

Bydd y rhaglen hon yn datblygu ac yn gwerthuso dulliau system gyfan o wella iechyd poblogaeth a deall sut caiff y dulliau eu rhoi ar waith. Yn hanesyddol, gwnaed y rhan helaeth o’n gwaith mewn ysgolion ac mae’n seiliedig ar fodel Ysgolion Hybu Iechyd, Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’r model hwn yn cysylltu agweddau lluosog ar fywyd ysgol, gan gynnwys y cwricwlwm, yr amgylchedd ffisegol a’r amgylchedd cymdeithasol, ac mae’n cysylltu â theuluoedd a’r gymuned leol. Mae gennym ymchwilwyr sy’n gweithio gydag ysgolion ar amrediad eang o feysydd iechyd â blaenoriaeth, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, bwyta’n iach, atal ysmygu, atal camddefnyddio alcohol, iechyd rhywiol a pherthnasoedd cymdeithasol iach.
Yn ogystal, mae DECIPHer yn arwain y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), sy’n dwyn ynghyd ysgolion, ymchwilwyr â sefydliadau allweddol ym maes polisi ac ymarfer, i wella ansawdd a lefel yr ymchwil i wella iechyd yn yr ysgol. Mae’r rhwydwaith wedi cefnogi dros 50 o astudiaethau ymchwil, gwerth dros £25 miliwn.
Yn y dyfodol, bydd gwaith yn ymwneud â lleoliadau addysg yn canolbwyntio ar addysg gynradd, uwchradd a phellach, a gwaith gydag Unedau Cyfeirio Disgyblion. Bydd ffocws penodol ar iechyd meddwl, yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau UKRI. Bydd datblygu carfan genedlaethol Cymru o fewn SHRN yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu astudiaethau epidemiolegol. Er y bydd ein ffocws cychwynnol ar leoliadau addysg, bydd ein fframweithiau a’n dulliau damcaniaethol yn symud i gefnogi astudiaethau ymchwil sy’n mabwysiadu ymagwedd system gyfan yn y gweithle ac mewn amgylchiadau cymunedol.
Studiaethau presennol
Traethodau Ymchwil PhD NIHR ar atal gordewdra ymhlith plant, yn canolbwyntio ar faint dognau bwyd ar gyfer plant o oedran cyn-ysgol.
Symud rhwng disgyblaethau i ganfod atebion dŵr croyw
Sicrhau bod tystiolaeth o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Cymru yn cael yr effaith fwyaf ac ehangaf trwy ei gwneud yn fwy hygyrch i ysgolion a myfyrwyr ac yn haws i’w dehongli
Ymchwil sy’n archwilio beth mae pobl ifanc yn ei ddysgu am ryw a pherthnasoedd a sut mae nhw’n gwneud hynny, a’u hymddygiadau o ran ceisio cymorth ynghylch y materion hyn.
Treial PHaCT: Atal Digartrefedd, gwella iechyd ar gyfer y sawl sy’n gadael y carchar: treial peilot yn dilyn dull hapdreialu rheoledig o ymyriad Cyfnod Allweddol
Statws economaidd-gymdeithasol a lles ymhlith myfyrwyr ysgolion uwchradd yng Nghymru: safbwynt croestoriadol – Grŵp Gweithredu EOI ar gyfer Atal Tlodi Plant
Astudio’r defnydd o Ddulliau Atal Cenhedlu Hirdymor Gwrthdroadwy (LARC) a’r ddarpariaeth ohonynt ymhlith grwpiau ‘agored i niwed’: astudiaeth dulliau cymysg.
Cyllid Cam 3 2022-2024; Ehangu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) i Ysgolion Cynradd: Rhwydwaith SHRN Cynradd – Ehangu’r SHRN i gynnwys Ysgolion Cynradd yng Nghymru er mwyn cefnogi iechyd meddwl a lles drwy gydol plentyndod a’r glasoed (Pri-SHRN)
Cyfnod cyllido nesaf 2022-2024; SHRN Uwchradd 2022-2024.
