Amgylchiadau a Sefydliadau Iach

Yr Athro Simon Murphy

Prif Ymchwilydd
Honor Young | Cardiff University | DECIPHer

Doctor Honor Young

Prif Ymchwilydd

Bydd y rhaglen hon yn datblygu ac yn gwerthuso dulliau system gyfan o wella iechyd poblogaeth a deall sut caiff y dulliau eu rhoi ar waith.  Yn hanesyddol, gwnaed y rhan helaeth o’n gwaith mewn ysgolion ac mae’n seiliedig ar fodel Ysgolion Hybu Iechyd, Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’r model hwn yn cysylltu agweddau lluosog ar fywyd ysgol, gan gynnwys y cwricwlwm, yr amgylchedd ffisegol a’r amgylchedd cymdeithasol, ac mae’n cysylltu â theuluoedd a’r gymuned leol. Mae gennym ymchwilwyr sy’n gweithio gydag ysgolion ar amrediad eang o feysydd iechyd â blaenoriaeth, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, bwyta’n iach, atal ysmygu, atal camddefnyddio alcohol, iechyd rhywiol a pherthnasoedd cymdeithasol iach.

Yn ogystal, mae DECIPHer yn arwain y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), sy’n dwyn ynghyd ysgolion, ymchwilwyr â sefydliadau allweddol ym maes polisi ac ymarfer, i wella ansawdd a lefel yr ymchwil i wella iechyd yn yr ysgol. Mae’r rhwydwaith wedi cefnogi dros 50 o astudiaethau ymchwil, gwerth dros £25 miliwn.

Yn y dyfodol, bydd gwaith yn ymwneud â lleoliadau addysg yn canolbwyntio ar addysg gynradd, uwchradd a phellach, a gwaith gydag Unedau Cyfeirio Disgyblion. Bydd ffocws penodol ar iechyd meddwl, yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau UKRI. Bydd datblygu carfan genedlaethol Cymru o fewn SHRN yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu astudiaethau epidemiolegol. Er y bydd ein ffocws cychwynnol ar leoliadau addysg, bydd ein fframweithiau a’n dulliau damcaniaethol yn symud i gefnogi astudiaethau ymchwil sy’n mabwysiadu ymagwedd system gyfan yn y gweithle ac mewn amgylchiadau cymunedol.

Studiaethau presennol a diweddar

Anfonwch e-bost at DECIPHer@caerdydd.ac.uk i gael gwybodaeth am yr astudiaethau hyn.

Hapdreial rheoledig clwstwr aml-ganolfan i ymchwilio i effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyrraeth anffurfiol yn yr ysgol, dan arweiniad cyfoedion, ar atal cyffuriau (astudiaeth Ffrindiau FRANK)

A all hyfforddiant llythrennedd yn y cyfryngau yn ymwneud ag alcohol, i blant a phobl ifanc, atal niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol? Adolygiad realistig o’r hyn sy’n gweithio i bwy, ac ym mha gyd-destunau

Dewis Modelau Rôl Gweithredol i Ysbrydoli Merched (CHARMING)

Integreiddio iechyd a lles i gwricwlwm yr ysgol: archwiliad dulliau cymysg o baratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ledled Cymru a’i effeithiau ar iechyd a lles.

Pathfinder Iechyd Meddwl: Integreiddio data generig, clinigol a ffenotypig i ddatblygu haenu, rhagweld a thriniaeth ym maes iechyd meddwl

Optimeiddio, profi dichonoldeb a hapdreial peilot o Ddewisiadau Cadarnhaol: ymyrraeth marchnata cymdeithasol yn yr ysgol i hybu iechyd rhywiol, atal beichiogrwydd anfwriadol yn ystod yr arddegau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr

Llythrennedd Ymchwil ar gyfer Bagloriaeth Cymru: Astudiaeth Gwmpasu

Gwerthuso Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol 2017

Effaith cyfoedion o ran defnyddio alcohol yn ystod y glasoed: ymchwilio i ddylanwadau cymdeithasol i hysbysu ymyrraeth dan arweiniad cyfoedion yn yr ysgol

Treial JACK: Hapdreial clwstwr aml-safle o ymyrraeth ryngweithiol seiliedig ar ffilm, i leihau cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau a hyrwyddo iechyd rhywiol cadarnhaol

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion: creu effaith lefel ranbarthol i ddeiliaid iechyd, addysg a gofal cymdeithasol

Deall amlygiad hysbysebion alcohol ymhlith disgyblion ysgol uwchradd: rôl oedran mewn ymgysylltu â’r cyfryngau

Prosiect Lles ac iechyd mewn ysgolion (WHISP) – Cam 1

Prosiect Lles mewn Addysg Uwchradd (WISE) – Hapdreial rheoledig clwstwr o ymyrraeth i wella’r hyfforddiant a’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i athrawon ysgol uwchradd

Rhyw a pherthnasoedd diogel mewn Addysg Bellach (SaFE): astudiaeth aml-achos, dulliau cymysg, i ddatblygu ymyrraeth gynhwysfawr ynghylch iechyd rhywiol i leoliadau addysg bellach

