
Mae’r Cynorthwyydd Ymchwil Jordan Van Godwin yn rhannu mewnwelediadau o’i astudiaethau diweddar ar atal trais.
Trosolwg

Yn y blog hwn byddaf yn rhoi trosolwg byr o rywfaint o’r gwaith ymchwil i atal trais rydw i wedi bod yn ei arwain neu’n ei arwain ar y cyd ers 2022. Mae’n canolbwyntio ar ddau brosiect, un yn enghraifft o ymyrraeth seiliedig ar leoliadau ar gyfer atal trais a’r llall yn enghraifft o waith ymchwil seiliedig ar systemau ar fframwaith atal trais cenedlaethol. Arweiniwyd y ddau brosiect, sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, gan bartneriaeth amlddisgyblaethol rhwng y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) a’r Grŵp Ymchwilio i Drais (VRG) a leolir yn y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth. Y tîm craidd ar gyfer y ddau brosiect hyn oedd fi fy hun, Megan Hamilton, yr Athro Graham Moore a’r Athro Simon Moore.
Fy myfyrdodau
Yn yr un modd â phob maes o wasanaeth cyhoeddus ac yn y byd academaidd, mae heriau’n wynebu gwaith ac ymchwil i atal trais. Nid yw’n syndod bod y rhain yn aml yn ymwneud â chyfyngiadau a therfynau cyllido yn ogystal ag amser, baich a chapasiti staff. Fodd bynnag, ers symud i’r maes ymchwil hwn yn 2022, yr hyn sydd wedi fy nharo mewn gwirionedd yw’r parodrwydd a’r awydd cryf ar draws grwpiau proffesiynol, gan gynnwys awdurdodau lleol, iechyd, yr heddlu a’r trydydd sector, i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Mae bwlch clir hefyd yn y maes atal trais yng Nghymru o ran gwyddoniaeth gymhlethdod, dylunio ymyriadau a’r defnydd effeithiol o ddata arferol a ‘data mawr’, ac rwy’n credu bod DECIPHer a chydweithwyr yn VRG, dan arweiniad yr Athro Simon Moore, mewn sefyllfa unigryw i’w lenwi. Ar ôl rhoi trosolwg byr (iawn!) o drais fel blaenoriaeth ym maes iechyd y cyhoedd, byddaf yn eich tywys drwy’r gwaith ymchwil i atal trais dan arweiniad DECIPHer a VRG sydd wedi’i gynnal hyd yn hyn. Yna byddaf yn gorffen trwy siarad am y llwybrau i effaith o’r gwaith ymchwil hwn a’r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd i ddatblygu ein gwaith yn y maes ymchwil hwn.
Trais yn fyd-eang ac yn genedlaethol
Mae trais yn bryder iechyd cyhoeddus byd-eang ac yn achosi marwolaethau a morbidrwydd cynamserol. Mae ganddo effeithiau parhaol ar gymunedau ac unigolion a gall arwain at risg uwch o broblemau iechyd ymddygiadol, emosiynol a chorfforol
Yn y DU, mae trais yn cyflwyno fel baich aml-lefel sylweddol ar draws systemau gan gynnwys gofal iechyd, gofal cymdeithasol a phlismona. Mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar lefel y gymuned a’r ardal leol. Yn aml, mae pobl ifanc yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan drais, gyda throseddau treisgar yn cynyddu ledled y DU ers 2013/2014. Felly, mae ffocws sylweddol yn y DU ar geisio lleihau trais.
Astudiaeth ymchwil 1: Gwerthuso Proses Rhaglenni Ymyrraeth Trais yn Ysbytai De Cymru (PREVIP)
Cefndir
Mae Timau Atal Trais (VPTs) yn rhaglenni ymyrraeth trais (HVIPs) dan arweiniad nyrsys, mewn ysbytai, sy’n mabwysiadu dull iechyd cyhoeddus i nodi cleifion sy’n dod i adrannau achosion brys oherwydd trais, asesu cleifion am fregusrwydd seicolegol-gymdeithasol ac atgyfeirio cleifion at wasanaethau i gael rhagor o gymorth. Ariannwyd DECIPHer a’r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth gan Gronfa Gwaddol yr Ieuenctid (YEF) i gynnal gwerthusiad proses o’r Timau Atal Trais. Archwiliodd y gwerthusiad ystod o gwestiynau gweithredu, gan gynnwys sut mae Timau Atal Trais wedi dod yn rhan annatod o adrannau achosion brys (EDs) dau ysbyty, i ba raddau roedd y ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r model a ddymunir, i ba raddau roedd cleifion yn ymgysylltu â’r ymyrraeth a pha strategaethau ac arferion a ddefnyddir i gefnogi camau gweithredu da. Ariannodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) werthusiad effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd cysylltiedig sydd wrthi’n cael ei gwblhau i’w gyhoeddi.
