Mynd i'r cynnwys
Home » “Ymdeimlad o gariad a gwerthfawrogiad”: Astudiaeth dulliau cymysg i archwilio perthnasoedd ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cysylltiad ag iechyd meddwl a lles

“Ymdeimlad o gariad a gwerthfawrogiad”: Astudiaeth dulliau cymysg i archwilio perthnasoedd ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cysylltiad ag iechyd meddwl a lles

  • Ymchwil

Prif Ymchwilydd

Dr Rebecca Anthony

Mentora

Dr Rhiannon Evans, Dr Kelly Morgan

Cyd-ymchwilydd

Simone Willis


Cefndir

Ar hyn o bryd, mae dros 80,000 o blant a phobl ifanc yn byw mewn gofal awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.

Mae ymchwil yn awgrymu bod problemau iechyd meddwl sy’n glinigol arwyddocaol gan hanner y plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae problemau iechyd meddwl yn gysylltiedig ag achosi trallod i’r person, yn ogystal â chanlyniadau gwael o ran iechyd ac addysg, felly mae’n bryder sylweddol o ran gofal cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus.

Mae plant a phobl ifanc yn fwyaf tebygol o ffynnu mewn amgylchedd lle mae anawsterau’n cael eu lleihau i’r eithaf, a lle ceir perthnasoedd cynnes a chefnogol. Fodd bynnag, mae llawer o blant mewn gofal yn profi newidiadau i leoliadau, gan arwain at ofalwyr ac amgylcheddau newydd, fel ysgolion. Mae perthnasoedd cefnogol yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles gwell; fodd bynnag, ychydig iawn a wyddom am brofiadau plant a phobl ifanc o berthnasoedd, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.


Nodau ac Amcanion

Nod cyffredinol y gymrodoriaeth hon yw llunio sylfaen dystiolaeth ynghylch cefnogaeth gymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a’u canfyddiadau o berthnasoedd a’u cysylltiad ag iechyd meddwl a lles.

Bydd y gymrodoriaeth yn rhoi sylw i’r cwestiynau ymchwil canlynol:

1. Pa fathau o gymorth cymdeithasol a pherthnasoedd sydd ar gael i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal?

2. Sut mae pobl ifanc yn gweld ansawdd cymorth cymdeithasol a’u perthnasoedd?

3. A yw canfyddiadau pobl ifanc o berthnasoedd wedi newid dros gyfnod o amser? Ac a yw perthnasoedd wedi’u cysylltu ag iechyd meddwl a lles?


Dyluniad yr Astudiaeth

Mae’r astudiaeth dull cymysg yn cynnwys pum pecyn gwaith rhyng-gysylltiedig.

1. Adolygu’r ymchwil rhyngwladol sydd ar gael ynghylch cymorth cymdeithasol a pherthnasoedd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cysylltiadau ag iechyd meddwl a lles

2. Siarad â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal am eu profiadau o gymorth cymdeithasol a pherthnasoedd, yn enwedig yr agweddau oedd fwyaf defnyddiol neu niweidiol i’w hiechyd meddwl a’u lles.

3. Ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ymchwilio i weld a yw eu perthnasoedd canfyddedig â gofalwyr, ffrindiau ac athrawon wedi newid dros gyfnod o ddeng mlynedd (2017 – 2026)

4. Archwilio sut mae perthnasoedd â gofalwyr, cyfoedion ac athrawon yn cysylltu â’i gilydd a sut maent yn effeithio ar iechyd meddwl a lles

5. Archwilio p’un a all perthnasoedd cadarnhaol gymedroli’r berthynas rhwng profiadau cyn ac yn ystod gofal, a symptomau, diagnosisau a chanlyniadau iechyd meddwl a lles yn ddiweddarach

Ymglymiad y cyhoedd: Bydd dau grŵp o blant a phobl ifanc ledled y DU sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a grŵp a recriwtiwyd o ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, yn cael eu cynnwys drwy gydol yr astudiaeth. Byddant yn helpu â materion fel beth i’w ofyn mewn cyfweliadau, pa ddata sydd bwysicaf i edrych arnynt, a sut i rannu’r canfyddiadau.

Hyrwyddo’r canfyddiadau: Bydd y canfyddiadau’n cael eu cyflwyno i’r cyhoedd, ymchwilwyr, sefydliadau awdurdodau lleol, ac elusennau perthnasol drwy gyflwyniadau mewn cynadleddau, gweminarau, podlediadau, crynodeb o’r canfyddiadau, a chyhoeddiadau academaidd. Rydym hefyd yn gobeithio cael cyllid ychwanegol er mwyn dylunio animeiddiad â phlant a phobl ifanc, i’w rannu’n eang.


Dyddiad dechrau

1st October 2023

Dyddiad gorffen

30th September 2027

Cyllidwyr

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Swm

£344,426


Gwybodaeth bellach

Blog: https://decipher.uk.net/cy/uncategorized-cy/ymdeimlad-o-gariad-a-gwerthfawrogiad-astudiaeth-dulliau-cymysg-i-archwilio-perthnasoedd-ymhlith-plant-a-phobl-ifanc-sydd-a-phrofiad-o-fod-mewn-gofal-au-cysylltiad-ag-iechyd/

Mental health and wellbeing related social support for care-experienced children and young people: A Scoping Review protocol of type, source and quality