
Mae RISE (Lleihau Anghydraddoldebau mewn Amgylcheddau Bwyd Ysgol) yn astudiaeth newydd ledled y DU, a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), sy’n ymchwilio i sut mae prydau ysgol yn cael eu cynnig, y nifer o blant sy’n eu defnyddio, a’u gwerth maethol. Yn y blog hwn, mae’r Prif Ymchwilydd Dr Sara Long yn esbonio sut y bydd RISE yn helpu Cymru a gwledydd eraill i wella bwyd ysgol a deall yn well sut mae’r polisi Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb wedi’i gyflwyno hyd yn hyn.

Mae fy ymchwil wastad wedi canolbwyntio ar wella canlyniadau iechyd, lles ac addysg plant a phobl ifanc. Cwblheais fy astudiaethau doethurol mewn Seicoleg a Maeth yn 2013, ac ers hynny dwi wedi arwain a chyfrannu at amrywiaeth o brosiectau ymchwil iechyd y cyhoedd mawr, gyda ffocws penodol ar werthuso polisïau ac iechyd a lles mewn ysgolion. Mae’r ymchwil hon wedi fy arwain at RISE, sy’n dwyn ynghyd iechyd y cyhoedd, y gwyddorau cymdeithasol, bwyd a maeth ysgol a seicoleg dewis bwyd – pob un yn bynciau dwi’n angerddol amdanyn nhw, a nawr bod gen i blentyn oedran ysgol gynradd, mae gen i ddiddordeb personol hefyd.
Pwnc amserol
Felly pam fod yr astudiaeth hon mor bwysig? Mae llawer o deuluoedd yn cael trafferth gyda chostau byw. Mae prisiau wedi codi, ac yn aml, bydd bwyd llai iach ar gael yn rhatach ac yn haws i ddod o hyd iddo. Yn aml, ni fydd plant sy’n byw yn yr ardaloedd tlotaf yn bwyta digon o ffrwythau, llysiau a bwydydd eraill sy’n rhan o ddeiet iach a chytbwys. Felly, mae prydau ysgol yn gyfle gwych i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd teg i gael maeth da.
Ond dydyn ni ddim yn gwybod digon am gynnwys maethol bwyd a gynigir mewn ysgolion. Nid yw pob plentyn a theulu yn dewis bwyta prydau ysgol. I’r rheini sy’n gwneud hynny, ychydig a wyddwn ni am ddewis bwyd ac a yw plant yn bwyta’r eitemau iachach sy’n cael eu rhoi ar eu platiau. Mae’r ymchwil hon yn gyfle unigryw i ddysgu rhagor am y ddarpariaeth ledled y DU, a hynny er mwyn dysgu gwersi am sut y gellir rhoi’r sylfeini gorau i blant a phobl ifanc gael bywydau iach a hapus.
Mae’r ymchwil hon yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilio i’r hyn sydd wedi newid o ganlyniad i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion, a’u heffaith.
Yn y DU, Cymru yw’r unig genedl sy’n cynnig Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb i bob plentyn ysgol gynradd. Ar hyn o bryd, nid ydyn ni’n gwybod sut i sicrhau bod y teuluoedd a’r plant sydd angen prydau ysgol iach fwyaf yn ymuno â’r cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb. Mae’r ymchwil hon yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilio i’r hyn sydd wedi newid o ganlyniad i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion, a’u heffaith. Y nod yw cefnogi arlwywyr a staff yr ysgol i greu’r prydau gorau ar gyfer eu hysgolion; cefnogi ysgolion i annog pobl i fwyta bwyd ysgol; ac annog plant a theuluoedd i wneud dewisiadau iachach.
Tîm delfrydol
Rheswm arall pam dwi’n mwynhau gweithio ar RISE: Mae’n dwyn ynghyd arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd a maeth. Ynghyd â’r Prif Ymchwilydd ar y Cyd a chydweithiwr yn DECIPHer, Dr Kelly Morgan, bydda i’n gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a thu hwnt sy’n arloesi yn y sector bwyd ysgolion: Iechyd Cyhoeddus Cymru, LACA, Comisiynydd Plant Cymru, Prifysgol Newcastle, Prifysgol y Frenhines Belfast a Phrifysgol Caledonian Glasgow. Mewn undod y mae nerth, ys dywedan nhw, ac mae’r bartneriaeth hon yn cynnig cyfle a buddsoddiad anhygoel ym maes bwyd ysgolion. Mae’n gyfnod cyffrous iawn.
Bydd tîm RISE yn rhannu diweddariadau wrth i’r astudiaeth fynd rhagddi dros y tair blynedd nesaf. Yn y cyfamser, mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth ar gael isod:
Erthygl ar gyfer gwefan Prifysgol Caerdydd: Mae prydau ysgol o dan y chwyddwydr mewn astudiaeth newydd ledled y DU
Erthygl UKRI: Prosiectau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb bwyd ledled y DU yn cael eu lansio.