Dulliau
Cyfweliadau lled-strwythuredig gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn rolau perthnasol. N=49 Cynhaliwyd dadansoddiad dogfennol (N=46) o bolisïau lleol a chenedlaethol, a chanllawiau yn ymwneud â datblygu a chyflwyno Tîm Atal Trais yn ogystal â dadansoddiad eilaidd o ddata arferol.
Canfyddiadau
Roedd derbynioldeb Tîm Atal Trais yn uchel ymhlith gweithwyr proffesiynol. Y farn oedd bod staff Tîm Atal Trais yn mynd i’r afael ag anghenion cleifion trwy atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd a chymunedol ac yn darparu gwasanaeth a oedd yn cefnogi ac yn hyfforddi staff yr adran achosion brys. Casglodd a rhannodd Timau Atal Trais wybodaeth unigryw ar drais gyda phartneriaid amlasiantaethol. Cyflwynwyd Timau Atal Trais mewn modd cywir ond cawsant eu heffeithio’n negyddol gan brinder staff a baich cyffredinol ar draws gwasanaethau. Mae data’r adrannau achosion brys yn awgrymu bod Timau Atal Trais wedi gwella’r broses o adnabod cleifion a oedd wedi profi trais. Rhwng 2019-2022, nododd un Tîm Atal Trais 2,312 o gleifion a oedd wedi profi trais gyda 1,780 yn cymryd rhan yn yr ymyrraeth. Rhwng 2022 a 2023, nododd y Tîm Atal Trais arall 602 o gleifion gyda 304 yn ymgysylltu â’r ymyrraeth.
Casgliadau
Gall y Timau Atal Trais ddarparu cyfleoedd i gynyddu canfyddiad cleifion ac atgyfeiriadau a chyfrannu at fentrau atal trais lleol a rhanbarthol trwy rannu data. Gallai parhad y Timau Atal Trais hwyluso ymdrechion atal trais amlasiantaethol ar draws y system atal trais.
Adroddiadau diwedd yr astudiaeth:
Papurau Academaidd:
- Rhaglenni atal trais mewn ysbytai yn Adrannau Brys De Cymru: Protocol gwerthuso prosesau
- Profiadau ymarferwyr o ddatblygu a gweithredu dwy raglen ymyrraeth trais mewn ysbytai mewn adrannau brys yn y DU: gwerthusiad proses
Astudiaeth ymchwil 2: Asesiad o Werthusadwyedd Fframwaith Cymru Heb Drais (WAVE)
Cefndir
Comisiynwyd DECIPHer a’r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth gan yr Uned Atal Trais (VPU), a’u hariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, i gynnal asesiad gwerthuso o Fframwaith Cymru Heb Drais. Archwiliodd yr asesiad gwerthuso ddyluniad, datblygiad a gweithrediad y Fframwaith, argaeledd data, maint unrhyw effeithiau disgwyliedig, safbwyntiau proffesiynol presennol ac ymgysylltiad a defnydd (neu ddiffyg), ac a fyddai gwerthusiad o’r Fframwaith yn y dyfodol yn ymarferol.
Dulliau
Cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol (N=13) gan gynnwys gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol yn cwmpasu rolau strategol a rheoli yn bennaf. Dadansoddiad o ddogfennau (n=18): dogfennau’n ymwneud â dylunio, cyflwyno a gweithredu’r Fframwaith a dogfennau a ddewiswyd o ffynonellau allanol (Partneriaethau Dyletswydd Trais Difrifol ac awdurdodau lleol). Archwilio data cyffredinol: archwilio, trwy gyfweliadau, pa ddata cyffredinol sydd ei angen i gefnogi gwerthusiad yn y dyfodol a’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy’n hygyrch.
Prif ganfyddiadau
Derbynioldeb: Roedd y Fframwaith yn dderbyniol i’r rhanddeiliaid a gyfwelwyd gydag amrywiad yn ei werth canfyddedig ac o ran eglurder ynghylch pa gyfraniad y gallai ei wneud at ymarfer proffesiynol. Fe’i disgrifiwyd fel adnodd defnyddiol a allai fod yn sylfaen ar gyfer ymarfer, gan gynnig cyfeiriad strategol ar gyfer gwaith atal trais yng Nghymru.
