Mynd i'r cynnwys
Home » Ymchwil » Rhaglenni » Arloesedd Methodolegol Ym Maes Gwyddoniaeth Iechyd Cyhoeddus Ac Ymyriadau

Arloesedd Methodolegol Ym Maes Gwyddoniaeth Iechyd Cyhoeddus Ac Ymyriadau

Fel arfer, mae gwelliant i wella iechyd y boblogaeth a datblygiad iechyd yn digwydd mewn systemau cymhleth iawn, fel ysgolion, systemau gofal cymdeithasol neu gymdogaethau. Mae datblygu tystiolaeth ac ymyriadau dan ddylanwad theori o fewn y systemau cymhleth hyn, gwerthuso sut mae’r rhain yn effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc, a deall sut gall canfyddiadau o werthuso gael eu hefelychu mewn ymarfer cyffredin, yn gallu bod yn heriol tu hwnt.

Mae rhaglen fethodoleg DECIPHer yn canolbwyntio ar ddatblygu arweiniad methodolegol ac ehangu arloesedd methodolegol, ar gyfer datblygu, gwerthuso a gweithredu ymyriadau i wella iechyd a lles. Mae gan DECIPHer hanes hir o arwain ym maes arweiniad ac arloesedd methodolegol, gan gynnwys datblygu arweiniad dulliau ar werthuso proses, darnau trafod ar wyddor ymyrryd systemau cymhleth a defnyddio data cyffredin o fewn treialon ac arbrofion naturiol, ac astudiaethau achos arloesedd methodolegol gan gynnwys fframwaith ar gyfer cyd-gynhyrchu ymyriadau a’u prototeipio.


Caiff nodau’r rhaglen eu cyflawni trwy bedair prif fecanwaith:

  1. Ymchwil “dulliau”, gan gynnwys astudiaethau wedi’u hariannu gan y Gyngor Ymchwil Meddygol yn canolbwyntio ar ddatblygu arweiniad methodolegol;
  2. Astudiaethau achos ar ymyrraeth fethodolegol o fewn astudiaethau ymyrryd, gan gynnwys astudiaethau datblygu, gwerthusiadau arbrofol naturiol gan ddefnyddio data cyffredin, hapdreialon rheoledig ac ymchwil weithredu;
  3. Cyhoeddi erthyglau golygyddol a darnau ‘mynegi barn’ methodolegol i ysgogi trafodaeth ar ffyrdd ymlaen ar gyfer ymchwil ymyrraeth;
  4. Rhaglen o addysgu cwrs byr a gydnabyddir yn rhyngwladol ar fethodoleg, a gyflwynir i ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisïau.

Mae meysydd ymchwil diweddar, presennol a rhai yn y dyfodol o fewn y rhaglen hon yn cynnwys datblygu canllawiau ar gyfer addasu ymyriadau cymhleth i gyd-destunau a dulliau newydd ar gyfer cynnwys y cyhoedd ac astudiaethau achos o arloesi methodolegol mewn gwyddor gweithredu, gwyddor systemau a’r defnydd o ddata arferol. Mae ein canllawiau diweddar ar addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd yn cael eu defnyddio’n eang yn rhyngwladol, gan gynnwys yn yr astudiaeth IMPACT sy’n defnyddio’r canllawiau i addasu ymyriadau o’r Unol Daleithiau i wella ansawdd bywyd pobl â dementia a’u gofalwyr ym Mheriw.


Prosiectau wedi’u mabwysiadu gan DECIPHer mewn Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Iechyd Cyhoeddus ac Ymyriadau: