
Prif Ymchwilydd
Rhiannon Evans
Cyd-ymchwilwyr
Simon Murphy, Lauren Copeland, Amy Edwards, Peter Gee, Gillian Hewitt, Helen Morgan, Nick Page, Joan Roberts, Simone Willis
Cefndir
Mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru yn flaenoriaeth. Mae bron i 20 y cant o ddysgwyr ym Mlynyddoedd ysgol 7-11 yn nodi cyfraddau uchel o symptomau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, ond eto mae mwy na chwarter yn teimlo bod diffyg cymorth iechyd meddwl ar gael iddynt yn yr ysgol. Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaeth cwnsela annibynnol i gefnogi anghenion iechyd, emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc ym Mlynyddoedd ysgol 6-13. Yn 2020, fel rhan o ymrwymiad ariannol ehangach i’r Dull Ysgol Gyfan o ymdrin [GH1] â lles emosiynol a meddyliol, cytunodd Swyddogion Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau cwnsela ysgolion a chymunedol, gan ymestyn yr hawl i bob plentyn o oed ysgol gynradd (4—11 oed) yng Nghymru. Comisiynwyd yr astudiaeth ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymrwymiad hwn.
Nodau ac Amcanion
Nod cyffredinol yr astudiaeth hon oedd canfod sut i wneud y gorau o ddarpariaeth gwasanaeth cwnsela ar gyfer plant oes ysgol gynradd a phobl ifanc oed ysgol uwchradd.
Nodau penodol yr ymchwil oedd:
- Cynnal adolygiad ffurfiol o addasrwydd at y diben o wasanaethau cwnsela statudol ysgolion a chymunedol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed a ddarperir drwy Awdurdodau Lleol ledled Cymru.
- Archwilio angen ac opsiynau ar gyfer ymestyn cwnsela i blant iau, 4 oed a hŷn.
- Gwneud argymhellion ynghylch gwelliannau i’r ddarpariaeth, monitro a gwerthuso gwasanaethau, yn seiliedig ar ddamcaniaeth newid ar sail tystiolaeth ar gyfer gwasanaethau.
Cynllun yr Astudiaeth
Defnyddiodd yr astudiaeth ymagwedd dulliau cymysg ac ymgymerodd â’r canlynol:
- Adolygiad cyflym o dystiolaeth o werthusiadau o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a chymunedau yn y DU.
- Dadansoddiad uwchradd o setiau data bob dwy flynedd ar lefel ysgolion uwchradd a dysgwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN).
- Mapio’r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a’r gymuned yng Nghymru.
- Ymgynghoriadau gyda phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, staff ysgolion ac arweinwyr gwasanaeth cwnsela LA.
- Cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol y system.
- Astudiaethau achos gydag ysgolion cynradd ac uwchradd.
Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau
Adolygiad o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a chymunedol (gwefan Llywodraeth Cymru)
Sut allwn ni wella gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion? Model newydd ar gyfer y cyd-destun addysg presennol (Gweminar, YouTube)
Dyddiad dechrau
Tachwedd 2020
Dyddiad gorffen
Mawrth 2022
Arianwyr
Llywodraeth Cymru
Swm
£149,982.30