Mynd i'r cynnwys
Home » Rhwydweithiau ymchwil gwella iechyd y cyhoedd

Rhwydweithiau ymchwil gwella iechyd y cyhoedd

I’r perwyl hwn rydym ni wedi datblygu nifer o rwydweithiau iechyd cyhoeddus uchel eu heffaith yn llwyddiannus. Sefydlwyd y cyntaf o’r rhain, Rwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd (PHIRN), yn 2005. Nod cyffredinol PHIRN oedd gweithio gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr ar gam cynnar i lunio cwestiynau ymchwil a hyrwyddo arbrofion naturiolaidd drwy ‘asesu’r hyn sydd ar y gorwel’ a thrwy ymwneud â chylchoedd cynllunio polisi.
Sicrhaodd yr ymagwedd hon incwm ymchwil sylweddol o dros £50 miliwn i Gymru, arloesedd o ran hwyluso a chynnal treialon polisi a Seydou DECIPHer yn llwyddiannus yn 2009. Gwnaeth hyn drwy:
  • Sefydlu partneriaethau strategol rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol;
  • Datblygu capasiti traws ddisgyblaethol drwy ddarparu cyrsiau byr, cyd-leoli, lleoliadau gwaith a datblygu sgiliau a rolau sy’n rhychwantu ffiniau sefydliadol;
  • Gweithgareddau rhwydweithio traws ddisgyblaethol yn cynnwys seminarau, gweithdai a gweminarau i ganfod meysydd o ddiddordeb cyffredin a chyfleoedd i gydweithio;
  • Ymgysylltu a chyd-gynhyrchu ar gyfer ymchwil gydweithredol drwy grwpiau datblygu ymchwil, gweithgor bach, a gofrestrir ar bortffolio DECIPHer drwy broses fabwysiadu;
  • Trosi gwybodaeth gydag allbynnau a lledaenu’n canolbwyntio ar fuddion cilyddol i DECIPHer a’n partneriaid i gyfoethogi system o gydweithio;
  • Gwaith peilot gyda gweithleoedd mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dros amser mae ymagwedd PHIRN wedi datblygu’n ymarfer rheolaidd yn DECIPHer a llawer o ganolfannau iechyd cyhoeddus eraill drwy’r DU, ac fel ffordd o weithio mae wedi lledaenu’n llwyddiannus drwy chwaer rwydweithiau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn wedi arwain DECIPHer at ganolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau gyda mwy o ffocws. Mae’r rhain wedi cwmpasu:
  • Cyngor yn Arwain at Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd (ALPHA) a sefydlwyd yn 2009 i gefnogi ymwneud pobl ifanc â’n gwaith;
  • Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) a sefydlwyd yn 2013 fel partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU, ac sy’n cynnwys pob ysgol uwchradd a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru;
  • Gwaith peilot gyda gweithleoedd mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Gweithio i ddatblygu rhwydweithiau ym myd llywodraeth leol trwy fenter NIHR PHIRST mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste a gwaith peilot gydag ENABLE.

Rhagor o Wybodaeth am ALPHA, SHRN ac PHIRST:


Ymgynghoriadau

I ddarllen sut mae DECIPHer yn cyfrannu at ymgynghoriadau ar faterion o bwys mewn iechyd cyhoeddus, cliciwch y isod.