Mynd i'r cynnwys
Home » Ymchwil » Rhaglenni » Perthnasoedd Cymdeithasol Iach » Ydy gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau hydredol o garfan electronig ôl-weithredol

Ydy gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau hydredol o garfan electronig ôl-weithredol

Prif Ymchwilydd

Dr Sara Long


Cyd-ymchwilwyr

Doctor Daniel Farewell; yr Athro Shantini Paranjothy; yr Athro Sinead Brophy; yr Athro Graham Moore; yr Athro Jonathan Scourfield; yr Athro Chris Taylor


Cefndir


Mae astudiaethau presennol sy’n defnyddio dim ond un pwynt mewn amser wedi dangos bod gan ‘blant sy’n derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol (PDG) ganlyniadau addysgol ac iechyd gwaeth na’r boblogaeth gyffredinol. Mae profiadau cyn derbyn gofal, megis cam-drin corfforol, salwch iechyd meddwl rhieni, a rhieni sy’n camddefnyddio alcohol yn rhesymau cyffredin am ddod yn blant sy’n derbyn gofal. Mae’r profiadau hyn hefyd yn rhagfynegi canlyniadau iechyd, addysg a chymdeithasol gwaeth ymhlith pobl ifanc nad ydyn nhw’n derbyn gofal. Am y rhesymau hyn, mae’n anodd deall a yw canlyniadau iechyd ac addysgol gwaeth ymhlith plant sy’n derbyn gofal yn digwydd oherwydd gwahaniaethau mewn profiadau cyn derbyn gofal, neu oherwydd y gofal ei hun.


Nodau ac Amcanion


Mae gan yr ymchwil dri amcan:

Yn gyntaf, bydd yn ymdrin â’r diffyg astudiaethau meintiol hydredol ar raddfa fawr yn y DU sy’n archwilio rôl statws PDG wrth ragfynegi canlyniadau addysg a defnydd gofal iechyd. Cyflawnir hyn trwy ddefnyddio adnoddau’r Rhwydwaith Data Gweinyddol (ADRN), sydd wedi cymeradwyo’r prosiect hwn, i gyfuno Carfan Electronig Cymru ar gyfer Plant (WECC: set ddata ryngddisgyblaethol ledled Cymru am addysg a defnydd gofal iechyd), gyda data cenedlaethol a gesglir fel mater o drefn ar gyfer pobl ifanc sy’n derbyn ymyrraeth gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys hanes gofal ar gyfer PDG. Bydd hyn yn creu carfan hydredol o bobl ifanc, a gwblhaodd Gyfnod Allweddol 4 yn 2015 neu 2016.

Yn ail, bydd yn lleihau amwysedd ynghylch i ba raddau y mae canlyniadau gwael ymhlith PDG yn ganlyniad i brofiadau plentyndod cyn gofal, neu brofiadau negyddol sy’n gysylltiedig â bod mewn gofal. Cyflawnir hyn yn gyntaf drwy gymharu PDG â phlant sy’n derbyn ymyrraeth gwasanaethau cymdeithasol ond nad ydynt yn PDG (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel Plant Mewn Angen, ond Nad ydynt yn Derbyn Gofal (NDG)), yn ogystal â chymariaethau cyffredinol y boblogaeth. Er ei bod yn debygol y bydd gwahaniaethau rhwng y ddau grŵp hyn sy’n rhagfynegi statws PDG, mae cydnabyddiaeth gynyddol o fewn y llenyddiaeth y gall plant NDG ddarparu cymharydd mwy dilys i PDG na samplau poblogaeth cyffredinol. Yn ogystal, byddwn yn asesu i ba raddau y mae gwahaniaethau grŵp yn cael eu gwanhau gan nifer o ragfynegwyr cyffredin o dderbyn ymyrraeth gan wasanaethau cymdeithasol a mynediad i ofal (cam-drin corfforol, salwch iechyd meddwl rhieni a rhieni’n camddefnyddio alcohol), a ddiffinnir o fewn ymchwil ddiweddar gan ddefnyddio data gofal iechyd a gesglir fel mater o drefn o fewn WECC. Wrth gymharu PDG yn erbyn plant NDG (h.y. cymariaethau sy’n eithrio sampl y boblogaeth gyffredinol),
trwy ddata ymyrraeth gan wasanaethau a gesglir fel mater o drefn, byddwn hefyd yn archwilio rôl profiad ychwanegol, h.y. cam-drin domestig.

Yn drydydd, mae statws plant sy’n derbyn gofal yn aml yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd tynnu pobl ifanc o adfyd yn eu symud tuag at lwybrau bywyd gwell. Yr astudiaeth hon fydd y gyntaf i ymchwilio dros gyfnod o amser i rôl gofal wrth leihau effeithiau profiadau cyn gofal ar ganlyniadau addysg a gofal iechyd. Cyflawnir hyn trwy ymchwilio i weld a yw’r berthynas rhwng profiadau niweidiol a chanlyniadau addysg a gofal iechyd dilynol yn cael ei dwysáu neu ei gwanhau pan fo plant yn derbyn gofal. Byddwn hefyd yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar sut mae amrywioldeb mewn profiadau o ofal yn dylanwadu ar ganlyniadau.

