Mynd i'r cynnwys
Home » Ariannu prosiect y bydd decipher yn ei arwain

Ariannu prosiect y bydd decipher yn ei arwain

Rhoddir arian ymchwil i DECIPHer ar gyfer astudio sut mae gwasanaethau gofal maeth yn cael eu cynnig ar y we yn ystod y pandemig er iechyd y meddwl ymhlith plant a phobl ifanc.

Fis Medi 2020, cyhoeddodd rhwydwaith ymchwil TRIUMPH, sy’n ymwneud ag iechyd y meddwl ymhlith yr ifainc, y byddai’n rhoi arian ar gyfer prosiect i’w arwain gan y Dr Rhiannon Evans. Bydd y prosiect, ‘Cydgynhyrchu neu addasu gwasanaethau gofal maeth ar y we: Hybu iechyd y meddwl a llesiant ymhlith plant a phobl ifanc sydd wedi bod o dan ofal’, yn dechrau y mis hwn.

Mae rhwydwaith TRIUMPH yn dod â phobl ifanc, ymarferwyr iechyd, llunwyr polisïau, gweithwyr gwirfoddol ac academyddion adrannau clinigol, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau, dylunio a chyfrifeg ynghyd. Ei nod yw dod o hyd i ffyrdd newydd o wella iechyd y meddwl a llesiant, yn arbennig ymhlith carfanau difreintiedig a’r rhai sy’n agored i niwed. Mae’n un o wyth rhwydwaith iechyd y meddwl o dan nawdd Ymchwil ac Arloesedd y DG.

Bydd y prosiect newydd yn ystyried y ffordd orau o lunio rhaglenni ar y we ar gyfer pobl ifanc sydd wedi bod o dan ofal, neu sut mae’u haddasu fel y bydd modd eu rhoi ar y we. Bydd rhai o bobl ifanc Lleisiau CASCADE a Rhwydwaith Maethu Cymru yn ymwneud â’r llunio a’r cyflwyno.

Meddai’r Dr Evans: “Mae pobl ifanc sydd wedi bod o dan ofal yn fwy tebygol o ddioddef o achos llesiant gwael ac afiechyd y meddwl. Mae tuedd yn ddiweddar i gynnig gwasanaethau trwy’r we, yn arbennig yn ystod y pandemig presennol. Mae hynny wedi arwain at anawsterau unigryw megis sut mae asesu risgiau yn ddigidol, sut mae gofalu bod plant yn ddiogel a sut mae ymdopi lle nad oes technoleg.”

Bydd y tîm yn defnyddio’r astudiaeth hon i lunio canllawiau a fydd yn helpu llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr ynglŷn â llunio ac addasu rhaglenni i’w cynnig ar y we. Bydd yr ymchwil yn fan cychwyn llunio neu addasu rhaglenni ar y we ym maes iechyd y meddwl, hefyd.

Dyma aelodau’r tîm:

  • Rhiannon Evans (Prifysgol Caerdydd);
  • Dawn Mannay (Prifysgol Caerdydd);
  • Maria Boffey (Rhwydwaith Maethu Cymru);
  • Charlotte Wooders (Rhwydwaith Maethu Cymru);
  • Lorna Stabler (Prifysgol Caerdydd);
  • Rachel Vaughan (Prifysgol Caerdydd);
  • Brittany Davies (Lleisiau CASCADE).

Dyma ragor am drefn ariannu TRIUMPH a’r prosiect hwn: http://triumph.sphsu.gla.ac.uk/research/funded-projects/.