Addasrwydd: Ystyriwyd ei fod yn addas ar gyfer gweithio gyda phob poblogaeth o bobl ifanc gan gynnwys y rhai a ystyrir mewn perygl neu fwyaf agored i drais.
Ansicrwydd fframwaith: Nodwyd cyfres o ganlyniadau gweithredu. Nodwyd ansicrwydd ynghylch y mecanweithiau cyflawni a mecanweithiau newid ar gyfer y Fframwaith gan y tîm datblygu, y sawl a gafodd eu cyfweld a’r tîm ymchwil, ac mae angen eglurhad pellach ynghylch yr hyn sydd ei angen i sicrhau newid. Mae ansicrwydd hefyd yn bodoli ynghylch diffiniad a chymhwyso’r cysyniadau, yr egwyddorion a’r strategaethau yn y Fframwaith.
Mesur canlyniadau ac effaith: Tynnwyd sylw gan randdeiliaid at yr heriau sy’n gysylltiedig â dangos tystiolaeth o newid ac effaith sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith a fframweithiau yn gyffredinol.
Y cyd-destun ehangach: Mae strwythurau partneriaeth sefydledig eisoes yng Nghymru. Parodrwydd asiantaethau i weithio mewn partneriaethau a chymryd rhan mewn prosesau. Hinsawdd wleidyddol ac ariannol anrhagweladwy ac ansefydlog. Cyfyngiadau cyllidebol a chyllid tymor byr. Diffyg capasiti staff a baich gwaith trwm ar staff ar draws asiantaethau a sectorau. Yn gysylltiedig â hyn, nifer y canllawiau, y fframweithiau a’r strategaethau a anfonir atynt neu y mae’n rhaid iddynt ymgysylltu â nhw fel rhan o’u rolau.
Cynaliadwyedd: Ystyriwyd bod cyllid tymor hwy a chefnogaeth gan bolisi a’r llywodraeth yn hanfodol. Dylai’r Fframwaith gyd-fynd â gofynion deddfwriaethol a statudol eraill yr asiantaethau targed.
Crynodeb
Mae’r Fframwaith yn fodel â sawl cydran sy’n ceisio dylanwadu ar systemau a phoblogaethau aml-lefel mewn sawl ffordd. Mabwysiadodd ei ddyluniad a’i ddatblygiad egwyddorion datblygu ymyriadau a argymhellwyd, sef: Ymgysylltu â thystiolaeth ac ymchwil; ymgysylltu â pholisi; ymgynghori â phoblogaethau targed a gweithwyr proffesiynol yn ogystal ag ystyried y cyd-destunau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yng Nghymru.
Argymhellion gan y tîm ymchwil
Gwnaethom argymell gwerthusiad proses dulliau cymysg yn canolbwyntio ar dderbynioldeb, defnydd, ymgorfforiad, cyrhaeddiad, ffyddlondeb a chostau (staff, adnoddau) sy’n gysylltiedig â dylunio, cyflawni ac ymdrechion parhaus i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Fframwaith.
Adroddiad terfynol a phapurau academaidd
Heb eu cyhoeddi eto ond cânt eu hychwanegu yma.
Camau nesaf ar gyfer gwaith ymchwil DECIPHer i drais a llwybrau i gael effaith
Mae sawl lefel i lwybrau effaith y gwaith hwn. Yn fewnol, rydw i wedi sefydlu Tîm Ymchwil DECIPHer i Drais ac mae rhaglen waith yn cael ei datblygu sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau DECIPHer o ran anghydraddoldebau iechyd ac yn ehangach â dulliau methodolegol. Mae llwybr clir i gydweithwyr DECIPHer a VRG gyfrannu at waith ymchwil ac ymarfer atal trais cenedlaethol ac o bosibl rhyngwladol. Mae’r rhwydweithiau’n parhau i ddatblygu rhwng DECIPHer, VRG a rhanddeiliaid allanol. Yn ogystal â’r dulliau cydweithredol sy’n datblygu, mae gennym hefyd gyfres o allbynnau sydd eisoes wedi’u datblygu neu sydd wrthi’n cael eu datblygu sy’n targedu cynadleddau a chyfnodolion cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i ddatblygu dogfennau briffio i gefnogi’r gwaith o gyflwyno ymyrraeth Tîm Atal Trais yn y dyfodol ar draws y GIG yn ogystal â dogfen sy’n canolbwyntio ar bolisi i gefnogi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol. Gyda cheisiadau pellach am gyllid ymchwil yn cael eu datblygu, mae hwn yn faes y mae DECIPHer, gyda’i gwybodaeth a’i harbenigedd, mewn sefyllfa unigryw i gyfrannu ato.
