Mynd i'r cynnwys
Home » Cyrsiau Byr » Arloesedd Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Gwerthuso’r Broses

Arloesedd Methodolegol mewn Gwyddor Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd: Gwerthuso’r Broses

Dyddiad y cwrs

Dydd Mercher 16 Medi 2026


Manylion y cwrs

Nod y cwrs undydd hwn, dan arweiniad y Cymrawd Ymchwil Dr Yulia Shenderovich, yw cynnig gwybodaeth dda am theori ac ymarfer gwerthuso ymyriadau cymhleth drwy broses.

Mae’r tîm addysgu yn cynnwys awduron o sawl darn empirig a methodolegol o waith sy’n gysylltiedig â gwerthuso prosesau, gan gynnwys Dr Swetha Sampathkumar, Amy Edwards a Jordan Van Godwin.


Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Ystyried elfennau allweddol gwerthuso prosesau, megis ffyddlondeb a derbynioldeb ymyriadau cymhleth;
  • Rôl gwerthuso prosesau wrth ddeall ymyriadau cymhleth;
  • Pwysigrwydd damcaniaeth ymyrryd a modelau rhesymeg;
  • Cywirdeb a gweithredu ymyriadau cymhleth;
  • Materion ynghylch adnoddau a pherthnasoedd;
  • Pennu cwestiynau a chyfuno dulliau.

Ar gyfer pwy mae hyn?

Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.

Nid oes angen i chi fod wedi gwneud cyrsiau byr eraill DECIPHer.


Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.


Lleoliad y cwrs

sbarc|spark, Prifysgol Caerdydd, CF24 4HQ


Ffi’r cwrs

£250

Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu â Zoe Macdonald: macdonaldz@cardiff.ac.uk.


Arweinwyr y cwrs

Dr Yulia Shenderovich


Archebu

Mae cofrestriadau cyrsiau ar gyfer 2026 bellach ar gau.

Os hoffech gael gwybod pan fydd y gofrestru’n agor, cysylltwch â DECIPHer@caerdydd.ac.uk gyda chais i gael eich ychwanegu.