Mynd i'r cynnwys
Home » Mindset Teams yn system addysg yr Alban

Mindset Teams yn system addysg yr Alban

Prif Ymchwilydd


Dr. Kelly Morgan


Cyd-ymchwilwyr


Yr Athro Simon Murphy; Yr Athro Frank de Vacht (Prifysgol Bryste)


Y Cefndir


Ymyriad yw Mindset Teams, rhaglen flaenllaw Winning Scotland, a’i nod yw cefnogi datblygu diwylliant o feddylfryd twf mewn ysgolion yn yr Alban er mwyn gwella gwydnwch dysgu ar gyfer canlyniadau iechyd ac addysg. Gan fabwysiadu ymagwedd dysgu proffesiynol, mae’r ymyriad yn galluogi ymarferwyr addysgu ac uwch arweinwyr mewn ysgolion i ffurfio tîm meddylfryd i ddatblygu, cyflwyno a chefnogi dysgu meddylfryd drwy’r cwricwlwm cyfan.


Nodau ac amcanion


Bydd yr astudiaeth yn gwerthuso effaith a gweithrediad rhaglen Mindset Teams mewn ysgolion cynradd yn yr Alban.


Cynllun yr Astudiaeth


Mae tair rhan i’r astudiaeth:
1: Rhanddeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol. Bydd cyfweliadau gyda rhanddeiliaid yn edrych ar eu dealltwriaeth o raglen Mindset Teams a’u heffeithiau canfyddedig.

2: Ysgolion cynradd. Caiff 13 o ysgolion cynradd yn yr Alban eu recriwtio (8 gyda Mindset Teams wedi’i sefydlu a 5 sy’n sefydlu Mindset Teams ar hyn o bryd). Caiff canfyddiadau o gyflwyno neu fod yn rhan o’r rhaglen a’r effeithiau posibl eu hasesu gyda rhanddeiliaid ysgolion fel a ganlyn:

  • Cynhelir grwpiau ffocws gyda disgyblion ysgol gynradd (P5-P7 sy’n cyfateb i Flynyddoedd 4-6).
  • Cynhelir cyfweliadau lled-strwythuredig gydag aelod o’r Uwch Dîm Rheoli, Arweinydd Mindset a Hyrwyddwr Mindset.
  • Arolwg hunanadrodd ar-lein o rieni/gofalwyr.


3: Data eilaidd. Caiff data a gesglir yn rheolaidd ei ddadansoddi i asesu effeithiau’r rhaglen ar athrawon a myfyrwyr fel a ganlyn:

Mae athrawon sy’n ymwneud â chyflwyno’r rhaglen ym mhob ysgol yn ymgymryd â chwrs hyfforddi Mindset Teams. Cyn ac ar ôl y cwrs hyfforddi (6 mis), anfonir arolwg ar-lein at bob athro fel mater o drefn.
Bydd data presenoldeb a pherfformiad academaidd arferol a gesglir ar bob ysgol gynradd gan Lywodraeth yr Alban yn edrych ar yr effeithiau ar fyfyrwyr.


Cyfranogiad y Cyhoedd


Cyn dechrau’r gwerthusiad byddwn yn recriwtio ac yn gweithio gydag un ‘Ysgol Gyfranogol’ i helpu i fireinio ein strategaethau recriwtio, y deunyddiau astudio a’r offer ymchwil. Hefyd, byddwn yn recriwtio rhiant i Grŵp Cynghori’r Astudiaeth i’n helpu gyda chydlynu’r astudiaeth yn gyffredinol.


Dyddiad dechrau


01/5/2021

Dyddiad gorffen


01/05/2023 (amcangyfrifir)

Arianwyr


Ariennir yr astudiaeth hon drwy’r NIHR drwy PHIRST Bryste a Chaerdydd (Tîm Astudiaethau Ymyrraeth Ymatebol Iechyd y Cyhoedd).