
Mae’r adroddiad yn cynnig trosolwg o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni dros y pum mlynedd ddiwethaf o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Eleni, mae’r adroddiad yn fwy ei faint na’r arfer – nid yn unig y mae’n amlygu ein gwaith dros y cyfnod diwethaf rhwng 2024 a 2025, mae’n cynnig trosolwg o’n gwaith dros y cyfnod cyllido o 2020 i 2025. Rhoddodd gyfle hefyd i’r Athro Simon Murphy fyfyrio cyn iddo roi’r gorau i’w swydd ar ôl bod yn Gyfarwyddwr DECIPHer am ddeng mlynedd, gan drosglwyddo’r awenau i’r Athro Graham Moore ar gyfer cyfnod newydd o gyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:

- Cyfraniad DECIPHer at astudiaethau ymchwil 123 gwerth dros £70 miliwn yn ystod y cyfnod o bum mlynedd.
- Crynodeb o’r prif astudiaethau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn.
- Grantiau seilwaith rydyn ni wedi chwarae rôl allweddol yn eu sicrhau i Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys: Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc (2020), Tîm Astudiaethau Ymatebol Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd NIHR (2020), Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd (2023), Canolfan Arweiniol y DU er Ymchwil Ymddygiadol (2023); Tîm Adolygiadau Iechyd y Cyhoedd NIHR (2024) a swydd lwyddiannus ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu timau ymchwil o’r sefydliadau partner (2024).
- Myfyrio ar ein prif gydweithrediadau, gweithgareddau ymgysylltu ac effeithiau dros y flwyddyn ddiwethaf a’n gwaith pwysicaf â llunwyr polisïau, ymarferwyr a’r cyhoedd.
- Llwyddiant diweddar wrth ddatblygu ein capasiti a nifer y dyrchafiadau, y dyfarniadau a’r myfyrwyr rydyn ni wedi gallu eu cynorthwyo dros y blynyddoedd.
- Trosolwg o’n gwaith rhyngwladol.

Dyma ddywedodd yr Athro Graham Moore, Cyfarwyddwr DECIPHer: ‘Mae’r Adroddiad Diwedd Dyfarniad hwn yn arddangos cyflawniad sylweddol DECIPHer dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’n ategu’r deng mlynedd blaenorol fel canolfan rhagoriaeth a ariennir gan UKCRC, sy’n gosod sylfaen gref ar gyfer ein cyfnod nesaf o gyllid cynaliadwyedd, o 2025-30.’
Gallwch chi ddarllen yr adroddiad yma:
Gallwch chi ddarllen holl adroddiadau blynyddol blaenorol DECIPHer yma: https://decipher.uk.net/cy/ymchwil/cyhoeddiadau/.