Mynd i'r cynnwys
Home » Plant Cudd: Darganfod Gwahaniaethau Addysgol ac Iechyd sy’n Gysylltiedig â Chynnwys Gofal Cymdeithasol

Plant Cudd: Darganfod Gwahaniaethau Addysgol ac Iechyd sy’n Gysylltiedig â Chynnwys Gofal Cymdeithasol

  • Flog

Er bod ymchwil wedi dangos yn gyson fod plant mewn gofal oddi allan i’r cartref yn tueddu i wynebu canlyniadau iechyd ac addysgol gwaeth o’u cymharu â’u cyfoedion, gwyddys llai am y plant hynny sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ond sy’n aros gyda’u teuluoedd o hyd. Mae’r plant hyn, sydd yn aml yn profi adfyd ac amddifadedd sylweddol, yn wynebu heriau a allai gael eu hanwybyddu.

Mae ymchwil a arweiniwyd gan DECIPHer, ar y cyd â Dr Sara Long fel y Prif Ymchwilydd, wedi datgelu gwybodaeth newydd am yr heriau addysgol ac iechyd y mae plant sy’n ymwneud â’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn eu hwynebu. Wrth i lawer o astudiaethau ganolbwyntio ar blant sydd â phrofiad o’r system ofal, mae’r ymchwil hon yn taflu goleuni ar grŵp sydd wedi’i anwybyddu i raddau helaeth: plant mewn angen neu blant ar y gofrestr amddiffyn plant. Er bod y plant hyn yn aros gyda’u teuluoedd o hyd, maent yn dal i wynebu adfyd sylweddol, ac yn aml nid yw ymchwil a pholisi wedi mynd i’r afael â hyn.

Gwnaethom siarad â Dr Emily Lowthian i ddysgu mwy am yr ymchwil a sut y gwnaeth y tîm ddefnyddio Data SAIL i ddatgelu’r canfyddiadau hyn.

Roedd yr ymchwil hon yn ymdrech ar y cyd gan academyddion ar draws sawl prifysgol.

Pam mae angen yr ymchwil hon?

Pan gafodd yr ymchwil hon ei hariannu i ddechrau yn 2018, dyma oedd yr astudiaeth cysylltedd data gyntaf i ddefnyddio data ar ymyrraeth gwasanaethau cymdeithasol a chanlyniadau iechyd ac addysgol plant a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Mae ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar ganlyniadau iechyd ac addysgol plant sydd â phrofiad o’r system ofal. Fodd bynnag, mae poblogaeth gudd o blant y nodir eu bod yn ‘blant mewn angen’, ac yn unol â hynny, mae plant sy’n cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae’r rhain yn wahaniaethau o bwys o ystyried y ffaith er nad yw’r plant hyn yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni, maent yn wynebu cryn adfyd o hyd. Yn ogystal â hyn, nid yw llawer o bapurau ymchwil yn ystyried yr adfyd a brofir o ganlyniad i ffactorau megis bod â rhiant sydd ag anhwylder iechyd meddwl, problemau alcohol ac ati. Mae’r ymchwil hon yn mynd i’r afael â’r bylchau hyn drwy archwilio canlyniadau addysgol ac iechyd plant mewn angen, plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant a phlant sydd â phrofiad o’r system ofal, gan addasu ar gyfer amrywiaeth o brofiadau niweidiol mewn plentyndod.

Sut y caiff Banc Data SAIL ei ddefnyddio yn yr ymchwil hon?

Defnyddiodd y tîm Garfan Plant Electronig Cymru (WECC) o Fanc Data SAIL, sy’n cynnig data demograffig ar blant yng Nghymru a anwyd rhwng 1998 a 2000. Gwnaeth y tîm gysylltu’r data hwn â chofnodion cyffredinol ar iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol i asesu’n fanwl gywir gysylltiadau’r plant â’r ffactorau hyn a’u canlyniadau dros amser.

Beth yw canlyniad disgwyliedig yr ymchwil hon?

Mae’r ymchwil hon yn amlygu bod angen rhoi sylw cyfartal i blant sy’n cael unrhyw fath o ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol â phlant sy’n rhan o’r system ofal. Yn benodol, roedd y plant hynny a gafodd ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn unig heb gael eu symud o ofal eu teuluoedd yn wynebu risg benodol o gyrhaeddiad addysgol is, sy’n dangos bod angen rhoi sylw a chymorth pellach i’r holl blant hynny sy’n derbyn ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cyrraedd eu potensial yn yr ysgol.

Mae’r tîm yn bwriadu defnyddio’r ymchwil hon i lywio polisïau ac arferion y Llywodraeth pan fydd cyfleoedd yn codi gan gynnwys galwadau am dystiolaeth, ymgynghoriadau, wrth hysbysu pwyllgorau ac wrth ddarparu cyflwyniadau ar gyfer Fforwm Polisi Cymru. Fel tîm ymchwil, mae’n parhau i adeiladu corff o dystiolaeth er mwyn meithrin dealltwriaeth well o brofiadau plant a’r risgiau y maent yn eu hwynebu a nodi meysydd lle mae angen cymorth ac ymyrraeth. Mae mynediad at ddata lefel y boblogaeth ar y materion hyn yn cynnig sylfaen dystiolaeth gadarn i ddechrau hysbysu llunwyr polisi a gwella bywydau plant.

Cyllid a Chydweithredwyr

Ariannwyd yr astudiaeth hon gan y Cyngor Ymchwil Cymdeithasol (ES/R005478/1) fel rhan o’r Fenter Dadansoddi Data Eilaidd, gyda chymorth gan sefydliadau a chanolfannau ymchwil amrywiol gan gynnwys:

· Prifysgol Caerdydd: SPARK, Canolfan Wolfson, DECIPHer, CASCADE, Adran Meddygaeth y Boblogaeth

· Prifysgol Aberdeen

· Prifysgol Metropolitan Caerdydd

· Gwyddor Data Poblogaethau, Prifysgol Abertawe

Darllenwch y Papur Llawn: Hidden Children: Uncovering Educational and Health Disparities Linked to Social Care Involvementducation, and social services to accurately assess the children’s exposures and outcomes over time.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan SAIL Databank: https://saildatabank.com/hidden-children-uncovering-educational-and-health-disparities-linked-to-social-care-involvement/.