Mabwysiadu Archwilio pwysau academaidd fel ffactor risg o ran achosi iselder ymhlith y glasoed, i lywio datblygiad ymyriadau ar gyfer ysgolion cyfan
Timau Mindset yn system addysg yr Alban (Tîm Astudiaethau Ymatebol Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd (PHIRST) Bryste a Chaerdydd
Partner Gwerthuso Cymru Iach ar Waith – treialu adnoddau gwerthuso
Ehangu Timau Astudio sy’n Ymateb i Ymyriadau i Iechyd y Cyhoedd (PHIRST)
Ehangu’r Rhwydwaith SHRN i Ysgolion Cynradd: Rhwydwaith SHRN Cynradd – Ehangu’r Rhwydwaith SHRN i gynnwys Ysgolion Cynradd yng Nghymru er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn plentyndod a’r glasoed (Cam 2).
Arolwg SHRN o Iechyd a Lles Myfyrwyr Uwchradd 2021 — 2023. (Estyniad)
Adolygiad O Wasanaethau Cwnsela Statudol yn yr Ysgol A’r Gymuned Ac Ymchwil i Gynllun a Dylunio Peilot Ar Gyfer Plant Oedran Cynradd
Datblygu asesiad o Theori Newid a’r Gallu i Werthuso yn achos y Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â Iechyd Meddwl
Archwilio pwysau academaidd fel ffactor risg o ran achosi iselder ymhlith y glasoed, i lywio datblygiad ymyriadau ysgol-gyfan
Gwyddor Data Iechyd (DATAMIND/PHASE) – Canolfan Data Ymchwil Iechyd Meddwl.
Hapdreial rheoledig o glystyrau i fesur effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd cael gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion mewn perthynas ag atgyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol plant
Darganfod pa nodweddion y gellir eu haddasu yn yr amgylchedd adeiledig sy’n cefnogi iechyd meddwl da a lles ymhlith y glasoed
Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd NIHR – Timau Astudio sy’n Ymateb i Ymyriadau i Iechyd y Cyhoedd (PHIRST)
Hyrwyddwyr Ymchwil Awdurdodau Lleol (LaCoR) MR/T045264/1 – HWYLUSO DU: Galluogi Penderfyniadau ar Sail Tystiolaeth Awdurdodau Lleol ledled y DU – Cam 1.
Ymyriadau yn yr ysgol I Atal trais ar sail rhyw wrth ddod o hyd i gariad ac wrth fod mewn perthynas (STOPDRV-GBV): adolygiad systematig i ddeall nodweddion, mecanweithiau, gweithredu ac effeithiolrwydd
Ehangu’r Rhwydwaith SHRN i Ysgolion Cynradd: Rhwydwaith SHRN Cynradd – Ehangu’r Rhwydwaith SHRN i gynnwys Ysgolion Cynradd yng Nghymru er mwyn cefnogi iechyd meddwl a lles drwy gydol plentyndod a’r glasoed – Cam 1
Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl y Glasoed yng Nghymru
CHoosing Active Role Models to INspire Girls (CHARMING): astudiaeth dichonoldeb yn dilyn dull hapdreialu rheoledig o glystyrau, o raglen mewn ysgolion sy’n gysylltiedig â’r gymuned i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith merched 9-11 oed (Charming II) – diweddariad ar gyfer cais newydd (Youth Sport Trust + ALPHA yn cymryd rhan).
Integreiddio iechyd a lles yng nghwricwlwm yr ysgol: Ymchwiliad yn dilyn dulliau cymysg i’r paratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ledled Cymru a’i effeithiau ar iechyd a lles (cyllid wedi’i gynyddu ar gyfer Cymrodoriaeth)
Rôl ysgolion wrth gefnogi perthnasoedd cymdeithasol cadarnhaol i wella ymgysylltiad â’r ysgol, lles, a deilliannau defnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc mewn gofal: Adolygiad cymysg
Studiaethau diweddar
Anfonwch e-bost at DECIPHer@caerdydd.ac.uk i gael gwybodaeth am yr astudiaethau hyn.
