Mynd i'r cynnwys
Home » Cyrsiau Byr » Cwrs byr: Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus: Cynnwys y cyhoedd

Cwrs byr: Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus: Cynnwys y cyhoedd

Dyddiad ac amser

I’w gadarnhau


Lleoliad y cwrs

I’w gadarnhau


Arweinwyr y Cwrs

Dr Jeremy Segrott, aelodau ALPHA.


Sut i gofrestru

I’w gadarnhau


Trosolwg cryno o’r cwrs

Mae’r sesiwn hyfforddi ar-lein ryngweithiol hon, a gynhelir gan ALPHA (grŵp o bobl ifanc sy’n cynghori ymchwil DECIPHer), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a DECIPHer, ar gyfer ymchwilwyr sy’n dymuno cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o ddylunio a chynnal eu hymchwil.

Sylwch na fydd tystysgrif am fynychu’n cael ei chyhoeddi oni bai bod y rheiny sy’n dilyn y cwrs wedi cwblhau pob elfen o’r hyfforddiant.


Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr yn:

  • Nodi Egwyddorion ac Arfer cynnwys plant a phobl ifanc mewn ymchwil.
  • Dulliau ymarferol, hwyluswyr, Rhwystrau ac Effaith cynnwys pobl ifanc.
  • Sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymchwilwyr i gynnwys pobl ifanc.

ALPHA:  Advice Leading to Public Health Advancement

Grŵp cynghori ar ymchwil pobl ifanc yw ALPHA a chanddo at 25 o aelodau ar yr un pryd. Ei rôl yw cynghori ymchwilwyr drwy drafod a dadlau eu safbwyntiau ar bynciau iechyd cyhoeddus a’r ymchwil y mae DECIPHer yn bwriadu ei gynnal.  Bydd aelodau o ALPHA yn hwyluso’r hyfforddiant hwn ar y cyd er mwyn rhoi safbwynt person ifanc o fod yn rhan o ymchwil a rhoi adborth i ymchwilwyr am eu syniadau er mwyn cynnwys plant a phobl ifanc yn eu prosiectau eu hunain.