Mynd i'r cynnwys
Home » Mae Prosiect Dangosfwrdd Data SHRN yn un o dri enillydd y Wobr Data Iechyd Meddwl

Mae Prosiect Dangosfwrdd Data SHRN yn un o dri enillydd y Wobr Data Iechyd Meddwl

Tagiau:

Mae’r Dangosfwrdd Digidol Lefel Ysgol yn un o dri phrosiect i gyrraedd y Cam Cynaliadwyedd.

Nod y Dangosfwrdd Digidol Lefel Ysgol yw grymuso ysgolion i ddefnyddio data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) er mwyn creu amgylcheddau sy’n hybu iechyd meddwl a chorfforol da. Fe’i datblygwyd yn rhan o brosiect Gwobr Data Iechyd Meddwl, wedi’i ariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome.

Mae’r wobr yn cefnogi dulliau cydweithredol o ymchwilio i gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc, gan ofyn i dîmau archwilio data presennol er mwyn cael gwybodaeth newydd a datblygu offer digidol sy’n galluogi ymchwil yn y dyfodol.  

Mae tri cham i’r wobr, ac mae is-set o dîmau o bob cam yn symud ymlaen i’r cam nesaf: Cam Darganfod (10 tîm); Cam Prototeipio (5 tîm); Cam Cynaliadwyedd (3 thîm).

Dyma adborth Wellcome i’r tîm:

Teimlai’r panel fod nod ac amcanion cyffredinol y tîm yn cael eu gyrru gan werth gyda llwybr clir i effaith, a bod y potensial ar gyfer effaith yn gryf o ystyried y ffocws ar ysgolion a datblygiad ar ôl cwblhau a lledaenu eich dangosfwrdd… Mae profiad byw wedi’i integreiddio’n dda, ac ymgysylltwyd yn sylweddol â rhanddeiliaid yn rhan o’r cam prototeipio.

Dywedodd Dr Jeremy Segrott, Uwch Ddarlithydd yn DECIPHer a’r Ganolfan Treialon Ymchwil: “Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’n cynlluniau cyffrous i roi dangosfwrdd SHRN ar waith gydag ysgolion ledled Cymru fel y gallant ddefnyddio data ymchwil mewn ffyrdd arloesol i hybu iechyd corfforol a meddyliol myfyrwyr.”

Dechreuodd y Cam Cynaliadwyedd ar 12 Tachwedd 2023 a bydd yn rhedeg am chwe mis.

Darganfyddwch ragor am y Dangosfwrdd yma: Dangosfwrdd digidol lefel ysgol  – DECIPHer

Rhagor am Wobr Data Iechyd Meddwl Wellcome yma: https://wellcome.org/what-we-do/mental-health/mental-health-data-prize?utm_source=twitter&utm_medium=o-wellcome#wellcome-mental-health-data-prize:-uk-and-south-africa,-2022-2023–6d52