Dysgwch am ein hamcanion a’n grwpiau strategol a chynghorol
Yn DECIPHer, rydym yn diffinio cynnwys y cyhoedd fel “gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ‘gyda’ neu ‘gan’ aelodau o’r cyhoedd yn hytrach nag ‘iddynt’, ‘amdanynt’ neu ‘ar eu cyfer'” (INVOLVE, 2019).
Ategir ein holl waith cynnwys y cyhoedd gan ein Strategaeth Cynnwys y Cyhoedd sydd â’r amcanion canlynol:
Ymgorffori cynnwys y cyhoedd wrth ddatblygu, dylunio, cynnal a lledaenu astudiaethau ymchwil.
Cynnwys aelodau’r cyhoedd wrth lunio strategaeth DECIPHer.
Datblygu capasiti ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn DECIPHer.
Darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu effeithiol ac arloesol.
Cynyddu cynhwysiant ac amrywiaeth y cyhoedd sy’n cael eu cynnwys yn DECIPHer.
Gwerthuso ein gweithgareddau cynnwys y cyhoedd.
DECIPHer Grwpiau Cynnwys y Cyhoedd
Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd, gan gynnwys pynciau fel ysmygu, gordewdra a gweithgarwch corfforol. Mae DECIPHer yn credu y dylai’r gwaith ymchwil y mae’n ei gynnal gael ei wneud gyda phobl ifanc a’u teuluoedd, yn hytrach nag iddynt neu arnynt.
I helpu i lunio ein gwaith, mae gennym grŵp llywio cynnwys y cyhoedd (PISG). Mae’r PISG yn fwrdd strategol trosfwaol sy’n helpu i ddatblygu a goruchwylio sut mae’r strategaeth cynnwys y cyhoedd yn cael ei gweithredu. I gynghori ein gwaith, mae gennym ddau grŵp cynghori: ALPHA a PAG. ALPHA yw ein grŵp cynghori pobl ifanc sy’n cynnwys pobl ifanc 14-25 oed sy’n byw ar draws de Cymru, a PAG yw ein grŵp cynghori rhieni sy’n cynnwys rhieni a gofalwyr sy’n byw ledled Cymru.
I gynghori ein gwaith, mae gennym ddau grŵp cynghori: ALPHA a PAG. ALPHA yw ein grŵp cynghori pobl ifanc sy’n cynnwys pobl ifanc 14-25 oed sy’n byw ar draws de Cymru, a PAG yw ein grŵp cynghori rhieni sy’n cynnwys rhieni a gofalwyr sy’n byw ledled Cymru.