Er mwyn mynd i’r afael â heriau iechyd cyhoeddus cymhleth mae DECIPHer yn mabwysiadu ymagwedd cylch rhwydwaith draws ddisgyblaethol.
I’r perwyl hwn rydym ni wedi datblygu nifer o rwydweithiau iechyd cyhoeddus uchel eu heffaith yn llwyddiannus. Sefydlwyd y cyntaf o’r rhain, Rwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd (PHIRN), yn 2005. Nod cyffredinol PHIRN oedd gweithio gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr ar gam cynnar i lunio cwestiynau ymchwil a hyrwyddo arbrofion naturiolaidd drwy ‘asesu’r hyn sydd ar y gorwel’ a thrwy ymwneud â chylchoedd cynllunio polisi.