Mynd i'r cynnwys
Home » Ymchwil » Rhaglenni » Polisïau Dros Gyhoedd Iach

Polisïau Dros Gyhoedd Iach

Yn ei ddeng mlynedd gyntaf, cynhaliodd DECIPHer amrywiaeth o astudiaethau’n dylanwadu ar benderfyniadau polisi iechyd y cyhoedd cenedlaethol, ac yn gwerthuso’r penderfyniadau hyn. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwerthuso’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, sy’n parhau i gael ei weithredu ledled Cymru ddeng mlynedd ar ôl y treial, ac ymchwil y dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i wahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant. O 2020 ymlaen, bydd y rhaglen newydd, POLISÏAU DROS GYHOEDD IACH, yn adeiladu ar y gwaith hwn, gyda’r nod o ddylanwadu ar benderfyniadau gan fudiadau llywodraeth genedlaethol a lleol i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau, a gwerthuso sut caiff y penderfyniadau hyn eu gweithredu, a’u heffeithiau, ar yr un pryd.

Ac adeiladu ar ein hanes ym maes polisi tybaco a’i effeithiau ar gysylltiad pobl ifanc â thybaco a’u defnydd ohono, bydd meysydd polisi allweddol yn cynnwys rheoleiddio nwyddau nad ydynt yn iach. Bydd hyn yn cynnwys partneriaeth agos â chonsortiwm UKPRP, Shaping Public hEalth poliCies To RedUce harm (SPECTRUM), y mae eu tîm ymchwilwyr yn cynnwys dau aelod o dîm cyd-ymchwilwyr DECIPHer (Dr Graham Moore a Dr Julie Bishop).

Hefyd, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar effeithiau ar iechyd benderfyniadau polisi y tu hwnt i’r sector iechyd, gan gynnwys polisi addysg, gofal cymdeithasol a lles, yn cysylltu â thair rhaglen ymchwil arall DECIPHer. Bydd yn cysylltu â’r rhaglen Amgylchiadau Iach trwy waith sy’n canolbwyntio ar bolisi addysg, fel ymchwil sy’n mynd rhagddi i weithredu diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru. Bydd yn cysylltu â’r rhaglen Perthnasoedd Cymdeithasol Iach trwy waith sy’n canolbwyntio ar dlodi plant a cham-drin domestig; bydd arbenigwr blaenllaw ar bolisi cam-drin domestig, yr Athro Amanda Robinson, yn ymuno â thîm DECIPHer yn 2020. Hefyd, bydd y rhaglen hon yn rhoi enghreifftiau achos o arloesedd methodolegol ym maes gwerthuso polisïau ac ymchwil i weithredu polisïau, gan gysylltu â’n rhaglen addysgu ac ymchwil i fethodoleg.

Prif ffynhonnell ddata ar gyfer y pecyn gwaith hwn, y parheir ei ddefnyddio i ddylanwadu ar, a gwerthuso, polisïau’r llywodraeth, fydd arolygon dwyflynyddol Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), sydd bellach yn cael eu cysylltu â data cyffredin trwy gronfa ddata SAIL. Bydd DECIPHer yn gweithio gyda chonsortiwm SPECTRUM i ymestyn arolygon misol y pecyn cymorth ar ysmygu ac alcohol o Loegr i Gymru, a gwneud y mwyaf o’u heffaith ar benderfyniadau polisi yng Nghymru.


Astudiaethau a fabwysiadwyd gan Raglen y Polisïau dros Gyhoedd Iach

Astudiaethau presennol neu ddiweddar iawn sy’n canolbwyntio ar bolisi:


Astudiaethau hanesyddol

‘Bwyd a Hwyl’ Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)

CHETS

CHETS 2

CHETS 3

Gweithredu Tymor Hir ac Effeithiau’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghymru

Gwerthuso’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghymru

Ymestyn a dadansoddi data Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd