
Mae astudiaeth RISE ar y gweill, gan edrych ar y ddarpariaeth, y niferoedd a’r defnydd o brydau ysgol. Yn y rhan gyntaf o flog dwy ran, rydym yn cyflwyno’r tîm y tu ôl i’r astudiaeth.
Lleihau Anghydraddoldebau mewn Amgylcheddau Bwyd Ysgolion (RISE): Mae cefnogi darpariaeth, y niferoedd a’r defnydd o Brydau Ysgol Am Ddim mewn ysgolion cynradd yn astudiaeth tair blynedd, gwerth £1.6m, a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Mae’n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, LACA – the School Food People, Prifysgol Newcastle, Prifysgol y Frenhines, Belfast, Prifysgol Caledonian, Glasgow, yn ogystal â chyngor gan Gomisiynydd Plant Cymru. Yn y gyfres blog hon, rydym yn cwrdd ag aelodau tîm RISE sy’n cynnwys y sefydliadau hyn.

‘Mae diffyg maeth yn rhagfynegydd enfawr o ganlyniadau iechyd gydol oes.”
Dr Sara Long, Prif Ymchwilydd RISE, Cymrawd Ymchwil, DECIPHer, Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Disgrifiwch eich cefndir a’ch profiad blaenorol.
Mae gen i PhD mewn seicoleg a maeth ac yn ddiweddar rydw i wedi arwain astudiaethau ar werthusiadau polisi mawr a chanlyniadau iechyd.
Beth yw eich rôl yn RISE?
Rwy’n Brif Ymchwilydd ac mae gen i oruchwyliaeth gyffredinol o’r gwaith ymchwil. Er fy mod i’n ymwneud â phob agwedd ar y gwaith ymchwil, rwy’n Arweinydd Pecyn Gwaith ar ddau o bedwar pecyn gwaith.
Pam ydych chi’n credu bod RISE yn bwysig?
Mae diffyg maeth yn rhagfynegydd enfawr o ganlyniadau iechyd gydol oes. Mae RISE yn bwysig oherwydd ei fod yn ei hanfod yn werthusiad gweithredu o fenter bolisi hynod bwysig sydd â goblygiadau ar gyfer iechyd poblogaethau ac agendâu cynaliadwyedd yn fyd-eang.
Beth yw eich gobeithion ar gyfer RISE?
Rwy’n gobeithio y bydd ein gwaith yn cefnogi’r prydau ysgol gorau posibl i bobl ifanc Cymru. Gobeithio y byddwn yn gallu dylanwadu ar ddarpariaeth, y niferoedd a’r defnydd o fwyd ysgol iach a chynaliadwy. Yn olaf, rwy’n gobeithio y bydd ein gwaith yn cael effeithiau cadarnhaol ar iechyd a chynaliadwyedd prydau ysgol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

‘Mae RISE yn cynnig cyfle unigryw i ddeall patrymau dietegol plant oedran ysgol gynradd yn well.’
Dr Rochelle Embling, Uwch-swyddog Ymchwil a Gwerthuso Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Disgrifiwch eich cefndir a’ch profiad blaenorol.
Rwy’n Uwch-swyddog Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gen i gefndir mewn Seicoleg, dulliau cymysg ac ymchwil arbrofol, ar ôl gweithio’n flaenorol ar brosiectau gyda ffocws eang ar wella iechyd a chynaliadwyedd, a diddordebau penodol mewn ymddygiad bwyta, derbyniad defnyddwyr a gordewdra.
Beth yw eich rôl yn RISE?
Mae fy mhrif rôl yn cynnwys arwain Pecyn Gwaith 2, sydd yn ymwneud â chasglu data mewn ysgolion. Mae hyn yn cynnwys tynnu lluniau o brydau bwyd amser cinio yn neuaddau bwyta’r ysgol, a chyfweld â staff yr ysgol, dysgwyr a’u rhieni am fwyd ysgol. Rwyf hefyd yn cefnogi’r pecynnau gwaith eraill fel ymchwilydd ar y prosiect, ac yn helpu i ddatblygu ein cynlluniau llywodraethu i wneud yn siŵr bod yr hyn rydym yn ei wneud yn unol â pholisïau’r Brifysgol a’r sefydliadau partner (e.e., ar gyfer moeseg a diogelu data).
Pam ydych chi’n credu bod RISE yn bwysig?
Mae RISE yn cynnig cyfle unigryw i ddeall patrymau dietegol plant oedran ysgol gynradd yn well, gan ein helpu i lunio dyfodol bwyd ysgol mewn ffyrdd sy’n lleihau anghydraddoldebau iechyd ac yn hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol ymhlith pob plentyn ledled Cymru.
Beth yw eich gobeithion ar gyfer RISE?
Wrth i brosiect RISE ddatblygu, rwy’n gobeithio gweld y gwaith ymchwil hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bolisi ac ymarfer, trwy gydweithio’n agos ag amrywiaeth o randdeiliaid i gyflawni effaith: o gyflenwad a darpariaeth leol i neuaddau bwyta ysgolion a chartref y teulu.

‘Mae gan RISE y potensial i ddylanwadu ar bolisi ac arfer i gael effaith gadarnhaol ar iechyd plant.’
Sarah Collins, Cydlynydd Ymchwil RISE.
Disgrifiwch eich cefndir a’ch profiad blaenorol.
Cyn ymuno â thîm RISE, roeddwn i’n gynorthwyydd gweinyddol yn DECIPHer yn darparu cefnogaeth i brosiectau ymchwil a chefnogaeth i gynnwys y cyhoedd. Mae gen i MSc mewn Seicoleg Arbrofol ac mae gen i ddiddordeb mewn gwaith ymchwil sy’n cynnwys plant a theuluoedd.
Beth yw eich rôl yn RISE?
A minnau’n Gydlynydd Ymchwil, fy rôl yw ymdrin â thasgau gweinyddol a logistaidd i sicrhau y gall y tîm gyflawni a bod y prosiect yn cael ei gynnal yn ddidrafferth.
Pam ydych chi’n credu bod RISE yn bwysig?
Mae maeth priodol yn bwysig yn ystod plentyndod ac yn darparu sylfaen ar gyfer iechyd yn y dyfodol. Mae RISE yn gyfle i ddysgu am faeth plant yn yr ysgol ac mae ganddo’r potensial i ddylanwadu ar bolisi ac arfer i gael effaith gadarnhaol ar iechyd plant.
Beth yw eich gobeithion ar gyfer RISE?
Fel tîm prosiect, rwy’n gobeithio y byddwn yn cael effaith gadarnhaol ar y polisi a’r arfer o amgylch cynnig prydau bwyd i blant mewn ysgolion er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt osgoi diffyg maeth. Yn bersonol, rwy’n gweld hyn fel cyfle i ddysgu mwy am y broses ymchwil a datblygu fy ngyrfa yn y maes ymchwil hwn.

‘Mae ysgolion yn cynnig lleoliad pwysig ar gyfer ymyriadau iechyd y cyhoedd.’
Yr Athro Jayne Woodside, Athro Maeth Dynol a Chyfarwyddwr, Canolfan Iechyd y Cyhoedd, Ysgol Meddygaeth, Deintyddiaeth a’r Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol y Frenhines, Belfast.
Disgrifiwch eich cefndir a’ch profiad blaenorol.
Mae fy nghefndir mewn Maeth Dynol ac Iechyd y Cyhoedd ac yn ddiweddar rydw i wedi bod yn rhan o ystod o astudiaethau yn astudio systemau bwyd ysgolion ac yn datblygu blaenoriaethau ymchwil. Rwy’n arwain rhwydwaith ymchwil bwyd ysgolion GENIUS.
Beth yw eich rôl yn RISE?
Rwyf wedi fy lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac yn arwain y cyfraniad at yr astudiaeth o’r wlad honno, yn ogystal â bod yn rhan o’r pecynnau gwaith eraill.
Pam ydych chi’n credu bod RISE yn bwysig?
Mae ysgolion yn cynnig lleoliad pwysig ar gyfer ymyriadau iechyd y cyhoedd a all leihau anghydraddoldebau ac mae Prydau Ysgol Am Ddim yn rhan bwysig o bolisi cenedlaethol.
Beth yw eich gobeithion ar gyfer RISE?
Rwy’n gobeithio y bydd RISE yn sbarduno gwell dealltwriaeth o systemau prydau ysgol a sut y gall prydau ysgol am ddim wella ansawdd diet ein plant yn effeithiol.

‘Bydd y gwaith ymchwil yn llenwi bylchau pwysig mewn gwybodaeth am ddarpariaeth, y niferoedd a’r defnydd o fwyd ysgol.’
Lucy Jayne, Uwch-faethegydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Disgrifiwch eich cefndir a’ch profiad blaenorol.
Rwy’n Faethegydd Cofrestredig y Gymdeithas Faeth (Afn), gyda gradd mewn Maeth, gradd meistr mewn Iechyd y Cyhoedd, a phrofiad mewn polisi a mentrau iechyd y cyhoedd cenedlaethol a lleol.
Beth yw eich rôl yn RISE?
Rwy’n arbenigwr maeth sy’n gyd-arweinydd ar gyfer Pecyn Gwaith 2 ac yn cyfrannu arbenigedd maeth ar gyfer Pecyn Gwaith 3.
Pam ydych chi’n credu bod RISE yn bwysig?
Bydd y gwaith ymchwil yn llenwi bylchau pwysig mewn gwybodaeth am ddarpariaeth, niferoedd a’r defnydd o fwyd ysgol, a allai helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd bwyd ysgol i wella canlyniadau iechyd plant.
Beth yw eich gobeithion ar gyfer RISE?
Rwy’n gobeithio y bydd RISE yn cyfrannu’n gadarnhaol at ein gwaith sydd wedi’i anelu at wella iechyd y boblogaeth ac yn meithrin cydweithio parhaus ymhlith partneriaid ledled y DU.

‘Mae angen i ni sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at brydau bwyd iach a maethlon.’
Sian Harding, Cyfrannwr Cyhoeddus Aelod o PPI, Prifysgol Caerdydd.
Disgrifiwch eich cefndir a’ch profiad blaenorol.
Mae gen i radd BEd (Anrh) 2:1 mewn Technoleg Bwyd a threuliais 20 mlynedd yn addysgu mewn ysgol mewn ardal â llawer o amddifadedd. Cyn cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol, roeddwn i’n ymwneud yn weithredol â gwella mynediad at brydau ysgol am ddim ac yn helpu i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â nhw.
Beth yw eich rôl yn RISE?
Rwy’n Gyfrannwr Cyhoeddus yn RISE. Rwy’n dod â safbwynt rhywun lleyg, wedi’i lywio gan fy mhrofiad fel cyn-athro ond hefyd mae gen i wyrion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd.
Pam ydych chi’n credu bod RISE yn bwysig?
Rwy’n credu bod RISE yn bwysig oherwydd mae angen i ni sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at brydau iach a maethlon sydd yn bodloni canllawiau cenedlaethol ond sydd hefyd yn bleserus ac yn dderbyniol i’r disgyblion.
Beth yw eich gobeithion ar gyfer RISE?
Rwy’n gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn rhoi dealltwriaeth amser real o ddarpariaeth a defnydd Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol. Bydd yn helpu i sicrhau bod y bwyd a ddarperir yn dderbyniol i ddisgyblion, wrth hefyd yn archwilio’r diwylliant a’r amgylchedd y maent yn bwyta ynddo.

‘Mae angen mwy o dystiolaeth arnom ynglŷn â’r ffordd orau o gyflwyno prydau ysgol am ddim yn y DU.’
Dr Jemma Hawkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ac Arweinydd ar gyfer Ymgysylltu â Rhanddeiliaid.
Disgrifiwch eich cefndir a’ch profiad blaenorol.
Mae gen i 17 mlynedd o brofiad mewn gwaith ymchwil iechyd. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio fel ymarferydd iechyd meddwl.
Beth yw eich rôl yn RISE?
Fi yw cyd-arweinydd pecyn gwaith 4 ac rwy’n aelod o grŵp rheoli’r astudiaeth.
Pam ydych chi’n credu bod RISE yn bwysig?
Oherwydd bod angen mwy o dystiolaeth arnom ynglŷn â’r ffordd orau o gyflwyno prydau ysgol am ddim yn y DU, gan gynnwys dewisiadau bwyd pobl ifanc a sut i annog plant ysgol gynradd a’u teuluoedd i fwyta’r prydau hyn.
Beth yw eich gobeithion ar gyfer RISE?
Rwy’n gobeithio y bydd astudiaeth RISE yn rhoi cipolwg defnyddiol ar y ffordd orau o wella prydau ysgol i bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.
Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth, ei phecynnau gwaith a chydweithwyr ar gael isod:
Mae prydau ysgol o dan y chwyddwydr mewn astudiaeth newydd ledled y DU
Projects spanning the UK to tackle food inequality unveiled

