
Mis Medi
Croesawodd DECIPHer dri academydd o Ddenmarc – Dr Knud Ryom a Dr Julie Sandell Jacobsen o Brifysgol Aaarhus a Dr Louise Lund Thompsen o Brifysgol Aalborg. Daeth eu hymweliad i ben gyda seminar ymchwil yn SPARK|SBARC am eu meysydd gwaith a chyfleoedd i gydweithio.

- Cyflwynodd Dr Ryomn ar The Child-COOP Denmarc: Ymagwedd System Gyfan at Hybu Iechyd Plant mewn Cymunedau Denmarc.
- Cyflwynodd Dr Sandell Jacobsen Dreial MoveTheHip: Cymharu Ymarfer Corff ac Addysg Cleifion â Gofal Arferol wrth Drin Dysplasia Clun.
- Cyflwynodd Dr Thomsen Broses Gwerthusiad Realydd Ansoddol.
Aeth Dr Yulia Shenderovich i gynhadledd flynyddol SVRI (Menter Ymchwil Trais Rhywiol) yn Cancun. Dan arweiniad Mackenzie Martin, cyflwynodd y Gweithredwr Ansawdd Cyflawni a Phrofiadau ar Raddfa yn Tanzania.
Cyflwynodd Dr Yulia Shenderovich Cefnogi Teuluoedd mewn Lleoliadau Heriol fel rhan o gynhadledd y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Atal. Roedd Dr Hayley Reed hefyd yn bresennol, a chyflwynodd Gydgynhyrchu fel Methodoleg sy’n dod i’r amlwg ar gyfer datblygu ymyriadau iechyd a lles mewn ysgolion gyda rhanddeiliaid ysgolion uwchradd.
Mis Hydref
Aeth Dr Kelly Morgan i gynhadledd ISPAH (Y Gymdeithas Ryngwladol dros Weithgarwch Corfforol ac Iechyd) yn Abu Dhabi. Cyflwynodd Dr Morgan Gynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru: Lefelau atgyfeirio, derbyn ac ymlynu at ymarfer corff dros ddeng mlynedd.
