Mynd i'r cynnwys
Home » ‘Rhagori ar bob disgwyliad!’ Interniaeth DECIPHer Alfie

‘Rhagori ar bob disgwyliad!’ Interniaeth DECIPHer Alfie

Mae Alfie Sharrock yn fyfyriwr blwyddyn olaf ar y cwrs BSc Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae fy niddordebau academaidd wedi’u rhannu rhwng dau ben y sbectrwm – anghydraddoldebau cyfoes ac iechyd y cyhoedd. Drwy gydol fy ngradd, roeddwn i wedi clywed darlithwyr yn sôn am y gwaith gwych y mae DECIPHer yn ei wneud, ac roeddwn i bob amser wedi bod â diddordeb mewn darganfod mwy. Ar ôl cwblhau modiwl ar Werthuso Polisi Cymdeithasol, Ymarfer ac Arloesedd y penderfynais fy mod eisiau gwneud interniaeth yn DECIPHer; i roi fy ngwybodaeth academaidd ar waith a chael rhywfaint o brofiad go iawn o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso ymyriadau.

Byddwn i’n dweud bod fy amser yn DECIPHer wedi rhagori ar bob disgwyliad. O safbwynt profiad gwaith, rydw i wedi gallu ymwneud ag amrywiaeth mor eang o dasgau a chyfleoedd, gan gynnwys dadansoddi data, gwneud ffeithluniau a chyflwyniadau, datblygu canllawiau ar gyfer cyfweliadau, cynnal adolygiadau cwmpasu, mynd i ddiwrnodau i ffwrdd a chwblhau cyrsiau hyfforddi.

Mae Dr Jemma Hawkins a Dr Samantha Garay ill dau wedi bod yn oruchwylwyr gwych, ac wedi bod yn gefnogol iawn wrth wneud yr interniaeth hon yn brofiad gwerthfawr a phleserus. At ei gilydd, byddwn i’n dweud mai’r rhan orau o’r interniaeth i mi oedd gallu cwrdd â chynifer o bobl newydd ddiddorol, a chlywed am yr holl waith maen nhw’n ei wneud. Roedd pawb y siaradais â nhw yn arbenigwyr yn eu maes eu hunain ac yn barod bob amser i gael sgwrs am eu gwaith.

Mae yna nifer o sgiliau y byddaf yn eu cymryd gyda mi. Rydw i wedi gwella fy hyder, fy ngallu i gyflwyno fy hun a sgwrsio â phobl newydd, gweithio mewn tîm yn effeithiol, defnyddio meddalwedd fel Canva ac Nvivo a’m sgiliau dadansoddi data meintiol ac ansoddol. Dydw i ddim yn siŵr beth yn union yr hoffwn i ei wneud yn y dyfodol, ond fy nghynllun presennol fyddai chwilio am radd Meistr neu swydd ym maes Iechyd y Cyhoedd (llwybr rydw i wedi’i ddarganfod o’m hamser yn DECIPHer), neu o bosibl gyrfa yn y gwasanaeth sifil.

Hoffwn hefyd ddweud diolch yn fawr iawn i bawb yn DECIPHer am fod mor groesawgar, ac i Sam a Jemma am fod yn oruchwylwyr mor wych!

Cardiff University, Health and Care Research Wales and Welsh Government logos