Mindset Teams Yn System Addysg Yr Alban
Hapdreial rheoledig clwstwr aml-ganolfan i ymchwilio i effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyrraeth anffurfiol yn yr ysgol, dan arweiniad cyfoedion, ar atal cyffuriau (astudiaeth Ffrindiau FRANK)
A all hyfforddiant llythrennedd yn y cyfryngau yn ymwneud ag alcohol, i blant a phobl ifanc, atal niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol? Adolygiad realistig o’r hyn sy’n gweithio i bwy, ac ym mha gyd-destunau
Dewis Modelau Rôl Gweithredol i Ysbrydoli Merched (CHARMING)
Integreiddio iechyd a lles i gwricwlwm yr ysgol: archwiliad dulliau cymysg o baratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ledled Cymru a’i effeithiau ar iechyd a lles.
Pathfinder Iechyd Meddwl: Integreiddio data generig, clinigol a ffenotypig i ddatblygu haenu, rhagweld a thriniaeth ym maes iechyd meddwl
Optimeiddio, profi dichonoldeb a hapdreial peilot o Ddewisiadau Cadarnhaol: ymyrraeth marchnata cymdeithasol yn yr ysgol i hybu iechyd rhywiol, atal beichiogrwydd anfwriadol yn ystod yr arddegau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr
Llythrennedd Ymchwil ar gyfer Bagloriaeth Cymru: Astudiaeth Gwmpasu
Gwerthuso Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol 2017
Effaith cyfoedion o ran defnyddio alcohol yn ystod y glasoed: ymchwilio i ddylanwadau cymdeithasol i hysbysu ymyrraeth dan arweiniad cyfoedion yn yr ysgol
Treial JACK: Hapdreial clwstwr aml-safle o ymyrraeth ryngweithiol seiliedig ar ffilm, i leihau cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau a hyrwyddo iechyd rhywiol cadarnhaol
Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion: creu effaith lefel ranbarthol i ddeiliaid iechyd, addysg a gofal cymdeithasol
Deall amlygiad hysbysebion alcohol ymhlith disgyblion ysgol uwchradd: rôl oedran mewn ymgysylltu â’r cyfryngau
Prosiect Lles ac iechyd mewn ysgolion (WHISP) – Cam 1
Prosiect Lles mewn Addysg Uwchradd (WISE) – Hapdreial rheoledig clwstwr o ymyrraeth i wella’r hyfforddiant a’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i athrawon ysgol uwchradd
Rhyw a pherthnasoedd diogel mewn Addysg Bellach (SaFE): astudiaeth aml-achos, dulliau cymysg, i ddatblygu ymyrraeth gynhwysfawr ynghylch iechyd rhywiol i leoliadau addysg bellach
Astudiaethau blaenorol
Deall deilliannau i blant Cymru sy’n cael eu gosod mewn llety diogel
Her AB Filter: treial peilot a gwerthusiad proses o ymyrraeth atal ysmygu aml-lefel mewn lleoliadau addysg bellach
PLAN-A: Gwerthusiad hapdreial rheoledig clwstwr datblygu a dichonoldeb o Ymyrraeth Gweithgarwch Corfforol, dan arweiniad Cyfoedion, i Ferched Ifanc
Ymestyn a dadansoddi data Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd
Gweithgarwch a Bwyta’n Iach yn ystod y Glasoed:
Prosiect Dawns Merched Bryste: Hapdreial rheoledig clwstwr o raglen ddawns ar ôl ysgol i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith merched 11 i 12 oed
Prosiect Dawns Merched Bryste: astudiaeth ddichonoldeb
CHETS – Newidiadau i Gysylltiad Plant â Mwg Tybaco yn yr Amgylchedd, Cymru
