Mynd i'r cynnwys
Home » Mae’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc wedi gostwng am y tro cyntaf yng nghymru ond mae’r gostyngiad mewn ysmygu ymhlith pobl ifanc wedi arafu

Mae’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc wedi gostwng am y tro cyntaf yng nghymru ond mae’r gostyngiad mewn ysmygu ymhlith pobl ifanc wedi arafu

Mae’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc wedi gostwng am y tro cyntaf yng Nghymru ond mae’r gostyngiad mewn ysmygu ymhlith pobl ifanc wedi arafu, dengys dadansoddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ymatebion gan 119,388 o bobl ifanc 11-16 oed a gymerodd ran yn arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2019 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), sef un o’r arolygon iechyd ieuenctid mwyaf o’i fath yn y DU. Mae’n dangos bod 22% wedi rhoi cynnig ar e-sigarét, i lawr o 25% yn 2017. Hefyd, bu gostyngiad o 3.3% i 2.5% yn y defnydd presennol o e-sigaréts (wythnosol neu fwy) dros y cyfnod hwn.

Mae arbrofi gyda tharthu (‘vaping’) (22%) – a ddiffinnir fel bod wedi rhoi cynnig ar e-sigarét – yn dal yn fwy poblogaidd na rhoi cynnig ar dybaco (11%), yn ôl y data. Ond mae’r gostyngiad hirdymor ymhlith y rhai sy’n ysmygu’n rheolaidd wedi arafu, gyda 4% o’r rhai a arolygwyd eu bod yn ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos yn 2019, yr un lefel ag yn 2013.

As we’ve seen in previous years, the numbers of young people using tobacco increased with age and were higher among young people from less affluent families

Dr Nicholas Page

Dywedodd Dr Nicholas Page, o’r Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “Mae monitro ymddygiadau ac agweddau pobl ifanc tuag at ysmygu a defnyddio e-sigaréts yn hanfodol er mwyn datblygu polisi iechyd cyhoeddus effeithiol yng Nghymru. Mae canfyddiadau ein harolwg diweddaraf yn awgrymu bod arbrofi ag e-sigaréts wedi gostwng am y tro cyntaf ers dechrau mesur yn 2013, ond mae’n parhau’n fwy nag arbrofi â thybaco. Mae ein data hefyd yn awgrymu bod defnydd rheolaidd o e-sigaréts yn dal yn brin ymhlith pobl ifanc yng Nghymru a’i fod wedi’i ganoli’n bennaf ymhlith ysmygwyr.”

“Er bod ein canfyddiadau’n dangos gostyngiad bach mewn arbrofi ag ysmygu ymhlith pobl ifanc ers 2017, mae canran yr ysmygwyr rheolaidd heb newid ers 2013. Fel y gwelsom ni mewn blynyddoedd blaenorol, cynyddodd nifer y bobl ifanc sy’n defnyddio tybaco gydag oedran ac roeddent yn uwch ymhlith pobl ifanc o deuluoedd llai cefnog – gan ddangos yr anghydraddoldebau sylweddol o ran ysmygu.”

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu bod canfyddiadau pobl ifanc o niwed ysmygu a defnyddio e-sigaréts wedi newid ers 2017. Mae canran uwch bellach yn credu bod y ddau sylwedd yr un mor niweidiol i iechyd, tra bod llai bellach yn credu bod ysmygu’n waeth na tharthu.

O’r newid mewn agweddau, dywedodd Dr Page: “Mae’n bwysig rhoi’r newid hwn yng nghyd-destun pryd y casglwyd ein data. Cynhaliwyd yr arolwg ar adeg pan oedd yr achosion o anaf ysgyfaint yn gysylltiedig â tharthu (EVALI) yn yr Unol Daleithiau yn cael sylw byd-eang yn y cyfryngau. Er nad ydym yn gwybod a gafodd hyn effaith, mae EVALI wedi bod yn gysylltiedig â newid tebyg mewn canfyddiadau o niwed ymhlith oedolion sy’n ysmygu yn Lloegr. Amser a ddengys a fydd hyn yn parhau i fod yn wir mewn arolygon yn y dyfodol.”

Er gwaethaf gostyngiad mawr yn nifer yr achosion o ysmygu yn ystod y degawdau diwethaf, mae tybaco’n parhau i fod yn un o brif achosion marwolaeth ac anabledd.

Ers iddynt ymddangos ym marchnadoedd y DU dros y degawd diwethaf, cydnabuwyd fwyfwy bod gan e-sigaréts ran i’w chwarae o ran helpu ysmygwyr i roi’r gorau iddi. Fodd bynnag, bu cryn ddadlau ar eu defnydd gan bobl ifanc achos gallai tarthu fod yn borth tuag at ysmygu. Cyflwynwyd rheoliadau ar gyfer e-sigaréts megis cyfyngiadau oedran gwerthu a chyfyngiadau ar farchnata a labelu cynnyrch yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

This evidence demonstrates that vaping is not a public health concern. The focus should firmly be on addressing the unacceptable smoking levels amongst young people

Suzanne Cass, CEO, ASH Wales

Mae’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr yn arolwg bob dwy flynedd ar sampl craidd o bobl ifanc 11-16 oed sy’n mynd i ysgolion sy’n cymryd rhan yng Nghymru. Yn 2019, cymerodd disgyblion o 198 o ysgolion ran.

Sefydlwyd SHRN yn 2013 ac fe’i harweinir gan DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Canser y DU a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) hefyd yn bartneriaid.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu ASH Wales: “Gyda’r defnydd o e-sigaretau’n cwympo ymhlith pobl ifanc, mae’r dystiolaeth hon yn dangos nad yw tarthu/vaping yn destun pryder i iechyd cyhoeddus. Dylid canolbwyntio’n gadarn ar fynd i’r afael â’r lefelau annerbyniol o ysmygu ymhlith pobl ifanc, sydd heb newid dros saith mlynedd er gwaethaf ein holl ymdrechion.

“Yn anffodus, mae ysmygu yn gaethiwed gydol oes sy’n dechrau mewn plentyndod yn aml ac rydym yn gwybod o’n hymchwil ein hunain bod 81% o ysmygwyr sy’n oedolion yn 18 oed neu’n iau pan gawson nhw eu sigarét gyntaf.

“Mae’r astudiaeth hon hefyd yn dangos bod y defnydd o tybaco ar ei uchaf ymhlith y bobl ifanc sy’n dod o’r teuluoedd tlotaf – patrwm sydd wedi’i adlewyrchu yn y gyfradd o oedolion sy’n ysmygu ac yn arwain at anghydraddoldebau iechyd trawiadol ar draws y wlad.”

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd. Mae’r adroddiad y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) ar gael yma:https://www.shrn.org.uk/national-data/