Mae DECIPHer yn sicrhau bod cymunedau academaidd, polisi, ymarfer a defnyddwyr yn cyd-gynhyrchu, cynnal ac yn trosi ymchwil gwella iechyd er mwyn gwella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau.
Rydym yn canolbwyntio ar ystod eang o faterion sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd ar gwrs bywyd, gan gynnwys iechyd meddwl ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd,gyda phwyslais penodol ar ddatblygu, gwerthuso a gweithredu polisïau ac ymyriadau er mwyn gwella bywydau plant a phobl ifanc.