CHETS 2 – Newidiadau i Gysylltiad Plant â Mwg Tybaco yn yr Amgylchedd, Cymru 2: Ymchwil i ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant
Hapdreial rheoledig clwstwr i brofi effeithiolrwydd ymyrraeth addysgol i hyrwyddo golchi dwylo o ran lleihau absenoldeb mewn ysgolion cynradd
Gwerthuso’r Fenter Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd
Gwerthuso’r Bws Coginio yng Nghymru
Adolygiad o dystiolaeth ar gyfer canllaw iechyd y cyhoedd NICE ar ‘Reoli gorbwysedd a gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc: gwasanaethau rheoli pwysau drwy ffordd o fyw’
Astudiaeth beilot o bolisïau alcohol a normau cymdeithasol ym mhrifysgolion Cymru
Atal camddefnyddio sylweddau: hapdreial rheoledig o’r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd 10-14 (y DU)
Iechyd a lles ysgolion: amgyffredion athrawon ysgol uwchradd
Astudiaeth gwmpasu a dichonoldeb y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Cefnogi pobl ifanc agored i niwed yn gymdeithasol ac yn emosiynol mewn ysgolion: gwerthusiad o wasanaeth Bounceback Barnardo’s
Effeithiau ysgolion ac ymyriadau yn amgylchedd yr ysgol ar iechyd: mapio tystiolaeth a chyfuniadau tystiolaeth
Fframwaith Ysgolion Hybu Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer gwella iechyd a lles myfyrwyr, a’u cyflawniad academaidd
Atal cam-ddefnyddio alcohol ymhlith pobl ifanc: treial archwiliadol a gwerthusiad o’r rhaglen “Kids, Adults Together”
Heini am Oes Blwyddyn 5: Hapdreial rheoledig clwstwr o ymyrraeth mewn ysgol gynradd i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gostwng ymddygiad eisteddog a gwella diet
Addasu a pheilota model ASSIST o gyflwyno ymyrraeth yn anffurfiol, dan arweiniad cyfoedion, i raglen atal cyffuriau ‘Talk to Frank’ mewn ysgolion uwchradd y DU (ASSIST+Frank): datblygu ymyrraeth a chynllun treial peilot
ASSIST (Arbrawf rhoi’r gorau i ysmygu mewn ysgolion) Hapdreial rheoledig o effeithiolrwydd ymyrraeth yn yr ysgol, dan arweiniad cyfoedion, yn ymwneud ag ysmygu
Datblygu a pheilota ymyrraeth mentora cymheiriaid i leihau cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau ymhlith plant sy’n derbyn gofal ac ymadawyr gofal
Ymgysylltu ag Ymchwil: Archwilio Potensial Cyd-gynhyrchu i Iechyd y Cyhoedd
GMI_ALC: Datblygu rhaglen hyfforddiant athrawon ar gyfer ymyrraeth cyfweliadau ysgogiadol grŵp i atal camddefnyddio alcohol mewn ysgolion uwchradd
Gwyddorau Ymddygiadol a Gwneud Penderfyniadau mewn Gofal Iechyd GW4 rhwydwaith GW4 (BeDMaSH)
Sut gall ymyriadau sy’n integreiddio addysg iechyd ac academaidd mewn ysgolion helpu i atal camddefnyddio sylweddau a thrais ymhlith pobl ifanc? Adolygiad systematig a chydblethu tystiolaeth
Cynyddu gweithgarwch corfforol mewn plant cyn oed ysgol: adolygiad systematig, dadansoddiad-meta cyfranogwyr unigol a chynllun ymyrryd peilot (PhD)
Ysgogi newid yn lleol mewn bwlio ac ymddygiad ymosodol trwy amgylchedd yr ysgol (CYNHWYSOL): hapdreial rheoledig clwstwr
Ymchwilio i’r defnydd o fentora i wella deilliannau iechyd, lles ac addysg, a chyflogadwyedd pobl ifanc (PhD)