

Yn ystod deng mlynedd gyntaf DECIPHer, datblygodd y ganolfan arbenigedd cynhwysfawr a hanes rhagorol o ymchwil i effaith strwythurau a pherthnasoedd teuluoedd ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. Roedd enghreifftiau o astudiaethau’n cynnwys: astudiaethau dichonoldeb a gwerthuso deilliannau rhaglenni atal camddefnyddio sylweddau i deuluoedd; astudiaethau ansoddol yn archwilio profiadau gofalwyr maeth a phreswyl o reoli hunan-niweidio a hunanladdiad gan bobl ifanc; a datblygiad ymyriadau i gysylltu ysgolion a theuluoedd. Hefyd, darparodd DECIPHer arbenigedd methodolegol i’r What Works Centre ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant (2018-2020).
I gyfnerthu’r arbenigedd a’r profiad cyfunol hwn, mae DECIPHer wedi sefydlu rhaglen ymchwil o’r enw ‘Perthnasoedd Cymdeithasol Iach’. Doctor Rhiannon Evans a Doctor Jeremy Segrott sy’n arwain y rhaglen. Mae’n manteisio ar gyllid seilwaith sylweddol. Mae hwn yn cynnwys: Rhwydwaith TRIUMPH (Ymchwil Drawsddisgyblaethol ar gyfer Gwella Iechyd Meddwl Cyhoeddus Pobl Ifanc) (Dr Evans yw cyd-arweinydd y thema ar blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal); gweithgarwch wedi’i ariannu gan GW4 i gefnogi datblygiad ymyriadau lefel rhiant i wella iechyd plant a phobl ifanc; a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).
Mae tair thema ganolog i’r rhaglen:
1. Ymyrraeth deuluol / Ymyrraeth yn yr Ysgol gydag Elfen Deuluol
Mae’r thema hon yn mynd i’r afael â datblygiad ymyriadau teuluol a all wella iechyd a lles plant a phobl ifanc yn cwmpasu amrywiaeth o ddeilliannau, gan gynnwys ysmygu, camddefnyddio alcohol ac iechyd meddwl. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar wella’r cysylltiad rhwng ysgolion a theuluoedd wrth wireddu dulliau ysgol gyfan o hybu iechyd. Dyma enghraifft o’r gwaith hwn:
- Amgyffredion ynghylch – a chysylltiad â – fepio ymhlith disgyblion ysgol gynradd, athrawon a rhieni (Chets Cymru 3) Prif Ymchwilydd: Graham Moore. Cyd-ymchwilwyr: Lianna Angel; Linsay Gray (Prifysgol Glasgow); Lauren Copeland; Jordan Van Godwin; Britt Hallingberg; Rachel Brown; Sarah MacDonald; Laurence Moore (Prifysgol Glasgow) Ariannwr: Ymchwil Canser y DU
2. Trais Domestig a Thrais gan Bartner Clos
Mae’r thema hon yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau i sicrhau diogelwch goroeswyr a’u plant, yn ogystal â hyrwyddo iechyd meddwl a lles. Dyma enghreifftiau o’r gwaith hwn:
- Gwerthusiad Braenaru Iechyd (SafeLives) Prif Ymchwilydd: G.J. Melendez-Torres. Cyd-Ymchwilwyr: Amanda Robinson; Honor Young; Rhiannon Evans; Heather Trickey; Kelly Buckley; Bethan Pell. Ariannwr: SafeLives
- Adferiad Teulu yn dilyn Cam-drin Domestig (FReDA) Treial dichonoldeb a gwerthusiad proses nythog o ymyrraeth seico-addysgol grŵp i blant sydd wedi dod i gysylltiad â thrais a cham-drin domestig Prif Ymchwilydd: Emma Howarth (Prifysgol Caergrawnt). Cyd-Ymchwilwyr: Graham Moore; Rhiannon Evans; Hannah Littlecott; Sara Long; Kelly Buckley. Ariannwr: NIHR-PHR
- Ymyriadau yn yr ysgol i atal trais wrth ganlyn, ac mewn perthnasoedd, ac i atal trais ar sail rhywedd (STOP-DRV-GBV): adolygiad systematig er mwyn deall nodweddion, mecanweithiau, gweithrediad ac effeithiolrwydd. Prif Ymchwilydd: G.J. Melendez-Torres. Cyd-Ymchwilwyr: Caroline Farmer, Honor Young, Noreen Orr, Vashti Berry, Naomi Shaw, Christopher Bonell.
3. Plant a Phobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal
Mae’r thema hon yn archwilio anghenion a phrofiadau gofalwyr amrywiol a’r plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n gofalu amdanynt. Ar hyn o bryd, mae ymchwil yn archwilio ffactorau risg amrywiaeth o ganlyniadau, yn bennaf trwy ddefnyddio data cysylltiedig. At hynny, mae’n ymwneud â nodi, datblygu/addasu a gwerthuso ymyriadau i wella iechyd meddwl a lles. Dyma enghreifftiau o’r gwaith hwn:
- A yw gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau arhydol o garfan electronig ôl-weithredol Prif Ymchwilydd: Sara Long. Cyd-ymchwilwyr: Graham Moore, Jonathan Scourfield, Chris Taylor, David Fone, Daniel Farewell. Ariannwr: ESRC.
- Adolygiad systematig o ymyriadau i wella deilliannau iechyd meddwl a lles ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal (CHIMES), Prif Ymchwilydd: Rhiannon Evans. Cyd-Ymchwilwyr: Sarah MacDonald, Catherine Sampson, Ruth Turley, Mike Robling, Jane Noyes (Bangor), G.J. Melendez-Torres (Caerwysg). Ariannwr: NIHR-PHR
- Darpariaeth iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau AB (11-25 oed) sydd â phrofiadau o ofal: Astudiaeth dull cymysg o weithrediad, derbynioldeb, angen a chanlyniadau blaenoriaeth
Prif Ymchwilwyr: Dr Sarah MacDonald a Dr Gillian Hewitt. Ariannwr: Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae astudiaethau’n gysylltiedig â’r themâu hyn yn croestorri â blaenoriaethau rhaglenni eraill DECIPHer ac fe’u cefnogir gan arloesedd methodolegol ar draws y ganolfan.
Mae meithrin gallu ar gyfer y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu Ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, gan gynnwys Cymrodoriaethau Ymchwil Ôl-ddoethurol ac Ysgoloriaethau PhD. Hyd yn hyn, mae ysgoloriaethau PhD wedi mynd i’r afael â: phrofiadau ac anghenion gofalwyr ifanc; ymyriadau i gefnogi iechyd meddwl a lles gofalwyr sy’n berthnasau; datblygu a gwerthuso ymyrraeth i ddarparu maeth a gweithgareddau corfforol yn ystod gwyliau ysgol; a phrofiadau ac anghenion darpar dadau.
Mae ymgysylltu ac effaith yn flaenoriaeth ganolog i’r rhaglen. Mae’n gweithio’n agos gydag ALPHA a Lleisiau CASCADE.
