Mynd i'r cynnwys
Home » Y rhwydwaith ymchwil iechyd mewn ysgolion

Y rhwydwaith ymchwil iechyd mewn ysgolion

Beth yw’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion?

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) yn dwyn ynghyd ysgolion uwchradd ac ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisïau ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i wella iechyd a lles pobl ifanc yn amgylchedd yr ysgol. Mae’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth CymruIechyd Cyhoeddus CymruYmchwil Canser y DU a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru. DECIPHer sy’n ei arwain.

SUT mae’r Rhwydwaith yn gweithio?

Mae ysgolion y rhwydwaith yn ateb Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, electronig, dwyieithog, bob dwy flynedd. Mae’r arolwg wedi’i seilio ar Arolwg cydweithredol Sefydliad Iechyd y BydYmddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol, fel y gellir integreiddio’r ddau arolwg bob pedair blynedd; yn cyd-fynd â’r arolwg hwn y mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol, sy’n caniatáu am ymchwilio i’r berthynas rhwng polisïau ac arferion ysgolion ac iechyd myfyrwyr. Datblygir cwestiynau mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol mewn ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.


Mae’r Rhwydwaith yn gweithio trwy:

  • Ddarparu data trylwyr ar iechyd a lles i ysgolion ac i randdeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol;
  • Gweithio gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol er mwyn cyd-gynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel i iechyd a lles, mewn ysgolion, i Gymru;
  • Hwyluso trosi tystiolaeth ymchwil i iechyd a lles mewn ysgolion yn ymarfer;
  • Meithrin gallu i ymarfer ar sail tystiolaeth yng nghymuned iechyd ysgolion

I ddarllen am y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn fanylach, cliciwch yma neu ewch i wefan y Rhwydwaith.

EFFAITH

Ysgol

Mae’r Rhwydwaith wedi llwyddo i recriwtio 100 y cant o’r ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn aelodau, felly mae wedi gwreiddio’i hun yn y system gwella iechyd mewn ysgolion ar y lefel leol.

Rhanbarthol

Cafodd Adroddiadau ar Iechyd a Lles Myfyrwyr, ar lefel yr Awdurdod Lleol, eu rhyddhau am y tro cyntaf yn 2018, yn dilyn galw yn lleol am ddata’r Rhwydwaith. Mae’r adroddiadau hyn wedi’u rhannu’n helaeth ymhlith timau gwasanaethau iechyd ac addysg lleol. Gallwch lawrlwytho enghraifft o adroddiad Awdurdod Lleol yma.

Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio data’r Rhwydwaith at ddiben cynllunio a monitro polisi cenedlaethol, gan gynnwys polisïau allweddol yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a diwygio’r cwricwlwm cenedlaethol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi integreiddio’r SHRN yn llwyr i ddatblygiad ei Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (WNHSS) ac i werthuso’r rhain.

Mae data o arolygon y Rhwydwaith ac ymchwil ddilynol wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol. Dyma rai enghreifftiau o’r ffyrdd y defnyddiwyd ei ymchwil:

Y DU a Rhyngwladol

Aeth yr Athro Simon Murphy a phartneriaid y Rhwydwaith yn Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfarfodydd Sefydliad Iechyd y Byd yn Copenhagen yn 2018 a 2019 i gyfrannu at gynllunio rhwydwaith iechyd ysgolion peilot, Ewrop gyfan.

Mae SHRN wedi bod yn allweddol wrth gefnogi rhwydwaith SHINE yn yr Alban, sef cydweithrediad ymchwil rhwng Prifysgol Glasgow a Phrifysgol St Andrews. Mae SHINE yn fodel peilot seiliedig ar seilwaith SHRN.


Mae gwybodaeth fanylach am effaith SHRN i’w chael ar wefan SHRN.