Astudiaethau blaenorol

Deall deilliannau i blant Cymru sy’n cael eu gosod mewn llety diogel

Her AB Filter: treial peilot a gwerthusiad proses o ymyrraeth atal ysmygu aml-lefel mewn lleoliadau addysg bellach

PLAN-A: Gwerthusiad hapdreial rheoledig clwstwr datblygu a dichonoldeb o Ymyrraeth Gweithgarwch Corfforol, dan arweiniad Cyfoedion, i Ferched Ifanc

Ymestyn a dadansoddi data Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

Gweithgarwch a Bwyta’n Iach yn ystod y Glasoed:

Prosiect Dawns Merched Bryste: Hapdreial rheoledig clwstwr o raglen ddawns ar ôl ysgol i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith merched 11 i 12 oed

Prosiect Dawns Merched Bryste: astudiaeth ddichonoldeb

CHETS – Newidiadau i Gysylltiad Plant â Mwg Tybaco yn yr Amgylchedd, Cymru

CHETS 2 – Newidiadau i Gysylltiad Plant â Mwg Tybaco yn yr Amgylchedd, Cymru 2: Ymchwil i ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant

Hapdreial rheoledig clwstwr i brofi effeithiolrwydd ymyrraeth addysgol i hyrwyddo golchi dwylo o ran lleihau absenoldeb mewn ysgolion cynradd

Gwerthuso’r Fenter Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

Gwerthuso’r Bws Coginio yng Nghymru

Adolygiad o dystiolaeth ar gyfer canllaw iechyd y cyhoedd NICE ar ‘Reoli gorbwysedd a gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc: gwasanaethau rheoli pwysau drwy ffordd o fyw’

Astudiaeth beilot o bolisïau alcohol a normau cymdeithasol ym mhrifysgolion Cymru

Atal camddefnyddio sylweddau: hapdreial rheoledig o’r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd 10-14 (y DU)

Iechyd a lles ysgolion: amgyffredion athrawon ysgol uwchradd

Astudiaeth gwmpasu a dichonoldeb y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Cefnogi pobl ifanc agored i niwed yn gymdeithasol ac yn emosiynol mewn ysgolion: gwerthusiad o wasanaeth Bounceback Barnardo’s

Effeithiau ysgolion ac ymyriadau yn amgylchedd yr ysgol ar iechyd: mapio tystiolaeth a chyfuniadau tystiolaeth

Fframwaith Ysgolion Hybu Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer gwella iechyd a lles myfyrwyr, a’u cyflawniad academaidd

Atal cam-ddefnyddio alcohol ymhlith pobl ifanc: treial archwiliadol a gwerthusiad o’r rhaglen “Kids, Adults Together”

Heini am Oes Blwyddyn 5: Hapdreial rheoledig clwstwr o ymyrraeth mewn ysgol gynradd i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gostwng ymddygiad eisteddog a gwella diet

Addasu a pheilota model ASSIST o gyflwyno ymyrraeth yn anffurfiol, dan arweiniad cyfoedion, i raglen atal cyffuriau ‘Talk to Frank’ mewn ysgolion uwchradd y DU (ASSIST+Frank): datblygu ymyrraeth a chynllun treial peilot

ASSIST (Arbrawf rhoi’r gorau i ysmygu mewn ysgolion) Hapdreial rheoledig o effeithiolrwydd ymyrraeth yn yr ysgol, dan arweiniad cyfoedion, yn ymwneud ag ysmygu

Datblygu a pheilota ymyrraeth mentora cymheiriaid i leihau cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau ymhlith plant sy’n derbyn gofal ac ymadawyr gofal

Ymgysylltu ag Ymchwil: Archwilio Potensial Cyd-gynhyrchu i Iechyd y Cyhoedd

GMI_ALC: Datblygu rhaglen hyfforddiant athrawon ar gyfer ymyrraeth cyfweliadau ysgogiadol grŵp i atal camddefnyddio alcohol mewn ysgolion uwchradd

Gwyddorau Ymddygiadol a Gwneud Penderfyniadau mewn Gofal Iechyd GW4 rhwydwaith GW4 (BeDMaSH)

Sut gall ymyriadau sy’n integreiddio addysg iechyd ac academaidd mewn ysgolion helpu i atal camddefnyddio sylweddau a thrais ymhlith pobl ifanc? Adolygiad systematig a chydblethu tystiolaeth

Cynyddu gweithgarwch corfforol mewn plant cyn oed ysgol: adolygiad systematig, dadansoddiad-meta cyfranogwyr unigol a chynllun ymyrryd peilot (PhD)

Ysgogi newid yn lleol mewn bwlio ac ymddygiad ymosodol trwy amgylchedd yr ysgol (CYNHWYSOL): hapdreial rheoledig clwstwr

Ymchwilio i’r defnydd o fentora i wella deilliannau iechyd, lles ac addysg, a chyflogadwyedd pobl ifanc (PhD)

Dewislen