Croeso i’n tudalen ALPHA! Bydd y dudalen hon yn esbonio popeth sydd angen i chi ei wybod am ALPHA.
Nod ALPHA yw gweithio gydag ymchwilwyr iechyd y cyhoedd yn DECIPHer, gan roi cyngor a mewnwelediad i farn, safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc ar bynciau iechyd y cyhoedd a gwaith ymchwil sy’n berthnasol iddynt.
Mae DECIPHer yn gwobrwyo pobl ifanc am eu cyfraniadau drwy eu gwobrwyo am eu hamser, darparu profiadau newydd a llawer o gyfleoedd newydd.
Beth mae ALPHA yn ei wneud?
Beth mae ALPHA yn ei wneud? Mae ALPHA yn gweithio gydag ymchwilwyr i helpu i lywio’r gwaith ymchwil y maent yn gweithio arno. Mae ein hymchwilwyr DECIPHer yn gweithio ar bynciau yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Mae ein hymchwilwyr yn deall bod angen iddynt siarad â phobl ifanc er mwyn cynnal gwaith ymchwil ar unrhyw beth sy’n effeithio ar bobl ifanc. Dyma gyflwyno ALPHA! Mae pobl ifanc yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, a gydag aelodau ALPHA sy’n byw ar draws de Cymru yn dod at ei gilydd, cewch brofiadau a safbwyntiau gwahanol. Mae ALPHA yn cyfarfod 10 gwaith y flwyddyn yn ein swyddfa yn SPARK yng Nghaerdydd. Cynhelir y cyfarfodydd ar ddydd Sadwrn 12-4pm.
‘Ymunais ag ALPHA oherwydd roedd gen i ddiddordeb yn y cyfleoedd sydd gan ymchwil iechyd y cyhoedd i’w cynnig ac arhosais yn ALPHA oherwydd y cyfleoedd anhygoel rydw i wedi’u cael, y bobl rydw i wedi cwrdd â nhw a’r ffrindiau rydw i wedi’u gwneud.’
– Isabella, 17‘Ymunais ag ALPHA oherwydd cefais gyfle i ddysgu pethau newydd fel iechyd meddwl, ac ati. Rwyf hefyd yn hoffi gweld ffrindiau newydd hefyd a gwneud gweithgareddau.’
– Huw, 22
Beth os na allaf gyrraedd yno?
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu bod yn bresennol ac nad oes unrhyw rwystrau. Rydym yn darparu’r holl docynnau teithio cyn cyfarfodydd ac mae lleoedd parcio ar gael. Mae’r swyddfa yn daith gerdded fer o ganol dinas Caerdydd.ardiff city centre.
Rydym wedi datblygu animeiddiad i egluro beth yn union y mae ALPHA yn ei wneud a pha effaith a gaiff. Cymerwch olwg!
Dyma’r tîm!
Dr Hayley Reed
Academic Lead
Sophie Jones
Senior Public Involvement Officer
Kirsten Mackay
Session Youth Worker (ALPHA)
Abbey Rowe
General Administrative Assistant
Cysylltwch â Thîm Cynnwys y Cyhoedd DECIPHer drwy e-bostio:
Decipherpublicinvolvement@cardiff.ac.uk
Dyma ein blogiau diweddaraf a ysgrifennwyd gan aelodau ALPHA:
-
Rydyn ni i gyd yn unigryw ond rhywsut mae ein syniadau ni i gyd yn disgyn i’w lle fel jig-so.’ Dal i fyny gyda thîm ALPHA
-
Mae Alpha yn cefnogi grŵp cynghori ieuenctid TRIUMPH