
Elfen allweddol o raglen ymchwil dulliau DECIPHer dros 2020-2025 fu ein cyrsiau byr sy’n darparu hyfforddiant ar ddulliau ar gyfer gwyddoniaeth ymyrraeth iechyd cyhoeddus. Wrth i ni baratoi ar gyfer sesiynau eleni, mae Arweinydd y Cwrs, Dr Rachel Brown, yn trafod yr uchafbwyntiau.

Bob blwyddyn, rydym yn cynnal cwrs haf sy’n cyflwyno amrywiaeth o ddulliau ac egwyddorion, gyda chyrsiau unigol ar ddulliau penodol yn dilyn hynny. Rydym yn cynnal fersiynau wedi’u teilwra o’r cyrsiau hyn i grwpiau ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Cafwyd heriau cyflawni yn 2020-2025 o ganlyniad i Covid-19, a’r newid i ddarpariaeth ar-lein. Ym mis Ionawr 2021 cynhaliodd Dr Jeremy Segrott, un o gyd-ymchwilwyr DECIPHer, a Peter Gee, ein Swyddog Cynnwys y Cyhoedd, gwrs hyfforddiant ar-lein, ar y cyd ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar gynnwys pobl ifanc mewn ymchwil. Cafodd ein cwrs pum diwrnod ei gynnal ar-lein ym mis Mehefin 2021. Er y newid hwn, roedd y cwrs yn llawn o fewn wythnos i agor y broses gofrestru. Yn yr un modd cafodd ein cwrs gwerthuso prosesau hefyd ei symud i gael ei ddarparu ar-lein, ac roedd y cwrs hwn eto’n llawn, gyda chynrychiolwyr rhyngwladol ac o’r DU yn bresennol.
Ers 2022 rydym wedi ailgyflwyno rhai cyrsiau wyneb yn wyneb, ar y cyd â chyrsiau ar-lein a hybrid. Cynhaliwyd dau weithdy deuddydd o hyd yn ein cwrs haf, gyda sesiynau all-lein wedi’u recordio ymlaen llaw i ategu hynny. Roedd hyn yn gyfle i roi sylw I amrywiaeth ehangach o bynciau oedd yn gyson â darpariaethau blaenorol, gan osgoi gorfod syllu ar sgrîn am ddyddiau. Yn 2023-24 cafodd y cwrs ei ddarparu wyneb yn wyneb yn llwyr unwaith eto, a hynny yn lleoliad newydd DECIPHer, sef Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK). Roedd cynrychiolwyr cedlaethol a rhyngwladol yn bresennol, gan gynnwys pum aelod o gyfleuster Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae’r cyrsiau hyn yn ffordd allweddol o ledaenu ein datblygiadau methodolegol i gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol eraill.
Yn 2023-24 cafodd y cwrs ei ddarparu wyneb yn wyneb yn llwyr unwaith eto, a hynny yn lleoliad newydd DECIPHer, sef Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK). Roedd cynrychiolwyr a rhyngwladol yn bresennol, gan gynnwys pum aelod o gyfleuster Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Cafodd ein cwrs undydd ar werthuso prosesau ei ddarparu fel cwrs wyneb yn wyneb unwaith eto yn 2022, ochr yn ochr â chwrs undydd newydd a oedd yn seiliedig ar ganllawiau methodolegol DECIPHer, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC)-y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), ar Addasu Ymyriadau i Gyd-destunau Newydd (ADAPT). Ers 2023, mae ein rhaglen ar gyfer mis Medi wedi cynnwys tri chwrs ar Astudiaethau Dichonoldeb, Gwerthuso Prosesau, ac Addasu Ymyriadau I Gyd-destunau Newydd. Mae’r cyrsiau hyn yn ffordd allweddol o ledaenu ein datblygiadau methodolegol i gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol eraill.
Mae’r galw am gyrsiau sydd wedi’u teilwra’n arbennig yn parhau i gynyddu. Yn 2022 cyflwynwyd ein cwrs gwerthuso prosesau I Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ar gais. Ym mis Mai 2023 cynhaliwyd cwrs wyneb yn wyneb dros dri diwrnod i staff ym Mhrifysgol Ulster, Belfast, a oedd yn canolbwyntio ar gyflwyno dulliau o ddatblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth. Yn 2023/24, cynhaliwyd cwrs deuddydd i ymchwilwyr academaidd a chlinigol. Sefydliad Ymchwil Iechyd Gymhwysol Rhydychen (OxInAHR) Prifysgol Oxford Brookes, ac Ymddiriedolaeth Ysbytai Prifysgol Rhydychen. Roedd y cwrs yn rhoi sylw i ran fwyaf o elfennau ein cwrs haf yng Nghaerdydd, a chafodd adborth cadarnhaol.
Yn rhyngwladol, mae’r rhaglen yn parhau I ehangu. Yn 2020 cynhaliwyd cwrs hyfforddiant doethurol achrededig ar-lein o dan arweiniad dau o gyd-ymchwilwyr DECIPHer, Dr Jemma Hawkins a’r Athro Graham Moore, ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth ar gyfer myfyrwyr PhD yn Sefydliad Karolinska (KI) yn Sweden. Llwyddodd y cwrs i ddenu myfyrwyr KI ei hun, yn ogystal â myfyrwyr o sefydliadau eraill yn Sweden, Denmarc, yr Iseldiroedd, a Tanzania.

Mae’r cwrs wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers hynny, bellach fel cwrs hyfforddiant doethurol achrededig dros dair wythnos, gyda Dr Rachel Brown yn ymuno â’r tîm addysgu yn ddiweddar. Mae’r prosiect cydweithredu hwn hefyd wedi arwain at grantiau cyllid allanol llwyddiannus y mae Dr Jemma Hawkins yn cydweithio arnynt. Yn 2020 cynhaliodd yr Athro Rhiannon Evans a Dr Rachel Brown fersiwn ar-lein wedi’i haddasu o’r cwrs Gwerthuso Prosesau i 15 o ymchwilwyr a myfyrwyr doethuriaeth ym Mhrifysgol Aalborg, Denmarc. Mae’r cwrs wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers hynny. O ganlyniad, mae dau o aelodau staff DECIPHer wedi cyfrannu at bennod yn Llawlyfr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer graddau is-raddedig ac ôl-raddedig ar draws Denmarc.
Rydym wedi cynnal cyrsiau rhyngwladol sydd wedi’u teilwra’n arbennig, gan gynnwys i staff Ysgol Glinigol Monash University Central yn Awstralia, ac i academyddion ym Mhrifysgol Canterbury Christ Church a’u partneriaid cydweithredu mewn pedair Prifysgol ym Mhalesteina fel rhan o brosiect cydweithredu â’r Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang (GCRF). Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar sail ein cyrsiau mewn amrywiaeth o gyd-destunau rhyngwladol, gan gynnwys Namibia, Awstria, y Ffindir, Moldofa, GogleddMacedonia, Sbaen a’r Almaen.
Mae rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau byr ar gael yma: Cyrsiau Byr. Mae’r erthygl hon wedi’i chymryd o’n Hadroddiad Diwedd Gwobr 2020-2025.