
Prif Ymchwilwyr ar y Cyd
Dr Kelly Morgan a Dr Elinor Coulman (Prifysgol Caerdydd)
Ymchwilwyr ar y cyd
Dr Samantha Garay (Prifysgol Caerdydd); Yr Athro Frank de Vocht (Prifysgol Bryste)
Cefndir
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn cydweithio er mwyn datblygu camau gweithredu sy’n cyfyngu ar hysbysebu bwydydd a diodydd Uchel mewn Braster, Siwgr a Halen (HFSS), fel rhan o’u gwaith ehangach i fynd i’r afael â gordewdra a gwella pwysau iach ar draws y rhanbarth. Agwedd allweddol ar y gwaith hwn yw datblygu polisïau gyda’r nod o gyfyngu hysbysebu HFSS a chynyddu’r lle ar gyfer hysbysebu a marchnata iachach ar draws y rhanbarth, ar safleoedd hysbysebu ym mherchnogaeth y Cyngor a rhai sydd dan gontract gyda nhw. Disgwylir y bydd y newidiadau i’r polisi wedi cael eu rhoi ar waith ym mis Mawrth/Ebrill 2024.
Nodau ac amcanion
Nod y gwerthusiad hwn o’r rhaglen Polisïau Hysbysebu Iachach yw:-
· Deall amgyffredion y cyhoedd o hysbysebu HFSS a hysbysebu pethau nad ydynt yn HFSS, ac o bolisïau HFSS lleol.
· Gwerthuso effaith newidiadau mewn polisi HFSS ar ddeilliannau gosodedig, fel ymddygiad prynu a bwyta/yfed bwydydd a diodydd nad ydynt yn HFSS.
Agwedd allweddol ar y gwaith hwn yw datblygu polisïau gyda’r nod o gyfyngu hysbysebu HFSS a chynyddu’r lle ar gyfer hysbysebu a marchnata iachach ar draws y rhanbarth.
Cynllun yr astudiaeth
Mae tair rhan i’r gwerthusiad dulliau cymysg hwn:
1. Arolwg preswylwyr: Bydd preswylwyr 16+ oed ar draws y ddau awdurdod lleol yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr astudiaeth trwy ateb arolwg. Cynhelir yr arolygon ar ddau bwynt penodol; cyn ac ar ôl gweithredu’r newid i’r polisi.
2. Cyfweliadau â phreswylwyr: Bydd hyd at 20 o breswylwyr a atebodd yr holiadur cyntaf yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cyfweliad dilynol unigol.
3. Grwpiau ffocws mewn ysgolion: Bydd 10 ysgol gynradd a 10 ysgol uwchradd ar draws y ddau awdurdod lleol yn cael eu recriwtio i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Ym mhob ysgol, bydd grwpiau ffocws yn digwydd gyda 6 i 8 disgybl 9-11 oed.
Ymglymiad gan y cyhoedd
Trwy gydol y gwerthusiad, bydd gweithgareddau ymglymiad parhaus gan y cyhoedd yn cynnwys:
- Bydd cynrychiolwyr lleol ymglymiad gan y cyhoedd yn aelodau o Grŵp Rheoli’r Astudiaeth (SMG) a Grŵp Cynghori’r Astudiaeth (SAG) er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd a goruchwyliaeth ar gyfer ymglymiad gan y cyhoedd.
- Bydd ysgol o Gaerdydd neu Fro Morgannwg sy’n cymryd rhan mewn ymglymiad gan y cyhoedd yn ymglymiad o gam sefydlu’r astudiaeth ymlaen i sicrhau bod pobl ifanc 9-11 oed yn cael eu cynrychioli. Bydd pobl ifanc yn llywio ac yn cynorthwyo â chyd-ddatblygu deunyddiau recriwtio i’r astudiaeth, offer casglu data a chynlluniau lledaenu data.
- Ymglymiad gan aelodau o grwpiau ieuenctid lleol 13-17 oed sydd wedi cynorthwyo â chyd-ddatblygu’r protocol gwerthuso a byddant yn parhau i lywio datblygiad deunyddiau recriwtio i’r astudiaeth, offer casglu data a chynlluniau lledaenu data.
Dyddiad dechrau
Hydref 2023
Dyddiad gorffen
Rhagfyr 2024
Cyllidwyr
Ariennir yr astudiaeth hon trwy Dîm Astudiaethau Ymatebol Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus NIHR trwy PHIRST Insight, PHIRST Bryste a Chaerdydd.