @Ayesha31201116. Mae rhagor o wybodaeth am brosiect Phoenix yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/phoenix-project.