Mynd i'r cynnwys
Home » Sut y gallwn ni wella cefnogaeth i fwydo ar y fron gan gyfoedion a’r gymuned fel ei bod yn diwallu anghenion pob mam?

Sut y gallwn ni wella cefnogaeth i fwydo ar y fron gan gyfoedion a’r gymuned fel ei bod yn diwallu anghenion pob mam?

  • Flog
Dr Rabeea’h Waseem Aslam

Mae’r DU yn adnabyddus am fod â rhai o’r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yn y byd. I rai menywod, mae hyn oherwydd eu bod wedi penderfynu nad dyma’r dewis iawn iddyn nhw a’u teulu. Fodd bynnag, i lawer o fenywod eraill, maen nhw’n dymuno bwydo ar y fron ond wedi rhoi’r gorau iddi oherwydd eu bod nhw’n cael y profiad yn anodd ac nad ydyn nhw’n derbyn y math cywir o gefnogaeth.

Mae rhaglenni a gyflwynir yng nghartref neu ardal leol menyw wedi’u datblygu i geisio helpu menywod i weithio’u ffordd drwy’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu. Mae’r rhain yn cynnwys cefnogaeth gan gymheiriaid, lle mae menywod sydd wedi cael hyfforddiant ac sy’n dod o gefndiroedd cymdeithasol neu ddiwylliannol tebyg yn helpu mamau trwy gynnig cyngor ac anogaeth. Mae yna gefnogaeth gymunedol hefyd, gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydynt yn gweithio mewn ysbytai (e.e. ymwelwyr iechyd cymunedol) a gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd.

Ond nid yw rhai cymunedau o fenywod yn cael mynediad at y rhaglenni hyn neu, pan fyddan nhw’n cael mynediad, mae’n bosibl eu bod yn cael profiadau negyddol. Gall hyn arwain at anghydraddoldebau mewn cyfraddau bwydo ar y fron.

Edrychon ni ar dystiolaeth ymchwil i helpu i ddeall sut y gellid darparu gwasanaethau cefnogaeth gan gymheiriaid a’r gymuned er mwyn sicrhau bod pob menyw yn cael profiad cadarnhaol ac yn cael ei hannog a’i chefnogi i fwydo ar y fron os dyna’i dymuniad.

Cynhalion ni ddau adolygiad o ymchwil flaenorol. Un i dynnu tystiolaeth ansoddol o’r DU ynghyd i ddeall sut y lluniodd nodweddion mamau eu profiadau o gefnogaeth gan gyfoedion a’r gymuned. Ac un arall i edrych ar werthusiadau o gefnogaeth gan gymheiriaid a’r gymuned mewn gwledydd incwm uwch i ddeall pa weithgareddau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd ac a ydynt yn atal anghydraddoldebau mewn cyfraddau bwydo ar y fron.

Ein canfyddiadau


Roedd profiadau gwahanol o raglenni cyfoedion a chymunedol, a all arwain at anghydraddoldebau mewn cyfraddau bwydo ar y fron. Er enghraifft:

  • Diffyg gwybodaeth glir ynghylch pwy all gael mynediad atynt. Gall hyn gael effaith anghymesur ar y tebygolrwydd y bydd menywod o gymunedau du a lleiafrifol yn ymgysylltu.
  • Dewisiadau cyfyngedig i gael mynediad at gefnogaeth oherwydd ei bod yn cael ei darparu ar adegau anghyfleus neu mewn lleoliadau anhygyrch. Er enghraifft, gall menywod sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus ei chael hi’n anodd cyrraedd lleoliadau ac efallai y byddan nhw’n gweld bod y gost yn ormodol iddynt.
  • Ystyriaeth annigonol o gefndir cymdeithasol a diwylliannol mamau, a sut y gallai hyn lywio’u hanghenion. Er enghraifft, gall mamau o amrywiaeth o gefndiroedd diwylliannol deimlo’n anghyfforddus yn bwydo ar y fron o flaen eraill, y tu allan ac yn y cartref (yn enwedig os ydynt yn byw gyda theulu estynedig).
  • Diffyg ystyriaeth o wahanol nodweddion corfforol, fel ffurf eu corff ac anabledd. Er enghraifft, anaml y bydd deunyddiau bwydo ar y fron yn cyflwyno delweddau o famau â chroen tywyllach neu gyrff mwy eu maint.
  • Rhwystrau strwythurol fel polisïau bwydo ar y fron yn y gweithle nad ydynt yn gefnogol, diffyg cefnogaeth gan aelodau’r teulu, a stigma cymdeithasol ehangach. Er enghraifft, mae bwydo â fformiwla yn aml yn cael ei weld fel y norm mewn rhai cymunedau.


Sut i sicrhau bod cefnogaeth gan gyfoedion a’r gymuned yn diwallu anghenion pob mam?


