Mynd i'r cynnwys
Home » Beth yw’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion?

Beth yw’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion?

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a sefydlwyd yn 2013, oedd y rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y byd. Mae’n dwyn ynghyd ysgolion yng Nghymru ag ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisi ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i hyrwyddo ymagwedd wedi’i llywio gan dystiolaeth at wella iechyd a lles plant a phobl ifanc mewn lleoliadau ysgol.

Mae’r Rhwydwaith wedi dod yn rhan unigryw ac amhrisiadwy o’r seilwaith addysg, iechyd a lles yng Nghymru.

Mae’r Rhwydwaith yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru (Iechyd ac Addysg), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cancer Research UK a WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru). Fe’i harweinir gan y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r bartneriaeth hon yn hwyluso alinio agendau polisi, ymchwil ac ymarfer yn strategol.

Mae dros 30 o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y Rhwydwaith, am ei fod yn darparu cymorth ar gyfer darparu a gwerthuso agendau ac ymyriadau polisi iechyd a lles. Mae’r rhain yn cynnwys y Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus Estyn (2019).

Mae ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd yn y rhwydwaith yn llenwi Arolwg dwyieithog Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith yn electronig, bob dwy flynedd. Mae’r arolwg wedi’i seilio ar arolwg Ymddygiad Iechyd Plant Oed Ysgol (HBSC) cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd er mwyn caniatáu am integreiddio’r ddau arolwg bob pedair blynedd. Fel arfer, mae casglu data myfyrwyr yn cynnwys tua 70% o’r myfyrwyr 11-16 oed sy’n mynychu ysgolion uwchradd prif ffrwd yng Nghymru. Yn cyd-fynd â hwn y mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, sy’n caniatáu am ymchwilio i’r berthynas rhwng polisi ac arferion ysgolion a deilliannau iechyd myfyrwyr.

Mae’r Rhwydwaith yn sicrhau bod yr ymchwil yn berthnasol i randdeiliaid fel bod tystiolaeth ymchwil ddilynol yn fwy tebygol o ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar gyfer effeithiau iechyd y boblogaeth.

I ddysgu rhagor, darllenwch y llyfryn hwn.


Mynediad i ddata’r Rhwydwaith

Mae adroddiadau diweddaraf y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i’w gweld ar wefan y Rhwydwaith.

Cewch ein hadroddiadau data cenedlaethol yma:

Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth, Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru ochr yn ochr â DECIPHer wedi datblygu adnodd deallusrwydd iechyd rhyngweithiol ar-lein i ddarlunio data’r Rhwydwaith ar lefel awdurdod lleol. Nod y dangosfwrdd hwn yw caniatáu mynediad haws at ddata’r Rhwydwaith sydd ar gael, a dealltwriaeth o honno, ar lefel awdurdod lleol ac uwch.

Mae dolen i Ddangosfwrdd Data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion a rhagor o wybodaeth ar gael isod:

Hefyd, gallwch wylio animeiddiad yn amlinellu rhai o ganfyddiadau’r Rhwydwaith isod:


Arloesiadau’r Rhwydwaith

Mae Dangosfwrdd Digidol Lefel Ysgol y Rhwydwaith yn grymuso ysgolion i ddefnyddio data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i greu amgylcheddau sy’n hyrwyddo iechyd meddwl ac iechyd corfforol da. Fe’i datblygwyd fel rhan o brosiect Gwobr Data Iechyd Meddwl, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome.

Dysgwch ragor drwy fynd i’r dudalen we hon.


Pa ysgolion sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd?

Mae’r holl ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd, a gynhelir gan y wladwriaeth, a rhai ysgolion annibynnol, yn aelodau.

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn seilwaith data unigryw i Gymru. Mae wedi recriwtio 100% o ysgolion uwchradd a gynhelir, gyda 95% o ysgolion a thros 70% o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn casglu data yn 2023. Hefyd, fe wnaeth dros 90% o Uwch Dimau Arwain Ysgolion ddychwelyd Holiadur Amgylchedd yr Ysgol.

Yn ogystal, mae’r Rhwydwaith wedi peilota ehangu i ysgolion cynradd, gyda 29% o ysgolion cynradd a 23% o ddisgyblion yn cymryd rhan yn 2022/23. Ym Mehefin 2024, bydd yr holl ysgolion cynradd prif ffrwd yn cael eu gwahodd i ymuno â’r rhwydwaith.


