EFFAITH
Ysgol
Mae’r Rhwydwaith wedi llwyddo i recriwtio 100 y cant o’r ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn aelodau, felly mae wedi gwreiddio’i hun yn y system gwella iechyd mewn ysgolion ar y lefel leol.
Rhanbarthol
Cafodd Adroddiadau ar Iechyd a Lles Myfyrwyr, ar lefel yr Awdurdod Lleol, eu rhyddhau am y tro cyntaf yn 2018, yn dilyn galw yn lleol am ddata’r Rhwydwaith. Mae’r adroddiadau hyn wedi’u rhannu’n helaeth ymhlith timau gwasanaethau iechyd ac addysg lleol. Gallwch lawrlwytho enghraifft o adroddiad Awdurdod Lleol yma.
Cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio data’r Rhwydwaith at ddiben cynllunio a monitro polisi cenedlaethol, gan gynnwys polisïau allweddol yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a diwygio’r cwricwlwm cenedlaethol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi integreiddio’r SHRN yn llwyr i ddatblygiad ei Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (WNHSS) ac i werthuso’r rhain.
Mae data o arolygon y Rhwydwaith ac ymchwil ddilynol wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol. Dyma rai enghreifftiau o’r ffyrdd y defnyddiwyd ei ymchwil:
Y DU a Rhyngwladol
Aeth yr Athro Simon Murphy a phartneriaid y Rhwydwaith yn Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfarfodydd Sefydliad Iechyd y Byd yn Copenhagen yn 2018 a 2019 i gyfrannu at gynllunio rhwydwaith iechyd ysgolion peilot, Ewrop gyfan.
Mae SHRN wedi bod yn allweddol wrth gefnogi rhwydwaith SHINE yn yr Alban, sef cydweithrediad ymchwil rhwng Prifysgol Glasgow a Phrifysgol St Andrews. Mae SHINE yn fodel peilot seiliedig ar seilwaith SHRN.
Mae gwybodaeth fanylach am effaith SHRN i’w chael ar wefan SHRN.