Bydd yr ymchwil yn ateb y cwestiynau canlynol:

  1. A yw statws PDG yn gysylltiedig â chyrhaeddiad addysg uwch neu is a defnydd gofal iechyd o’i gymharu â i) NDG; ii) y
    boblogaeth gyffredinol?
  2. I ba raddau yr eglurir cysylltiad statws PDG â chyrhaeddiad addysg a defnydd gofal iechyd gan brofiadau
    blaenorol yn ystod plentyndod?
  3. A yw statws PDG yn cymedroli’r cysylltiad rhwng profiadau plentyndod â chyrhaeddiad addysgol a defnydd gofal iechyd?
  4. Ymhlith PDG, sut mae profiadau o ofal (e.e. oedran dechrau derbyn gofal, pa mor hir y derbynnir gofal, sefydlogrwydd lleoliadau gofal) yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol a defnydd gofal iechyd?

Dyluniad yr Astudiaeth


Hydref-Tach 2019: Digwyddiadau ymgynghori i fireinio cwestiynau ymchwil, trafod goblygiadau polisi ac ymarfer, a dyfeisio strategaeth lledaenu ac ymgysylltu gyda chynrychiolwyr o blith pob ymchwilydd a’r AG.

Hyd-Rhag 2019: Bydd y brif set ddata eisoes wedi’i pharatoi mewn fformat dros dro gan ADRN cyn dechrau’r prosiect, felly bydd golygu data yn dechrau ar unwaith. Bydd y cyfnod hwn yn cynnwys cyflwyno manyleb gan ddadansoddwyr ADRC a SAIL, gan gynnwys rhedeg yr algorithmau i gyfrifo’r newidynnau sydd eu hangen i berfformio dadansoddiadau.

Rhag-Chwef 2020: Paratoi set ddata (Ystadegydd Gradd 6). Bydd hyn yn cynnwys glanhau, gwirio ansawdd ac integreiddio setiau data yn barod ar gyfer dadansoddiadau.

Chwef —Meh 2020: Dadansoddi data (DFa, ystadegydd gradd 6). Bydd ysgrifennu adroddiadau (SL a Chyd-ymchwilwyr) yn digwydd ochr yn ochr.

Mai 2020: Cais i warcheidwaid data am ganiatâd i ledaenu canfyddiadau cychwynnol, drafftio adroddiadau a chynnal cyfarfodydd pellach â’r Grŵp Cynghori i nodi addasiadau a gwelliannau i ddadansoddiadau ac adroddiadau.

Gorff-Medi 2020: Cwblhau dadansoddiadau a gofyn am ganiatâd terfynol ar gyfer y canlyniadau (DFa, SL). Gweithdai lledaenu a rhanddeiliaid am ganfyddiadau rhagarweiniol; cynhyrchu sesiynau briffio ymchwil (iechyd, addysg a gofal cymdeithasol trwy ddigwyddiadau Rhwydwaith ExChanGE Prifysgol Caerdydd); lledaenu ymhlith y Grŵp Cynghori (sy’n cynnwys: Voices from Care; Gofalwr Maeth, a recriwtiwyd trwy’r Rhwydwaith Maethu; Cynrychiolwyr Gofal Cymdeithasol Awdurdodau Lleol gan gynnwys Tanya Evans, Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol a recriwtiwyd drwy rwydweithiau dysgu ymarfer MA Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd; Y Rhwydwaith Maethu ac aelod o’i staff, Maria Boffey; Natalie Avery, Pennaeth Cyfiawnder Teuluol, Llywodraeth Cymru; Dr Dominic McSherry, Prifysgol Queens Belfast; Dr Nikki Luke, canolfan REES Prifysgol Rhydychen); a rhwydweithiau ymchwilwyr. Parhau i ysgrifennu a lledaenu adroddiadau.

Medi-Rhagfyr 2020: Cam ysgrifennu adroddiadau i’w cyflwyno i gyfnodolion ac adroddiadau a adolygir gan gymheiriaid at ddefnydd partneriaid anacademaidd (SL a Chyd-ymchwilwyr).

Ionawr-Mawrth 2021: Rhagor o weithdai i randdeiliaid er mwyn helpu i ledaenu, a dylunio a chynhyrchu sesiynau briffio ymchwil.


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau


Blog DECIPHer: New study: How does local authority care affect the health and education of vulnerable children?

Gweminar Exchange: https://youtu.be/sBhE8BiZsp0


Dyddiad dechrau


Hydref 2019

Dyddiad gorffen


Mawrth 2021


Arianwyr


ESRC

Swm


£192,230.98