Mynd i'r cynnwys
Home » Hyrwyddo gwybodaeth am y defnydd o ddata a thystiolaeth ynghylch iechyd a lles: Pecyn hyfforddiant i Gydlynwyr Ysgolion Iach (ADEPT – HSC)

Hyrwyddo gwybodaeth am y defnydd o ddata a thystiolaeth ynghylch iechyd a lles: Pecyn hyfforddiant i Gydlynwyr Ysgolion Iach (ADEPT – HSC)

Prif Ymchwilydd

Dr Sara Long

Cyd Ymchwilwyr

Dr Rachel Brown, Dr Nick Page, Dr Hayley Reed, Prof Simon Murphy, Prof Graham Moore


Y Cefndir


Iechyd a lles yn un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r dylanwad y mae iechyd a lles yn ei gael ar ddysgwyr yn amrywio ym mhob lleoliad a grŵp oedran. Disgwylir i ysgolion dalu sylw at hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Serch hynny, nid oes ganddyn nhw’r arbenigedd na’r offer i allu dod o hyd i’r data sydd ar gael iddyn nhw a’i ddefnyddio. Y rheswm am hyn yw, hyd yma, nid yw materion o’r fath wedi’u cynnwys yn eu hyfforddiant. Nod ADEPT-HSC yw ceisio llenwi’r bwlch hwn.

Mae sawl ffactor yn sail i ddatblygu’r cwrs, gan gynnwys adolygiad o Gynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru, tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a’r Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, a datblygiadau’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.


Nodau ac Amcanion


Prif nod y cwrs yw gwella gwybodaeth a sgiliau Cydlynwyr Ysgolion Iach wrth iddyn nhw gefnogi ysgolion i ddefnyddio a deall data a thystiolaeth.

Y tri phrif amcan ar gyfer ADEPT-HSC:

  1. Dealltwriaeth bellach o ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) a gwneud y defnydd gorau o hyn, a chodi ymwybyddiaeth o ffynonellau data eraill.
  2. Gwella gwybodaeth a sgiliau wrth wreiddio dulliau ysgol gyfan o fewn ysgolion, gan gynnwys:

Deall a gosod data yn eu cyd-destun er mwyn llywio asesu anghenion, blaenoriaethu a chynllunio camau gweithredu a gwerthuso law yn llaw ag ysgolion;

-Arfarnu’r dystiolaeth yn feirniadol;

-Gosod tystiolaeth yn ei chyd-destun a’i rhoi waith, gan roi enghreifftiau a nodi egwyddorion arweiniol (gan gynnwys trosolwg o ymyriadau aml-gydran, megis ymyriadau Dull Ysgol Gyfan (WXSA) yn erbyn ymyriadau cydran sengl);

-Gwerthuso, dewis ac addasu ymyriadau yn unol â’r cyd-destun, gan gynnwys ymarfer pan fo diffyg tystiolaeth;

-Deall systemau cymhleth a’u rhoi ar waith.

3. Hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r adnoddau uchod er mwyn ymarfer enghreifftiau; ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg.


Dyluniad y Cwrs

Mae’r cwrs wedi’i seilio ar four egwyddor allweddol a’u nod yw gwella gwybodaeth, sgiliau, a llywio ffyrdd o weithio y tu hwnt i’r cwrs.

  • Yn gyntaf, gofynnir i ymarferwyr ystyried sut y mae ‘problem’ yn cael ei nodi, a sut mae rhywun yn penderfynu beth yw angen iechyd.
  • Bydd y sesiwn ddilynol yn canolbwyntio ar geisio mapio ‘angen iechyd’ a deall beth yw ei ffiniau a’i achosion.
  • Ffocws y drydedd sesiwn bydd y ffyrdd y gellid mynd i’r afael ag ‘angen iechyd’ yng nghyd-destun dull ysgol gyfan, gan gynnig trosolwg byr o sut i werthuso’r dystiolaeth a’r pyramid tystiolaeth, beth i’w wneud pan fo diffyg tystiolaeth, a sut y gall ymarferwyr gyfrannu at waith ymchwil, monitro a gwerthuso.
  • Bydd y sesiwn olaf yn canolbwyntio ar roi ymyriadau ar waith o fewn lleoliadau penodol, a chynllunio camau gweithredu ar y cyd ag ysgolion.

Dyddiad dechrau


Ionawr 2022

Dyddiad gorffen


Rhagfyr 2024


Arianwyr


Iechyd Cyhoeddus Cymru

Swm


£25,000


Gwybodaeth bellach

Cefnogi addysgwyr i ddod yn fwy medrus wrth ddefnyddio data iechyd a lles