This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Yn 2022, bydd Cymru’n croesawu cwricwlwm newydd i ysgolion, sy’n blaenoriaethu iechyd a lles pobl ifanc. Bydd cymrodoriaeth newydd Dr Sara Long gan Lywodraeth Cymru’n llywio a gwerthuso’r diwygio pwysig hwn.

Ym mis Awst 2019, dychwelais i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth o 11 mis. Er bod jyglo mamolaeth a gwaith yn rhoi boddhad, mae hefyd yn heriol ar brydiau (a dyna beth fyddai blog hollol wahanol, efallai…).
Teimlaf yn gyffrous dros ben am y gwaith rwy’n dychwelyd ato. Cyn i mi fynd ar absenoldeb, dyfarnwyd dau brosiect i mi fel Prif Ymchwilydd, a dechreuodd y ddau ar 1 Hydref 2019.
Bydd y blog hwn yn rhoi trosolwg o un o’r prosiectau hyn: sef fy nghymrodoriaeth dair blynedd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn archwilio’r diwygio presennol mewn ysgolion yng Nghymru. Bydd y gymrodoriaeth, sydd â’r teitl: Integreiddio iechyd a lles yng nghwricwlwm ysgolion: ymchwiliad dulliau cymysg o baratoadau ar gyfer diwygio ysgolion ledled Cymru a’r effeithiau ar iechyd a lles, yn archwilio agweddau ar y diwygio a’i effeithiau o ran iechyd a lles. Mae gan hyn arwyddocâd personol yn ogystal â phroffesiynol i mi, gan y bydd fy mab yn dechrau’r ysgol tua’r adeg y bydd y diwygiadau’n cael eu cyflwyno!
Gall ysgolion gael dylanwadau da neu ddrwg ar iechyd a lles pobl ifanc. Maen nhw’n lleoliadau pwysig ar gyfer ymyrraeth gynnar i atal problemau iechyd corfforol a meddyliol yn ddiweddarach. Mae mesurau atal effeithiol yn gallu lleihau costau i wasanaethau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae system addysg Cymru’n cael ei diwygio’n sylweddol ar hyn o bryd.
Mae diwygio ysgolion â’r potensial i fod o fudd helaeth i ddisgyblion, ysgolion a’r gymdeithas ehangach; fodd bynnag, gallai arwain hefyd at niwed anfwriadol.
O 2022, bydd pob ysgol yn gweithredu cwricwlwm newydd a fydd, am y tro cyntaf, yn rhoi iechyd a lles wrth wraidd dysgu. Un o nodau’r cwricwlwm yw y bydd holl blant Cymru’n ‘unigolion iach, hyderus’. Bydd iechyd a lles yn dod yn un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad, ochr yn ochr â’r Celfyddydau Mynegiannol; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae diwygio ysgolion â’r potensial i fod o fudd helaeth i ddisgyblion, ysgolion a’r gymdeithas ehangach; fodd bynnag, gallai arwain hefyd at niwed anfwriadol. Dyma pam mae’n bwysig bod gwerthusiadau o ansawdd da yn cael eu cynnal ar bolisïau newydd, fel hwn. Mae’r gymrodoriaeth yn rhoi cyfle â therfyn amser i osod y seiliau ar gyfer gwerthusiad o ansawdd uchel o effeithiau’r cwricwlwm newydd ar iechyd a lles disgyblion.
Nod y gymrodoriaeth yw: i) deall nodau’r diwygio, a phrosesau ynghylch ei gyflwyno, o safbwyntiau rhanddeiliaid ym mholisi addysg Cymru; ii) nodi mesurau priodol ar gyfer iechyd a lles disgyblion, er mwyn barnu llwyddiant y diwygio; iii) ceisio barn staff ysgolion am y cwricwlwm newydd, a sut y bydd yn gweithio’n ymarferol; iv) dod â’r canfyddiadau ynghyd, gan ddarparu tirwedd ar gyfer cynnal gwerthusiad ystyrlon a manwl o effaith y diwygio ar iechyd a lles disgyblion yng Nghymru.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal gyda thua 30 o bobl y mae eu gwaith yn gysylltiedig â pholisi addysg yng Nghymru. Defnyddir y cyfweliadau i gael dealltwriaeth o’r hyn y mae pobl yn ei feddwl am rôl ysgolion mewn iechyd a lles; sut olwg fydd ar y diwygio, yn ymarferol, yn eu barn nhw; a sut i gael tystiolaeth p’un ai yw’r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus ai peidio. Yn ogystal, byddaf yn mesur iechyd a lles disgyblion nad ydynt wedi derbyn y cwricwlwm newydd, ac o hyn, byddaf yn sefydlu grŵp o ddisgyblion i gymharu a chyferbynnu yn erbyn disgyblion sy’n derbyn y cwricwlwm newydd yn y blynyddoedd i ddod. Bydd rhagor o gyfweliadau â staff ysgolion yn ein helpu i ddeall sut y gallai’r cwricwlwm newydd gyflawni ei nodau ar gyfer pobl ifanc, ysgolion a’r gymdeithas ehangach.
Wedyn, byddwn yn dod â’r holl ganfyddiadau ynghyd, i ddatblygu darlun o’r ffordd y disgwylir i’r cwricwlwm weithio. Bydd hyn yn llywio ei weithrediad a’r ffordd y bydd yn cael ei werthuso. Ceir ymgynghori â phartneriaid anacademaidd a’r cyhoedd, gan gynnwys staff ysgolion, partneriaid polisi, a rhieni disgyblion, trwy gydol y gymrodoriaeth hon, a bydd yr allbynnau’n cynnwys adroddiadau anacademaidd ar gyfer polisi ac ymarfer yn ogystal ag adroddiadau academaidd traddodiadol. Byddwn yn cyhoeddi llyfrynnau ac yn defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, a gweminarau â staff ysgolion, er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd eang.
Rhoddaf ddiweddariad eto yn 2020, felly gwyliwch y gofod hwn!
Mae’r Doethur Sara Long yn Ymchwilydd Cyswllt yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’n gweithio ar ystod o
brosiectau rhyngddisgyblaethol sy’n ceisio gwella canlyniadau iechyd, lles ac addysg. Dilynwch hi ar Twitter: @DrSaraLong