Mynd i'r cynnwys

Gweithredu Rhestr Gwirio Maeth Cymdeithas y Cleifion gan brosiect Eat Well Age Well yr elusen Food Train yng Ngororau’r Alban

Prif Ymchwilydd


Dr Jemma Hawkins


Cyd-ymchwilwyr


Dr Elinor Coulman, Yr Athro Simon Murphy


Y Cefndir


Dangoswyd bod diffyg maeth yn effeithio ar dros 1.3 miliwn o bobl hŷn (dros 65 oed) yn y Deyrnas Unedig a gallai’r ffigur hwn fod yn waeth yn dilyn pandemig COVID-19. Mae diffyg maeth, ar ffurf tanfaethiad (h.y. peidio â bwyta digon o faetholion neu fwyd), yn cael effeithiau andwyol ar ganlyniadau iechyd a lles, gan gynnwys mwy o risg o fynd i’r ysbyty. Ar ben hynny, mae lefelau diffyg maeth yn y gymuned i raddau helaeth heb eu canfod a heb eu trin. Mae Rhestr Gwirio Maeth Cymdeithas y Cleifion (y cyfeirir ati fel y “Rhestr Wirio”) yn offeryn syml a ddefnyddir i nodi a allai oedolion hŷn fod mewn perygl o danfaethiad (sydd angen cymorth maethol). Mae’r Rhestr Wirio yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd gan brosiect Eat Well Age Well Food Train yn rhanbarth Gororau’r Alban.


Nodau ac Amcanion


Nod y prosiect hwn yw darganfod a yw defnyddio’r Rhestr Wirio yn y gymuned yn fuddiol i bobl hŷn a’r staff/gwirfoddolwyr yn y gymuned sy’n defnyddio’r Rhestr Wirio. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn y prosiect yn helpu i gyflwyno’r Rhestr Wirio yn ehangach yn yr Alban ac yn y Deyrnas Unedig.


Cynllun yr Astudiaeth


Yn y prosiect hwn, byddwn yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sy’n defnyddio’r Rhestr Wirio (yn y sectorau gwirfoddol, tai a gofal cymdeithasol), a’r staff/gwirfoddolwyr sy’n gweithio iddynt. Bydd y sefydliadau hyn yn darparu data gweithredol am nifer yr oedolion hŷn y maent yn defnyddio’r Rhestr Wirio gyda nhw ac a ydynt yn cael eu nodi fel rhai sydd mewn perygl o danfaethiad. Byddwn yn cyfweld â hyd at 15 o staff/wirfoddolwyr sy’n defnyddio’r Rhestr Wirio a hyd at 15 aelod o staff rheoli perthnasol yn y sefydliadau i archwilio eu profiadau o ddefnyddio’r Rhestr Wirio ac unrhyw fuddion/anfanteision posibl o ddefnyddio’r Rhestr Wirio. Byddwn yn dadansoddi ffurflenni gwerthuso o’r hyfforddiant y mae gweithredwyr yn ei dderbyn cyn defnyddio’r Rhestr Wirio. Byddwn hefyd yn darganfod a oes data a gedwir gan wasanaethau’r GIG a allai ein helpu i ddeall effaith y Rhestr Wirio yn y dyfodol, a byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am y costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r Rhestr Wirio.


Cyfranogiad y Cyhoedd a Rhanddeiliaid


Datblygwyd y prosiect mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â chefnogi cyflwyno’r Rhestr Wirio gan gynnwys Cymdeithas y Cleifion, prosiect Eat Well Age Well yr elusen Food Train, NHS Borders, Cyngor Gororau’r Alban, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Bournemouth a chynrychiolwyr oedolion hŷn. Mae cyfranogiad y cyhoedd ac ymarferwyr yn natblygiad y prosiect wedi digwydd gan ddilyn amrywiaeth o ddulliau. Mae ymgynghoriad un-i-un gyda chynrychiolwyr y cyhoedd, a recriwtiwyd o fenter Pobl mewn Ymchwil NIHR, wedi sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n wynebu cyfranogwyr wedi’u llunio ar y cyd ag aelodau’r cyhoedd, gan gynnwys deunyddiau casglu data a mesurau canlyniadau. Mae cyfranogiad parhaus ac ystyrlon y cyhoedd drwy gydol y prosiect wedi cael ei arwain gan gynrychiolwyr cyfranogiad y cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau ar y cyd â’r tîm ymchwil i ddylunio prosiectau, yr holl ddeunyddiau sy’n wynebu’r cyfranogwyr, adroddiadau prosiect a deunyddiau lledaenu. Cyflawnir hyn drwy gyfarfodydd cyfranogiad y cyhoedd â ffocws, gyda chynrychiolwyr cyhoeddus, yn ogystal ag aelodaeth o gynrychiolwyr cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd rheoli prosiect, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau a rennir yn cael eu gwneud ar lefel rheoli prosiectau.


Dyddiad cychwyn

01/01/22


Dyddiad gorffen

31/12/22


Arianwyr


Ariennir yr astudiaeth hon drwy Dîm Astudiaethau Ymatebol Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus NIHR drwy Insight PHIRST, PHIRST Bryste a Chaerdydd.