
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o waith cyffrous ein tîm
yn ystod blwyddyn gyntaf ein dyfarniad cyllid cynaliadwyedd gan
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn adlewyrchu blwyddyn heriol ond llwyddiannus yn DECIPHer, ac yn cynnwys diweddariadau ar:
- Ein tair thema ymchwil: Gwella Iechyd y Boblogaeth, Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd ac Arloesedd Methodolegol;
- Grantiau newydd a phrosiectau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys BACK-on-TRACK a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion;
- Cyd-ymchwilwyr am y tro cyntaf, arweinwyr ymchwil, staff y gwasanaethau proffesiynol a chyn-fyfyrwyr;
- Metrigau craidd DECIPHer;
- Cydweithrediadau, ymgysylltu ac effeithiau, gan gynnwys canolfannau ymchwil newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, PHIRST, Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Rhondda Cynon Taf.
- Pum mlynedd o Ganllawiau ADAPT.

Dyma a ddywedodd yr Athro Graham Moore, Cyfarwyddwr DECIPHer:
‘Mae’n bleser gen i gyflwyno ein Hadroddiad Rhanddeiliaid blynyddol, y cyntaf yn fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr DECIPHer. Eleni gwelwyd llwyddiannau mawr wrth adeiladu ar raglenni ymchwil presennol a’u hymestyn, sbarduno meysydd ymchwil newydd, ac adeiladu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr gwella iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r trosolwg o rai o’n prif uchafbwyntiau yn yr adroddiad.’
Darllenwch yr adroddiad trwy glicio isod. Mae modd darllen adroddiadau blynyddol blaenorol ar ein tudalen cyhoeddiadau.
