Mynd i'r cynnwys
Home » Cefnogi addysgwyr i ddod yn fwy medrus wrth ddefnyddio data iechyd a lles

Cefnogi addysgwyr i ddod yn fwy medrus wrth ddefnyddio data iechyd a lles

Ym mis Mehefin 202,3 lansiwyd ADEPT-HSC, sef cwrs sydd â’r nod o wella gwybodaeth a sgiliau Cydlynwyr Ysgolion Iach sy’n cefnogi ysgolion wrth iddynt ddefnyddio data a thystiolaeth iechyd a lles.

Mae Cwricwlwm Cymru wedi cael ei ddiwygio’n sylweddol, gyda phwyslais sylweddol cynyddol ar iechyd a lles. Mae Dr Sara Long yn arwain cymrodoriaeth ymchwil pedair blynedd sy’n archwilio effaith y diwygio hwn yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, mae blaenoriaeth gynyddol ar lesiant emosiynol a meddyliol drwy yrwyr fel y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol, ac iechyd yn ehangach mewn mentrau polisi fel Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Health in All Policies.

Fel rhan o’r gymrodoriaeth hon, bu Dr Long yn cyfweld â llunwyr polisi a deiliaid rôl strategol wrth ddylunio a gweithredu agweddau iechyd a lles y cwricwlwm i archwilio nodau a dyheadau Cwricwlwm i Gymru. Darllenwch y papur academaidd ar hyn yma. Mewn erthygl newyddion ym mis Mai 2023, dywedodd Dr Long: ‘Gyda newidiadau mor radical i’r ffordd y mae pobl ifanc yn dysgu, bydd rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r offer i roi’r cwricwlwm ar waith i’r rheiny yn y proffesiwn addysg yn mynd i fod yn hanfodol.’

Menter sy’n cael ei gyrru gan adborth

Yn dilyn y cyfweliadau hyn, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys digwyddiadau ymgynghori gyda Chydlynwyr Ysgolion Iach (HSCs). Gofynnwyd iddynt, ymhlith pethau eraill, pa gymorth oedd ei angen arnynt, er mwyn cefnogi defnydd effeithiol ysgolion o ddata iechyd a lles a thystiolaeth i ddylunio a datblygu eu cwricwlwm ac ymgorffori ymagweddau  ysgol gyfan at iechyd a lles.

Roedd adborth y Cydlynwyr Ysgolion Iach, yn ogystal â’r cyfweliadau cynharach a thrafodaethau ehangach ledled Cymru am iechyd a lles ysgolion, yn sail i ddatblygu cwrs newydd, sef ADEPT-HSC (Hyrwyddo gwybodaeth yn y defnydd o ddata a thystiolaeth iechyd a lles: Pecyn o hyfforddiant ar gyfer Cydlynwyr Ysgolion Iach). Fe wnaeth y cwrs, a gynlluniwyd ar y cyd gan Dr Long a chydweithwyr o DECIPHer ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, hefyd helpu i fodloni dyheadau o fewn y rhaglen wella gyfredol ar gyfer y Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy’n ceisio gwneud y gorau o effaith y rhaglen o fewn y cyd-destun polisi ac ymarfer presennol; tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Cwricwlwm i Gymru; gweithredu ymagwedd ysgol gyfan at weithredu llesiant emosiynol a meddyliol a datblygiadau’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.

Yr offer ar gyfer y swydd

Mae gan ADEPT-HSC dri phrif amcan:

Eglurodd Dr Long: ‘Mae iechyd a lles yn un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) yn y Cwricwlwm i Gymru newydd. Mae dylanwadau iechyd a lles dysgwyr yn amrywio yn ôl lleoliad a grŵp oedran ac mae disgwyl i ysgolion ystyried hyn wrth ddylunio eu cwricwlwm eu hunain. Fodd bynnag, nid oes ganddynt yr arbenigedd na’r offer o reidrwydd i ddod o hyd i’r data sydd ar gael iddynt a’u defnyddio, gan nad yw wedi bod yn rhan o’u hyfforddiant hyd yn hyn. Bydd ADEPT-HSC yn mynd i’r afael â’r bwlch hwn.”

Mae dylanwadau iechyd a lles dysgwyr yn amrywio yn ôl lleoliad a grŵp oedran ac mae disgwyl i ysgolion ystyried hyn wrth ddylunio eu cwricwlwm eu hunain. Fodd bynnag, nid oes ganddynt yr arbenigedd na’r offer o reidrwydd i ddod o hyd i’r data sydd ar gael iddynt a’u defnyddio, gan nad yw wedi bod yn rhan o’u hyfforddiant hyd yn hyn. Bydd ADEPT-HSC yn mynd i’r afael â’r bwlch hwn.”

Dywedodd Alexa Gainsbury, Arweinydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Wrth i ni gryfhau ein ffocws ar iechyd a lles o fewn addysg a’r seilwaith data a thystiolaeth i’w chefnogi yng Nghymru, mae’n hanfodol ein bod ni’n rhoi i ysgolion a’r rheiny sy’n eu cefnogi yr offer i fwyafu ei effaith. Mae Cydlynwyr Ysgolion Hyrwyddo Iechyd wedi datblygu perthnasoedd cryf a chefnogol gydag ysgolion ac maent yn ffynhonnell allweddol o gefnogaeth, o ran gwreiddio ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles a darparu’r Maes Dysgu a Phrofiad iechyd a lles. Mae meithrin eu gallu yn y maes hwn yn elfen allweddol o raglen WNHSS gryfach.’

Dechrau cryf

Lansiwyd ADEPT-HSC ar 27 Mehefin 2023 yng Nghaerdydd, a bu’n cynnal sawl sesiwn ledled Cymru tan 11 Gorffennaf. Cynhaliwyd pob cwrs dros ddeuddydd a threialwyd dau fodel cyflwyno: Cynhaliwyd cwrs de Cymru wyneb yn wyneb ac roedd yn cynnwys dau ddiwrnod cwrs llawn wedi’u neilltuo tua wythnos neu ddwy ar wahân. Yng ngogledd Cymru, cafodd y cwrs ei gyflwyno dros ddeuddydd yn olynol ac roedd yn gyfuniad o gyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein (a recordiwyd ymlaen llaw).

Roedd adborth ar y cwrs yn gadarnhaol:

Myfyriodd Dr Long ar ADEPT-HSC:

‘Roedd datblygu a chyflwyno’r cwrs yn brofiad gwerth chweil iawn. Roeddem wir yn anelu at ymateb i’r galw sylweddol yn y system addysg. Fe wnaethom ddarparu digon o gyfle i ryngweithio a thrafod, ac roedd hyn yn wir yn gromlin ddysgu dwy ffordd lle cawsom gyfle i glywed gan gydweithwyr yn y maes am flaenoriaethau, cyfleoedd a heriau.

Mae’r ffaith ein bod wedi cael cymaint o adborth cadarnhaol yn dyst i bwysigrwydd dysgu a datblygiad proffesiynol mewn iechyd a lles yng nghyd-destun system sydd wedi wynebu nifer o newidiadau a heriau dros y degawd diwethaf, yn enwedig COVID-19.

Rydym yn troi ein sylw at y dyfodol ynghylch ein cynnig i ysgolion a chefnogi isadeileddau yn y system addysg i gefnogi dealltwriaeth o ddata a thystiolaeth iechyd a lles, sydd yn y pen draw yn llywio’r dewisiadau gorau o ran iechyd a lles mewn lleoliadau ysgol. Parhewch i wylio!’