Mynd i'r cynnwys
Home » Cwrs byr: Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus: Gwerthuso’r broses

Cwrs byr: Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus: Gwerthuso’r broses

Dyddiad y cwrs


11 Medi 2024


Manylion y cwrs


Nod y cwrs undydd hwn, dan arweiniad y Cymrawd Ymchwil Dr Rachel Brown, yw cynnig gwybodaeth dda am theori ac ymarfer gwerthuso ymyriadau cymhleth drwy broses.

Mae’r tîm addysgu yn cynnwys awduron o sawl darn empirig a methodolegol o waith sy’n gysylltiedig â gwerthuso prosesau, gan gynnwys Dr Rhiannon Evans a Dr Jeremy Segrott.


Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

  • Rôl gwerthuso prosesau wrth ddeall ymyriadau cymhleth
  • Pwysigrwydd damcaniaeth ymyrryd a modelau rhesymeg
  • Cywirdeb a gweithredu ymyriadau cymhleth
  • Materion ynghylch adnoddau a pherthnasoedd
  • Pennu cwestiynau a chyfuno dulliau

I bwy mae’r cwrs hwn?


Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.


Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol


Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu wyneb yn wyneb, cyn belled â bod canllawiau COVID-19 yn caniatáu hynny.


Lleoliad y cwrs


sbarc|spark, Prifysgol Caerdydd


Ffi’r Cwrs


£225

Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu â Zoe MacDonald:  macdonaldz@cardiff.ac.uk.


Archebu