Fe wnaethon ni nodi pum egwyddor (gweler Ffigur 1) a allai helpu i wneud cefnogaeth gan gyfoedion a’r gymuned i fwydo ar y fron yn fwy teg:

  • Dylai cefnogaeth ddod gan bobl o gefndiroedd neu brofiadau tebyg, fel mamau eraill sydd wedi bwydo ar y fron. Gall hyn helpu i feithrin ymddiriedaeth a’i gwneud hi’n fwy tebygol y bydd mamau’n cael eu hannog i gymryd rhan.
  • Mae angen hyrwyddo meini prawf cymhwyster a llwybrau mynediad ar gyfer rhaglenni drwy gydol y daith bwydo ar y fron fel bod mamau’n ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw. Mae angen hefyd rhoi hyblygrwydd i fenywod o ran sut a phryd y gallan nhw dderbyn cefnogaeth.
  • Dylid teilwra negeseuon a darpariaeth gwasanaethau i ddiwallu gwahanol anghenion unigol a chymunedol. Dylid gwneud hyn heb achosi stigma nac atgyfnerthu stereoteipiau. Er enghraifft, gall cael eich gweld fel rhywun sy’n anfeirniadol ynglŷn â dewisiadau bwydo helpu mamau nad ydynt yn bwydo ar y fron yn unig i deimlo’u bod yn cael eu croesawu’n well.
  • Dylai newid rhwng rhaglenni, er enghraifft symud o gefnogaeth un-i-un i gefnogaeth gan grŵp cymheiriaid, fod yn llyfn ac yn gydlynol. Gall hyn helpu i osgoi’r risg y bydd unrhyw gamau i dynnu cefnogaeth yn ôl yn ddryslyd neu’n diddymu anogaeth.
  • Efallai y bydd angen targedu cymunedau a theuluoedd drwy godi ymwybyddiaeth ac addysg i wneud yn siŵr eu bod yn annog bwydo ar y fron. Efallai y bydd angen i raglenni fanteisio ar rwydweithiau cymdeithasol sy’n bodoli eisoes i hwyluso hyn.
Ffigur 1. Trosolwg o’r Egwyddorion ar gyfer Rhaglenni Bwydo
ar y Fron Teg

Mae’n bwysig nodi bod y dulliau presennol o ddarparu cefnogaeth trwy raglenni cefnogaeth gan gymheiriaid a’r gymuned yn tynnu ar rai o’r egwyddorion hyn, ond mae’n ymddangos nad ydynt yn arbennig o effeithiol. Mae angen datblygu rhaglenni gyda’r cymunedau sydd mewn perygl o beidio â bwydo ar y fron er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu’n llawn.

Rôl ymwelwyr iechyd

Gall ymwelwyr iechyd chwarae rhan hanfodol i gefnogi gwireddu’r argymhellion hyn:

  • Cynnal cysylltiadau agos â bydwragedd a gwasanaethau mamolaeth. Gall ymwelwyr iechyd adeiladu ar y cyngor a’r gofal bwydo ar y fron sy’n cael ei gychwyn gan dimau mewn ysbytai, gan helpu mamau sydd wedi dechrau bwydo ar y fron i barhau. Gallan nhw hefyd sicrhau bod camau dilynol ar gyfer unrhyw broblemau bwydo a nodir yn yr ysbyty.
  • Cysylltu teuluoedd ac adnoddau. Gall ymwelwyr iechyd sicrhau bod mamau a theuluoedd yn gwybod am unrhyw glinigau galw heibio lleol, grwpiau bwydo ar y fron, caffis cymunedol, a chynlluniau cefnogaeth gan gymheiriaid. Gallan nhw hefyd gydlynu gwybodaeth ar draws y gwasanaethau hyn, gan sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cyngor cyson a hwyluso’r broses o drosglwyddo rhyngddynt.
  • Gallan nhw ddefnyddio’u hadnabyddiaeth o’r gymuned. Gall ymwelwyr iechyd helpu i recriwtio, hyfforddi a goruchwylio cefnogwyr cyfoedion, gan sicrhau bod y gefnogaeth maen nhw’n ei darparu yn ymatebol ac yn berthnasol i anghenion yr holl fenywod y maen nhw’n anelu at ymgysylltu â nhw.

I gael gwybod mwy am y dulliau ymchwil a’r canfyddiadau, gweler y briff ymchwil llawn.

Cyhoeddwyd y blog hwn yn wreiddiol ar wefan y Sefydliad Ymwelwyr Iechyd (IHV): https://ihv.org.uk/news-and-views/voices/improving-peer-and-community-breastfeeding-support/.

This project was funded by the National Institute for Health and Care Research (NIHR) Public Health Research Programme (projects NIHR167881 and NIHR170414). The views expressed are those of the author(s) and not necessarily those of the NIHR or the Department of Health and Social Care. The NIHR PHR Reviews Team are supported by DECIPHer. DECIPHer is funded by Welsh Government through Health and Care Research Wales.