Mynd i'r cynnwys
Home » Ymchwil » Rhaglenni » Amgylchiadau A Sefydliadau Iach » Dangosfwrdd digidol lefel ysgol 

Dangosfwrdd digidol lefel ysgol 

Dysgwch fwy am Ddangosfwrdd digidol ar lefel ysgol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), a gweld arddangosiad.

Gallwch weld fersiwn arddangosiad cyhoeddus o’n prototeip Dangosfwrdd digidol lefel ysgol yma

Cewch wybodaeth am y codio a ddefnyddiwyd i adeiladu’r Dangosfwrdd yma

Beth yw nod y Dangosfwrdd? 

Nod y dangosfwrdd yw grymuso ysgolion i ddefnyddio data ymchwil i greu amgylcheddau sy’n hyrwyddo iechyd meddwl a chorfforol da. Datblygwyd y dangosfwrdd lefel ysgol fel rhan o brosiect Gwobr Data Iechyd Meddwl, a ariannwyd gan Wellcome.

Pa ddata mae’r dangosfwrdd yn ei arddangos? 

Rydym wedi gweithio gyda’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yng Nghymru.  Bob dwy flynedd, mae SHRN yn cynnal arolwg cenedlaethol o iechyd a lles myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd.  Yn 2021/22, atebwyd yr arolwg gan oddeutu 125,000 o bobl ifanc 11 i 16 oed ar draws 202 o ysgolion yng Nghymru (95% o’r holl ysgolion uwchradd a gynhelir).

Mae ein dangosfwrdd yn galluogi pob un o’r ysgolion hyn i weld eu data mewn gwahanol ffyrdd a’i ddefnyddio i lywio sut maen nhw’n hyrwyddo amgylcheddau ysgol iach.  Mae’r data a gyflwynir i ysgolion yn ddienw ac yn cael ei arddangos yn ôl grŵp blwyddyn a rhyw.  Ni chaiff data myfyrwyr unigol fyth ei rannu.

Mae fersiwn arddangos y Dangosfwrdd wedi’i phoblogi â data ‘ffug’ (nid oes data ysgol go iawn wedi’i gynnwys).  Bydd yn dangos i chi beth fydd ysgolion yn ei weld pan fyddant yn mewngofnodi i’r Dangosfwrdd, a’r gwahanol ffyrdd y gallant archwilio eu data SHRN.

Mae arolwg SHRN yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys: 

  • Lles ac iechyd emosiynol, a ffactorau allweddol sy’n eu siapio fel cysylltioldeb ysgolion
  • Gweithgarwch corfforol
  • Bwyd
  • Bywyd ysgol
  • Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
  • Rhyw a pherthnasoedd

Mae arolwg SHRN yn rhan o’r arolwg rhyngwladol Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (HBSC).  Bob pedair blynedd, mae arolygon iechyd a lles mewn 49 o wledydd yn defnyddio set gyffredin o fesurau i asesu iechyd a lles pobl ifanc.  SHRN (yng Nghymru) yw un o’r 49 o arolygon hyn.  Felly, mae gan ein dangosfwrdd botensial cryf i gael ei ddefnyddio gan ymchwil arall ar hyd  llawer o wledydd.

Sut gall ysgolion ddefnyddio’r Dangosfwrdd?

Rydym wedi creu’r dangosfwrdd i’w ddefnyddio gan ysgolion uwchradd sy’n rhan o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yng Nghymru.  Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu gweithio gydag ymchwilwyr eraill fel eu bod yn addasu’r Dangosfwrdd ar gyfer eu hastudiaethau.

Bydd ysgolion SHRN yn gallu:

  • Gweld canlyniadau ar bob deilliant ar gyfer eu myfyrwyr yn gyffredinol, grwpiau blwyddyn penodol, ac yn ôl rhywedd.
  • Cymharu data ar lefel ysgol a lefel genedlaethol.
  • Olrhain newidiadau dros gyfnod (gan fod yr arolwg yn cael ei ailadrodd bob dwy flynedd).
  • Bwriad y data hwn yw cynorthwyo ysgolion i amlygu blaenoriaethau i’w gweithredu wrth hyrwyddo amgylcheddau ysgol iach. 

Sut galla’ i ddarganfod mwy? 

Cysylltwch ag aelod o’r tîm a fydd yn hapus iawn i ddarparu mwy o wybodaeth am y Dangosfwrdd a sut y gellir ei ddefnyddio:

Dr Nick Page – PageN2@cardiff.ac.uk  

Dr Hayley Reed – ReedHM@cardiff.ac.uk  

Dr Jeremy Segrott – segrottj@cardiff.ac.uk