
Dyddiad y Cwrs
*2022 Wedi archebu’n llawn*
8 a 9, 15 a 16 Mehefin 2022. Bydd y cwrs 4 diwrnod hwn yn rhedeg ar-lein mewn dau floc 2 ddiwrnod, ar 8 a 9 Mehefin ac yna 15 ac 16 Mehefin rhwng 10am a 2.30pm bob dydd.
Lleoliad y Cwrs a Fformat Cyflenwi
Cyfunol Ar-lein: bydd y cwrs yn cynnwys cymysgedd o sesiynau byw ar-lein ac all-lein wedi’u recordio ymlaen llaw. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein ar draws y pedwar diwrnod a nodir uchod, ond bydd hefyd yn cynnwys sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw i’w gwylio ar-lein wrth baratoi (cyfanswm o 2 awr ar y mwyaf) ac i ddilyn ar ôl y cwrs. Bydd sesiynau byw ar-lein yn cynnwys sesiynau a addysgir a thrafodaethau/gweithgareddau grŵp bach i gymhwyso’r dysgu i senarios enghreifftiol. Mae lleoedd yn gyfyngedig i ganiatáu i drafodaethau grwpiau bach a grwpiau cyfan gael eu cynnal.