This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
PAN FO GWAITH YMCHWIL YN CHWARAE PLANT

Bethan Pell sy’n trafod y gweithgareddau ymarferol sy’n helpu plant a phobl ifanc i fynegi eu hunain yn ystod gwaith ymchwil sensitif

Ym mis Rhagfyr 2020, enillais Fwrsariaeth Ymchwilydd ar Ddechrau Gyrfa gan y Rhwydwaith Cam-drin, Trais ac Iechyd Meddwl, i gymryd rhan yng nghwrs hyfforddi ar-lein ‘Dulliau Creadigol mewn Ymchwil Ansoddol’.
Cefais fy ysgogi i ymgeisio am y cynllun hwn er mwyn datblygu fy ngwybodaeth, fy sgiliau a fy mhrofiad mewn methodolegau gweledol a chreadigol gyda phlant a phobl ifanc, yn benodol i ddatblygu a chynnal astudiaeth ddoethurol ym maes trais, cam-drin ac iechyd meddwl. Gallwch ddarllen mwy am fy rhesymau dros wneud cais am y fwrsariaeth a fy mhrofiad o’r cwrs yma.
Enillais y fwrsariaeth hon ar yr un pryd â chael fy mhenodi i swydd llawn amser yn DECIPHer, lle byddaf yn gweithio ar fwy o ymchwil yn ymwneud ag iechyd a lles plant a phobl ifanc. Felly roeddwn i’n teimlo y byddai fy natblygiad o’r cwrs hwn o fudd i mi yn fy rôl newydd yn DECIPHer.
Roedd Trefnu Lluniau yn rhoi mewnwelediad manwl i’r prosesau gwybyddol dan sylw wrth ddehongli a mynegi ein hunain’
Yn y blog hwn, byddaf yn archwilio mwy i’r gweithgareddau ymarferol, a oedd yn cynnwys dulliau gweledol a chreadigol fel trefnu lluniau, arteffactau a chreu modelau (gyda Lego neu flychau tywod). Roeddent yn gyfle i arbrofi a myfyrio ar ffyrdd amgen o gyfleu, mynegi a chynrychioli profiadau a theimladau trwy drosiadau gweledol. Er bod gen i brofiad presennol o ddefnyddio dulliau creadigol a gweledol gydag oedolion, mae’r dulliau hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth ystyried ymchwil sensitif gyda phlant a phobl ifanc a allai fod yn fregus.
Roedd Trefnu Lluniau yn rhoi mewnwelediad manwl i’r prosesau gwybyddol dan sylw wrth ddehongli a mynegi ein hunain, yn ogystal ag unigolrwydd yn y gweithgaredd, lle roedd gwahanol resymau a dehongliadau dros ddewis yr un llun – gan adlewyrchu cynrychioliadau mewnol yn allanol. Roedd hyn yn hynod ddiddorol i mi, ac fel cyfranogwr, roeddwn i wir wedi mwynhau clywed am ddehongliadau eraill. Roedd y gweithgaredd hwn yn ymddangos fel y byddai’n arbennig o ddefnyddiol mewn ymchwil gyda plant a phobl ifanc, gan roi mewnwelediad i brosesau a phenderfyniadau gwybyddol mewnol, y mae oedolion yn gallu cael trafferth eu cyfleu, heb sôn am blant!
Roeddwn i eisoes yn ymwybodol iawn o’r defnydd o Greu Modelau (Lego a bocsys tywod) mewn ymchwil gyda plant a phobl ifanc, ond roeddwn yn dal wedi fy nghyffroi gan ddyfnder y wybodaeth a gafwyd o gynrychiolaeth weledol yn unig, ynghyd â’r posibilrwydd o ennyn naratifau trwy siarad trwy’r broses greadigol.
Yn foesegol, mae’r dulliau hyn yn rhoi cyfle i fynegi a chynrychioli’r hunan, sy’n darparu ffyrdd mwy diogel a mwy deniadol o archwilio materion sensitif gyda phlant bregus mewn ymchwil.’
Rydw i wedi defnyddio Arteffactau fel dull creadigol a gweledol mewn ymchwil ddiweddar gyda chyfranogwyr sy’n oedolion a chredaf ei fod yn ffordd effeithiol sy’n effeithlon o ran amser ac adnoddau o integreiddio creadigrwydd mewn ymchwil. Ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y cwrs, roedd yn rhaid i ni ddewis gwrthrych a oedd yn cynrychioli bywyd fel ymchwilydd. Fe ddewisais i fat ioga, gan gymharu fy nhaith ag ethos ioga – ymarfer amynedd, adeiladu cryfder a sgiliau, gwerthfawrogi pwysigrwydd hyblygrwydd, myfyrio a chydbwysedd. Wrth wrando ar naratifau eraill, fe wnes i adlewyrchu sut roedd yr ymarfer hwn yn rhoi mewnwelediad i hunaniaeth ac ymdeimlad o hunan, tra hefyd yn darparu man cychwyn ar gyfer cwestiynau pellach. Roeddwn i’n gallu gweld sut y byddai’r dull hwn yn wych i’w ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc i helpu i adeiladu perthynas, gan annog naratifau ar hunan-gynrychioliadau ar yr un pryd.
Yn foesegol, mae’r dulliau hyn yn rhoi cyfle i fynegi a chynrychioli’r hunan, sy’n darparu ffyrdd mwy diogel a mwy deniadol o archwilio materion sensitif gyda phlant bregus mewn ymchwil. Wrth gwrs, byddai angen i chi ystyried eich cwestiynau ymchwil, fframweithiau theori presennol, ac addasrwydd pob dull mewn perthynas â’r rhain. At hynny, byddai cynhyrchu gwaith ar y cyd gyda phlant a phobl ifanc a rhanddeiliaid perthnasol eraill yn helpu i nodi a dewis dulliau creadigol a gweledol priodol ac yn sicrhau bod modd casglu data perthnasol. Yn ymarferol, gall rhai o’r dulliau creadigol hyn fod yn eithaf drud – er bod dewisiadau amgen sy’n gweithio cystal. Gall y mathau hyn o weithgareddau hefyd ychwanegu at brofiad cyfranogwyr. Maent yn llawer o hwyl i gymryd rhan ynddynt, gan dynnu sylw at sut y gellir gwneud ymchwil yn brofiad mwy deniadol a difyr i blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan.
Rwy’n hynod ddiolchgar i VAMHN am y cyfle i gymryd rhan yn y cwrs hwn, lle rydw i wedi cael y cyfle i gryfhau fy ngwybodaeth, fy nealltwriaeth a’m profiad o ddefnyddio methodolegau gweledol a chreadigol, yn arbennig gyda phlant a phobl ifanc. Byddwn yn argymell yn gryf i ymchwilwyr ymuno â rhwydweithiau sy’n gysylltiedig â’u diddordeb ymchwil, gan ddilyn cyfleoedd sydd nid yn unig yn gwella datblygiad proffesiynol, ond sy’n rhoi ymdeimlad o gyflawniad hefyd!
Rwy’n gobeithio defnyddio fy nysgu yn uniongyrchol yn fy rôl gyda DECIPHer, ac i gryfhau fy syniadau ymchwil ar gyfer fy astudiaeth ddoethurol arfaethedig o ran dilyniant a datblygiad.
Mae Bethan Pell yn Gydymaith Ymchwil yn DECIPHer. Gallwch ddod o hyd iddi ar Twitter yma.