Mae tair thema ganolog i’r rhaglen:
Ymyrraeth deuluol / Ymyrraeth yn yr Ysgol gydag Elfen Deuluol
Mae’r thema hon yn mynd i’r afael â datblygiad ymyriadau teuluol a all wella iechyd a lles plant a phobl ifanc yn cwmpasu amrywiaeth o ddeilliannau, gan gynnwys ysmygu, camddefnyddio alcohol ac iechyd meddwl. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar wella’r cysylltiad rhwng ysgolion a theuluoedd wrth wireddu dulliau ysgol gyfan o hybu iechyd. Dyma enghraifft o’r gwaith hwn:
- Amgyffredion ynghylch – a chysylltiad â – fepio ymhlith disgyblion ysgol gynradd, athrawon a rhieni (Chets Cymru 3) Prif Ymchwilydd: Graham Moore. Cyd-ymchwilwyr: Lianna Angel; Linsay Gray (Prifysgol Glasgow); Lauren Copeland; Jordan Van Godwin; Britt Hallingberg; Rachel Brown; Sarah MacDonald; Laurence Moore (Prifysgol Glasgow) Ariannwr: Ymchwil Canser y DU
Trais Domestig a Thrais gan Bartner Clos
Mae’r thema hon yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau i sicrhau diogelwch goroeswyr a’u plant, yn ogystal â hyrwyddo iechyd meddwl a lles. Dyma enghreifftiau o’r gwaith hwn:
- Gwerthusiad Braenaru Iechyd (SafeLives) Prif Ymchwilydd: G.J. Melendez-Torres. Cyd-Ymchwilwyr: Amanda Robinson; Honor Young; Rhiannon Evans; Heather Trickey; Kelly Buckley; Bethan Pell. Ariannwr: SafeLives
- Adferiad Teulu yn dilyn Cam-drin Domestig (FReDA) Treial dichonoldeb a gwerthusiad proses nythog o ymyrraeth seico-addysgol grŵp i blant sydd wedi dod i gysylltiad â thrais a cham-drin domestig Prif Ymchwilydd: Emma Howarth (Prifysgol Caergrawnt). Cyd-Ymchwilwyr: Graham Moore; Rhiannon Evans; Hannah Littlecott; Sara Long; Kelly Buckley. Ariannwr: NIHR-PHR
Plant a Phobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal
Mae’r thema hon yn archwilio anghenion a phrofiadau gofalwyr amrywiol a’r plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n gofalu amdanynt. Ar hyn o bryd, mae ymchwil yn archwilio ffactorau risg amrywiaeth o ganlyniadau, yn bennaf trwy ddefnyddio data cysylltiedig. At hynny, mae’n ymwneud â nodi, datblygu/addasu a gwerthuso ymyriadau i wella iechyd meddwl a lles. Dyma enghreifftiau o’r gwaith hwn:
- A yw gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau arhydol o garfan electronig ôl-weithredol Prif Ymchwilydd: Sara Long. Cyd-ymchwilwyr: Graham Moore, Jonathan Scourfield, Chris Taylor, David Fone, Daniel Farewell. Ariannwr: ESRC.
- Adolygiad systematig o ymyriadau i wella deilliannau iechyd meddwl a lles ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal (CHIMES), Prif Ymchwilydd: Rhiannon Evans. Cyd-Ymchwilwyr: Sarah MacDonald, Catherine Sampson, Ruth Turley, Mike Robling, Jane Noyes (Bangor), G.J. Melendez-Torres (Caerwysg). Ariannwr: NIHR-PHR