


*Wedi’i archebu’n llawn*
Dyddiad y Cwrs
Gorffennaf 3-7 2023 (cwrs pum diwrnod), SBARC, Prifysgol Caerdydd. Cofrestrwch i ymuno â’n rhestr bostio er mwyn cael gwybod pryd y gellir cofrestru.
Manylion y cwrs
Cyflwynir y cwrs gan arbenigwyr ym maes gwyddor ymyrraeth iechyd y cyhoedd o DECIPHer a’n sefydliadau cydweithredol gan gynnwys Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Sheffield ac eraill, i’w cadarnhau.
Beth y bydda i’n ei ddysgu?
· Egwyddorion allweddol sy’n sail i ddatblygu, gweithredu, gwerthuso ac addasu ymyriadau;
· Safbwyntiau systemau cymhleth ar gyfer datblygu a gwerthuso ymyriadau;
· Dulliau ymchwil ac adnoddau ar gyfer datblygu ymyrraeth;
· Defnyddio modelau rhesymeg i lywio ymchwil ymyrraeth;
· Dulliau ac egwyddorion cydgynhyrchu;
· Addasu ymyriadau cymhleth ar gyfer cyd-destunau newydd;
· Dulliau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer gwerthuso dichonoldeb ymyrraeth, effeithiolrwydd, prosesau a chost-effeithiolrwydd.
Ffi’r cwrs
£1,125
Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu â Zoe MacDonald: macdonaldz@caerdydd.ac.uk
Arweinwyr y Cwrs:
Dr Jemma Hawkins, Dr Kelly Morgan
Ar gyfer pwy mae hyn?
Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisïau. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.