Mynd i'r cynnwys
Home » ‘Yn werthfawr iawn, yn broffesiynol ac yn bersonol.’ Lleoliad DECIPHer Trine

‘Yn werthfawr iawn, yn broffesiynol ac yn bersonol.’ Lleoliad DECIPHer Trine

  • Flog
Tagiau:

Trine Brøns Nielsen, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aarhus yn Nenmarc, yn myfyrio ar ei hymweliad astudio chwe wythnos â DECIPHer.

Fy nghefndir yw ffisiotherapi, ac mae gen i MSc mewn hybu iechyd. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aarhus yn Nenmarc, a dw i wedi fy nghyflogi gan uned ymchwil o’r enw DEFACTUM. Bues i’n gweithio fel ffisiotherapydd ym maes adsefydlu niwrolegol cyn dechrau ym maes ymchwil dair blynedd yn ôl. Hyd yma, dw i wedi bod yn gweithio’n bennaf ar ymchwil adsefydlu ar sail ymarfer, a maes COVID hir.

Yn DEFACTUM, rydw i’n rhan o raglen ymchwil sy’n gweithio ar ddatblygu ac arfarnu ymyriadau iechyd y cyhoedd cymhleth. Rydyn ni’n cael ein hysbrydoli gan fframwaith MRC ar gyfer Arfarnu Prosesau, a ddatblygwyd gan Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer). Felly, pan roedd yn rhaid i mi ddewis uned ymchwil dramor i fynd ar leoliad gorfodol yn ystod y prosiect PhD, roedd DECIPHer yn ddewis naturiol. Nes i a’m goruchwylwyr gysylltu â Jemma Hawkins, ac yn fuan iawn cytunwyd y bydden i’n cael dod i aros ar gyfnod ymchwil chwe wythnos gyda DECIPHer o fis Medi 2024.

Cyn cyrraedd, ro’n i’n edrych ymlaen yn fawr ond yn nerfus am fynd dramor cyhyd, a bod yn rhan o uned ymchwil arall. Yn ffodus i mi, ro’n i wedi cymryd rhan mewn cwrs byr pum diwrnod DECIPHer fis Mehefin, ychydig fisoedd yn gynharach. Oherwydd hyn ro’n i eisoes wedi cwrdd â sawl aelod staff. Roedden nhw i gyd yn garedig iawn ac yn barod i helpu. Cefais gyfle i chwarae tenis bwrdd gyda nhw dros egwyliau cinio ar y cwrs. Ro’n i’n siŵr y bydden i’n mwynhau’r profiad.

Trine a Jemma yn SPARK

Ac fe wnes i! Cyrhaeddais yr un pryd â dau fyfyriwr PhD arall: Kajsa Söderhielm o Sweden a fy nghydweithiwr, Mia Fredens. Ar ein diwrnod cyntaf, rhoddodd Jemma groeso cynnes i ni i gyd a thaith dywys o amgylch yr adeilad a’n cyflwyno i weddill y staff a’r myfyrwyr PhD eraill sy’n ymweld o dramor. Dysgais yn gyflym fod DECIPHer yn lle gwych a chroesawgar i weithio, a bod pawb yn awyddus i drafod eu gwaith a rhannu barn ar leoedd i ymweld â nhw a phethau i’w gweld yn ystod fy arhosiad.

Trwy gydol y cyfnod, cefais sgyrsiau diddorol iawn am fy mhrosiect fy hun gyda Rachel Brown, Jeremy Segrott a Jemma, a dysgais lawer am y prosiectau sydd ar waith yn DECIPHer drwy sgyrsiau a chyflwyniadau gan ymchwilwyr a myfyrwyr PhD eraill. Hefyd, nes i fwynhau’r clybiau ysgrifennu dan arweiniad Rabeea’h Aslam. Roedden nhw’n gyfuniad gwych o amser ysgrifennu â ffocws a chwrdd â chydweithwyr eraill. Er na ges i gyfle i chwarae tenis bwrdd eto yn ystod fy arhosiad, buom yn brysur yn datrys posau dros ginio ac yn mwynhau coffi da, diodydd a bwyd mewn caffis a thai tafarn lleol.

Ar y cyfan, mae fy arhosiad ymchwil gyda DECIPHer wedi bod yn werthfawr iawn, yn broffesiynol ac yn bersonol. Rydw i wedi cwrdd â phobl hynod garedig a sgilgar, a dw i’n gobeithio aros mewn cyswllt â nhw. Dw i wedi profi diwylliant a natur hardd Cymru, ac wedi dysgu rhai geiriau Cymraeg. Os oes unrhyw un yn ystyried mynd ar leoliad neu arhosiad ymchwil tebyg, bydden i’m yn meddwl dwywaith cyn argymell DECIPHer.

Dim ond un peth sydd gen i ar ôl i’w ddweud: Diolch!