Dr Sarah MacDonald a Dr Rhiannon Evans sy’n cynnig trosolwg o ymchwil newydd dan arweiniad DECIPHer, astudiaeth CHIMES (Ymyriadau i wella deilliannau iechyd meddwl a lles ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal: adolygiad systematig). Cyllidir y prosiect gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil i Iechyd, a dechreuodd ym mis Ebrill 2020.

Mae iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal neu sydd wedi derbyn gofal yn flaenoriaeth bwysig. Mae ymchwil yn dangos eu bod yn fwy tebygol o fod ag iechyd meddwl gwael na phobl ifanc nad ydyn nhw mewn gofal, a hefyd â risg uwch y byddan nhw’n ceisio lladd eu hunain. Mae digwyddiadau diweddar, yn cynnwys COVID-19, wedi cyflwyno risgiau a straen penodol i’r grŵp hwn, yng nghanol pryderon am awdurdodau lleol yn cwtogi rhai darpariaethau statudol a chynnal diogelwch a safonau. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arweiniad i gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc agored i niwed yn ystod pandemig COVID-19, tra bo’r Rhwydwaith Maethu’n parhau i gynnig cefnogaeth i ofalwyr.

Yng nghyd-destun y digwyddiadau hyn, mae cwestiynau pwysig yn parhau am y ffyrdd gorau i gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc mewn gofal, yn ogystal ag atal hunananafu a hunanladdiad. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerwysg a Phrifysgol Bangor, mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn cyllid gan banel Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol y DU i fynd i’r afael â’r cwestiynau hyn.

Mae’r mathau o ymyriadau y gellir eu hystyried yn cynnwys datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol plant, hyfforddiant i ofalwyr maeth, neu ddatblygu ymagwedd ymhlith timau gwaith cymdeithasol
sy’n deall natur trawma.’

Dechreuodd astudiaeth CHIMES ym mis Ebrill 2020 a bydd yn rhedeg am ddwy flynedd. Bydd yn cynnal adolygiad systematig, gan dynnu tystiolaeth ryngwladol sydd eisoes yn bodoli at ei gilydd ynghylch effeithiolrwydd ymyriadau i wella iechyd meddwl a lles cyffredinol plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Mae’r mathau o ymyriadau y gellir eu hystyried yn cynnwys datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol plant, hyfforddiant ar gyfer gofalwyr maeth, neu ddatblygu ymagwedd ymhlith timau gwaith cymdeithasol sy’n deall natur trawma. Gan fod systemau gofal cymdeithasol a systemau gofal iechyd yn amrywio rhwng gwahanol wledydd, mae diddordeb penodol gan yr astudiaeth yn y ffordd mae gwahanol ymyriadau’n gweithio i wahanol unigolion mewn gwahanol gyd-destunau, ac a fyddai modd cyflawni’r un canlyniadau yn y DU.

Y cwestiynau ymchwil penodol y bydd yr adolygiad yn mynd i’r afael â nhw yw:

1) Pa fath o ymyriadau sydd wedi’u datblygu a’u gwerthuso?

2) Beth sy’n rhwystro ac yn hwyluso rhoi’r ymyriadau hyn ar waith?

3) Ydy’r ymyriadau hyn yn gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc mewn gofal?

4) Ydy’r ymyriadau hyn yn dderbyniol i’r bobl sy’n cymryd rhan ynddynt?

Bydd yr astudiaeth yn defnyddio’r ymchwil sy’n bodoli i asesu’r math mwyaf addawol o ymyrraeth ar gyfer gwella iechyd meddwl a lles. Bydd hefyd yn ymgynghori â phobl ifanc a gofalwyr ac yn pennu ai ymyriadau fydd yn gweithio orau yn eu cymunedau yn eu tyb nhw. Yna, bydd y tîm ymchwil gobeithio’n gallu pennu ymyriad posibl y gellir ei ddefnyddio a’i werthuso yn y DU.

Caiff yr astudiaeth ei chynnal mewn cydweithrediad â’r Rhwydwaith Maethu. Bydd yn ymwneud yn benodol â sicrhau bod lleisiau gofalwyr yn cael gwrandawiad wrth benderfynu pa ymyriadau y dylid eu datblygu ymhellach a’u gwerthuso. Bydd y Rhwydwaith hefyd yn arwain ar ledaenu canlyniadau’r adolygiad o ran polisi ac ymarfer.

Dywedodd Maria Boffey o’r Rhwydwaith Maethu: “Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi galw ers tro am fwy o ganolbwyntio ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc dan ofal, yn ogystal â buddsoddi ar eu cyfer. Mae ansawdd y gefnogaeth briodol ar gyfer iechyd meddwl, ynghyd â mynediad ati, yn rhywbeth y mae ein haelodau gofal maeth yn dweud wrthym yn aml ei bod yn anghyson neu ddim ar gael.

Felly, rydym wir yn croesawu’r ymchwil hon sy’n ystyried yr ymyriadau gorau ar gyfer iechyd meddwl a lles, ac yn enwedig y pwyslais ar wneud yn siŵr fod safbwyntiau a phrofiadau gofalwyr maeth a phobl ifanc sydd wedi bod dan ofal wrth wraidd yr ymchwil.”

Bydd CHIMES hefyd yn ymgysylltu â Lleisiau Cascade, menter gydweithredol rhwng Voices from Care Cymru a CASCADE, Prifysgol Caerdydd. Mae hwn yn grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy’n cynnig cyngor ar astudiaethau ymchwil. Byddwn yn cydweithio gyda’r grŵp i fireinio a chadarnhau cwmpas yr adolygiad a phennu ymyriadau a allai fod y mwyaf ymarferol a derbyniol yng nghyd-destun y DU.

Rhagor o adnoddau cymorth

Gall gofalwyr, pobl ifanc a phlant gael cyngor a chefnogaeth am iechyd meddwl gan y canlynol:

Y Samariaid

Childline

YoungMinds

Y Rhwydwaith Maethu

Voices From Care Cymru

Grandparents Plus

Cyngor y Llywodraeth ar gefnogi iechyd meddwl plant yn ystod Covid-19

Cyllidwyd yr ymchwil gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) (NIHR129113) yn defnyddio cymorth y DU gan Lywodraeth y DU i gefnogi ymchwil i iechyd byd-eang. Barn yr awdur(on) a fynegir yn y cyhoeddiad hwn, ac nid yw’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd na’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol o reidrwydd yn rhannu’r un farn.

Mae Dr Sarah McDonald yn Gyswllt Ymchwil yn DECIPHer lle mae’n cynnal ymchwil iechyd ansoddol, gyda ffocws ar blant a phobl ifanc. Dilynwch hi ar Twitter: @Sarahmaccardiff

Mae Dr Rhiannon Evans yn Uwch-ddarlithydd mewn Gwyddor Gymdeithasol ac Iechyd yn DECIPHer. Hi sy’n arwain y rhaglen waith ar Berthnasoedd Iach. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc, yn ogystal ag atal hunananafu a hunanladdiad. Dilynwch hi ar Twitter: @1RhiannonEvans

Dewislen