
Mae gan ymchwil DECIPHer ystod eang o effeithiau ar bolisïau ac ymarfer yng Nghymru a thu hwnt, yn unol â’n cenhadaeth i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau.
Un o themâu craidd ymchwil DECIPHer yw datblygu methodolegau ar gyfer gwyddor ymyrraeth, a thrwy hyn, rydyn ni’n cael effeithiau pellgyrhaeddol ar arferion grwpiau gwyddonol eraill hefyd.

Astudiaethau achos effaith REF
Ers ei sefydlu yn 2009, mae DECIPHer wedi arwain neu gyfrannu at dair astudiaeth achos effaith y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). Mae’r rhain yn cynnwys:
- Diogelu iechyd plant drwy greu cyfreithiau tybaco ac e-sigaréts newydd (dan arweiniad DECIPHer REF2021):https://results2021.ref.ac.uk/impact/e7801719-3ad2-4af2-8e8f-5c021a14d333?page=1.
- Gwella profiadau addysgol plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yng Nghymru (dan arweiniad CASCADE gyda chyfraniadau gan DECIPHer; REF2021): https://results2021.ref.ac.uk/impact/33ab52a6-e97e-488a-af77-300ba7caba46?page=1.
- Treial Rhoi’r Gorau i Ysmygu mewn Ysgolion (ASSIST) yn ysgolion Cymru a Lloegr (dan arweiniad DECIPHer REF2014).

Astudiaethau diweddar a chyfredol gydag effeithiau sy’n dod i’r amlwg ar bolisïau ac ymarfer
Yn ystod ein cam presennol (2025-30), rydyn ni’n cwblhau ac yn cynnal ystod eang o astudiaethau a fydd o bosibl yn cael effaith ar bolisïau ac ymarfer. Er enghraifft:
- Mae allbynnau o’n gwerthusiad parhaus o Ddull Ysgol Gyfan Llywodraeth Cymru o ymdrin ag iechyd meddwl a lles wedi cynhyrchu adnoddau sydd bellach ar gael i holl staff ysgolion yng Nghymru drwy Hwb.
- Mae canfyddiadau ymchwil a gefnogwyd gan DECIPHer ar atal trais ieuenctid wedi bod yn sail i lawlyfr ymyrraeth a ddefnyddir gan ysbytai yng Nghymru.
- Mae ymchwil ar brydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd yn ehangu ymchwil blaenorol DECIPHer ar frecwast am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd, sy’n parhau i gael eu cynnig ledled Cymru, 15 mlynedd ar ôl ein gwerthusiad.
- Mae adolygiad CHIMES (adolygiad dan arweiniad DECIPHer o ymyriadau iechyd meddwl ar blant mewn gofal) wedi bod yn sail i’r papur gwyn UNICEF hwn: https://www.unicef.org/eca/reports/introducing-mental-health-and-well-being-lens-continuum-care-europe-and-central-asia

Partneriaethau ymchwil wedi’u cynnal yn rhannol yn DECIPHer
Mae DECIPHer hefyd yn cynnal elfennau o sawl partneriaeth fawr sy’n effeithio ar bolisïau ac ymarfer ymchwil drwy:
- Adolygiadau tystiolaeth: https://www.exeter.ac.uk/research/groups/medicine/esmi/workstreams/nihrpublichealthreviewteam/.
- Gwerthusiad cyflym: https://phirst.nihr.ac.uk/about-phirst/phirst-insight/.
- Hyrwyddo ymchwil ymddygiadol ledled y DU: https://usher.ed.ac.uk/behavioural-research-uk.

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN)
Mae’r Rhwydwaith, yng nghanolfan DECIPHer, hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddylanwadu ar bolisïau ac ymarfer addysgol i wella iechyd mewn ysgolion, gan weithio gydag ysgolion unigol a chydlynwyr ysgolion iach.
Gweler effaith y Rhwydwaith isod: https://www.shrn.org.uk/impact-and-case-studies/.
Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar gael yma: https://www.shrn.org.uk/.

Effeithiau ar waith grwpiau gwyddonol eraill
Rydyn ni wedi cyhoeddi a rhannu ystod o waith methodolegol sydd wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran sut mae gwyddor ymyrraeth yn cael ei chyflawni gan dimau academaidd eraill ledled y byd, ym maes iechyd y cyhoedd a thu hwnt. Ymhlith yr allbynnau nodedig roedd:
- Canllawiau’r Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer gwerthuso prosesau ymyriadau cymhleth: https://www.bmj.com/content/350/bmj.h1258.
- Canllawiau ar addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd:https://www.bmj.com/content/374/bmj.n1679.
- Fframwaith ar gyfer creu ymyriadau ar y cyd: https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/28870192/.
Mae’r gwaith methodolegol hwn yn sail i’n cyrsiau byrion i weithwyr proffesiynol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Defnyddir ein gwaith methodolegol yn eang gan fyfyrwyr PhD, a thimau ymchwil profiadol mawr ledled y byd. Er enghraifft, dros y chwe blynedd diwethaf, rydyn ni wedi cynnig hyfforddiant yn rheolaidd i garfannau o 20–30 o fyfyrwyr doethurol y flwyddyn yn Karolinska Institutet, ac mae llawer ohonyn nhw’n defnyddio ein dulliau yn eu hymchwil.