Beth yw buddion ymuno â’r Rhwydwaith i ysgolion?

Mae Adroddiadau Iechyd a Lles Myfyrwyr teilwriedig yn cael eu darparu i ysgolion, wedi’u meincnodi yn erbyn data cenedlaethol. Fe’u defnyddir gan grwpiau cynllunio ysgolion (uwch dimau rheoli, rhieni a gofalwyr, llais y myfyrwyr a llywodraethwyr ysgol) i gynllunio gweithredu ar gyfer iechyd a lles a monitro a gwerthuso Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru, a’r Dull Ysgol gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol.

Darllenwch y llyfryn hwn i ddysgu rhagor.

  • Mae gweithgareddau ac adnoddau a ddarperir i ysgolion yn canolbwyntio ar rannu ymarfer wrth ddefnyddio’r data hwn a’r dystiolaeth ymchwil sy’n deillio ohono:
  • Cynhelir digwyddiadau cenedlaethol ymgysylltu ag ysgolion i hwyluso dysgu cyffredin am ddefnyddio data.
  • Mae digwyddiadau ymgysylltu â dysgwyr yn annog cyfraniad llais y myfyrwyr ar lefel ysgol a Rhwydwaith, gyda grŵp pobl ifanc DECIPHer, ALPHA, yn cefnogi datblygiad y rhain.
  • Caiff gweminarau eu darlledu fel y gall canfyddiadau o ymchwil y Rhwydwaith gael eu rhannu a’u trafod gydag ysgolion a’r rhai sy’n cefnogi ysgolion ar draws Cymru.
  • Mae briffiau ymchwil yn crynhoi allbynnau ymchwil y Rhwydwaith yn adroddiadau byr, hawdd eu trin a thrafod, sy’n cael eu dosbarthu i ysgolion ac i bartneriaid polisi ac ymarfer er mwyn trosi gwybodaeth a gwella systemau iechyd ysgolion yn barhaus.
  • Caiff e-newyddion misol ei ddosbarthu i’r holl ysgolion sy’n aelodau ac i randdeiliaid allweddol er mwyn crynhoi’r dysgu hwn ac i dynnu sylw ysgolion at gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil y Rhwydwaith.

Cyhoeddiadau

Mae nifer o gyhoeddiadau ymchwil wedi cael eu cynhyrchu ar sail gwybodaeth o adroddiadau’r Rhwydwaith. Cewch restr lawn o’n cyhoeddiadau yma.


Astudiaethau Ymchwil

Er mwyn hyrwyddo cydweithredu, mae’r Rhwydwaith wedi mabwysiadu amrywiol astudiaethau o fewn a’r tu hwnt i Ganolfan DECIPHer. Mae buddion cael astudiaeth wedi’i mabwysiadu yn cynnwys:

  • Cefnogaeth gan ymchwilwyr ac ymchwil y Rhwydwaith i ddatblygu astudiaethau;
  • Cymorth â chynnwys ymglymiad gan y cyhoedd a chyfnewid gwybodaeth yn eich ymchwil;
  • Mynediad at rwydwaith o ysgolion parod ar gyfer ymchwil, gyda seilwaith data sydd eisoes yn bodoli (data gwaelodlin, cyd-destun yr ysgol a data dilynol);
  • Cymorth â recriwtio a chadw ysgolion;
  • Cyfleoedd i gydweithredu a rhannu gwybodaeth gyda’n rhwydwaith o bartneriaid polisi, ymarfer ac academaidd i hyrwyddo effaith;
  • Defnyddio logo a brandio’r Rhwydwaith ar ddeilliannau a deunyddiau cyhoeddusrwydd prosiectau.
  • Mae’r Rhwydwaith yn sicrhau bod yr ymchwil yn berthnasol i randdeiliaid fel bod tystiolaeth ymchwil ddilynol yn fwy tebygol o ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer er mwyn cael effeithiau ar iechyd y boblogaeth.

Mae rhestr lawn o’r astudiaethau rydym ni wedi’u mabwysiadu ar gael yma.


Effaith

Cliciwch yma i ddysgu beth mae’r Rhwydwaith yn ei olygu i’n haelodau a’n partneriaid.

Cliciwch yma i ddarllen am lwyddiant ysgolion ac effeithiau.


