Mynd i'r cynnwys
Home ยป Cyrsiau Byr ยป Arloesedd Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Addasu Ymyriadau i Gyd-destunau Newydd

Arloesedd Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Addasu Ymyriadau i Gyd-destunau Newydd

Dyddiad y cwrs

Dydd Iau 17 Medi 2026


Manylion y cwrs

Nod y cwrs undydd hwn, a arweinir gan yr Dr Rhiannon Evans, yw rhoi gwybodaeth ymarferol i gyfranogwyr am ddadleuon, theori ac arloesi methodolegol wrth addasu ymyriadau ar gyfer cyd-destunau newydd. Bydd yr addysgu yn canolbwyntio ar ganllawiau methodolegol diweddar a ariannodd MRC-NIHR dan arweiniad DECIPHer ar addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd.


Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Pryd a pham y gallai fod yn fwy priodol addasu ymyriad presennol yn hytrach na datblygu un newydd;
  • Dadleuon, cysyniadau ac egwyddorion allweddol mewn perthynas ag addasu ymyriadau;
  • Sut i ddewis ymyriadau presennol ar gyfer cyd-destunau newydd ac ystyried ymyrraeth-cyd-destun;
  • Sut i gynllunio ac ymgymryd ag addasiadau;
  • Sut i benderfynu pa fath a maint y gwerthusiad (a monitro gweithrediad) sydd ei angen ar gyfer ymyriadau wedi’u haddasu.

Ar gyfer pwy mae hyn?

Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd รข diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.

Nid oes angen i chi fod wedi gwneud cyrsiau byr eraill DECIPHer.


Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.


Darlleniadau allweddol

Addasu ymyriadau i gyd-destunau newyddโ€”canllawiau ADAPT

Addasu ymyriadau iโ€™w gweithredu a/neu eu hailwerthuso mewn cyd-destunau newydd: Canllawiau ADAPT (v1.0)

Gwefan ADAPT


Lleoliad y cwrs

sbarc|spark, Prifysgol Caerdydd, CF24 4HQ


Ffiโ€™r cwrs

ยฃ250

Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu รข Zoe Macdonald: macdonaldz@caerdydd.ac.uk.


Arweinwyr y cwrs

Dr Rhiannon Evans


Archebu

Neges Bwysig: Bydd y ddolen uchod yn eich ailgyfeirio i gofrestru drwy borth ar-lein Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus Prifysgol Caerdydd i gadw lle. Mae mannau yn destun argaeledd ac yn cael eu dyrannu ar sail cyntaf iโ€™r felin โ€“ mae galw mawr am y cyrsiau byr hyn felly rydyn niโ€™n argymell eich bod chiโ€™n cofrestru cyn gynted รข phosibl i osgoi cael eich siomi. Does dim modd i ni gadw lle ar unrhyw un oโ€™r cyrsiau. Dydy eich lle ar y cwrs ddim wediโ€™i warantu nes eich bod wedi cofrestruโ€™n swyddogol drwyโ€™r system cadw lle a derbyn e-bost yn cadarnhau hynny. 

Dull Talu:Y dull o dalu a ffefrir yw taliad cerdyn neu BACS. Os ydych yn talu drwy anfoneb ac yn gweithio i sefydliad y sector cyhoeddus, bydd angen copi PDF oโ€™ch archeb brynu cyn bod modd rhoi anfoneb. E-bostiwch hwn i train@caerdydd.ac.uk. Mae modd cofrestru ac anfon manylion talu ar รดl hynny os oes angen.

Cysylltwch รข Lucy Griffiths (Griffithsl44@caerdydd.ac.uk) neu Zoe Macdonald (MacdonaldZ@caerdydd.ac.uk)  os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.