Gwobrau

Enillodd y Rhwydwaith y Wobr Arloesi ac Effaith mewn Gofal Iechyd yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd yn 2018

Cewch fwy o wybodaeth am y wobr yma.

Hefyd, cawsom ein cynnig am Wobr Dewis y Bobl, a chawsom rai sylwadau arbennig gan y bobl a bleidleisiodd drosom ni:

“Mae’r gwaith mae’r Rhwydwaith yn ei wneud yn arloesol tu hwnt… Mae’n gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc Cymru. Mae caniatáu i ysgolion gael data ar ymddygiadau iechyd eu myfyrwyr yn hynod gyffrous a phwysig, gan ganiatáu i ysgolion wneud newidiadau i bolisi ac ymarfer, a hefyd adnabod beth maen nhw’n ei wneud yn DDA. Bydd y rhwydwaith hwn yn cael effaith barhaol ar blant a phobl ifanc Cymru.”

“Mae’n brosiect hynod uchelgeisiol a llwyddiannus, a’r mwyaf o’r fath yn y byd. Mae wedi arwain at dros 30 o wahanol brosiectau ymchwil sy’n gwella polisi ac sydd, yn y pen draw, yn gwella iechyd a bywoliaeth pobl Cymru.”

“Mae buddsoddi mewn monitro a gwella iechyd yr ieuengaf yn ein cymdeithas yn fuddsoddiad yn y dyfodol. Os gallwn wneud cenedlaethau’r dyfodol yn iachach ac yn fwy gwydn – trwy ymyriadau iechyd a lles heddiw wedi’u gyrru gan wybodaeth dda – rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn GIG fwy cynaliadwy ar gyfer ein dyfodol.”

“Mae’r prosiect hwn yn flaengar ac yn arloesol ….. Trwy weithio gydag ysgolion ac ar draws ysgolion i gasglu data’n gysylltiedig ag iechyd, a chysylltu hyn â llunwyr polisi a phenderfynwyr i helpu llywio’r ffordd maen nhw’n meddwl am iechyd a chyfleoedd pobl ifanc, maen nhw’n darparu tystiolaeth sydd erioed wedi cael ei chasglu ar raddfa mor eang o’r blaen. Mae’r Rhwydwaith yn gweithio’n agos gydag ysgolion i gynorthwyo pobl ifanc i allu defnyddio a chraffu ar y data hwn ar lefel ysgol, a gwneud gwelliannau yn eu hysgolion. Mae’n brosiect effeithiol iawn ar gymaint o lefelau, ac mae’n unigryw mewn gwirionedd o ran ei uchelgais a’i gwmpas.”

“Yn syml, maen nhw’n wych! Rwy’ wedi ymwneud â thîm y Rhwydwaith ers 2015 fel athro mewn ysgol yng ngogledd Cymru. Mae eu harolwg, dadansoddiad a’r cyfle i gydweithredu yn eu cynhadledd ranbarthol a thrafod prosiectau er budd iechyd a lles pobl ifanc wedi bod mor fuddiol … Maen nhw ar gael bob amser i drafod materion neu ateb cwestiynau, maen nhw wir yn haeddu’r wobr hon. Maen nhw wir wedi gwneud lles i ddyfodol ein gwlad mewn cymaint o ffyrdd!”


Partneriaid

Mae ymchwilwyr DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mwn Ysgolion ac i sicrhau ei fod yn bodloni eu hanghenion. Mae ALPHA, grŵp cynghori o bobl ifanc yn DECIPHer, yn darparu cyngor a chymorth ychwanegol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau data o arolwg Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol yng Nghymru 2013/14. Defnyddiwyd y data hwn i roi adroddiad unigol, lefel ysgol i ysgolion y rhwydwaith o ymddygiadau iechyd eu myfyrwyr yn 2014.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl oruchwylio’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac mae’n sicrhau bod y rhwydwaith yn datblygu mewn modd cyson â blaenoriaethau a rhaglenni iechyd cyhoeddus cenedlaethol, fel Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru.

Mae Cancer Research UK yn cynnig adnoddau i ysgolion yn y rhwydwaith er mwyn cefnogi addysgu addysg iechyd a gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a hybu iechyd yn amgylchedd ehangach yr ysgol.

Mae WISERD yn darparu dolen strategol i ganolfan ymchwil addysg flaenllaw yng Nghymru.