Mae Dr Rebecca Anthony yn trafod ei Chymrodoriaeth dros gyfnod o bedair blynedd a gyllidir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd y Gymrodoriaeth yn archwilio’r cymorth cymdeithasol sydd ar gael i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, eu canfyddiadau ynghylch perthnasoedd, a’r cysylltiad ag iechyd meddwl a lles.
Ers ymuno â DECIPHer, mae fy ffocws wedi bod ar iechyd meddwl a lles y glasoed, yn enwedig y rhai â phrofiad o fod mewn gofal. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar y croestoriad rhwng seicoleg a gofal cymdeithasol, a bu fy PhD yn archwilio hyn mewn perthynas â theuluoedd mabwysiadol yng Nghymru. Wrth i’m hymchwil fynd yn ei blaen, sylwais ar ddiffyg ffocws ar agweddau perthynol ymhlith plant a phobl ifanc mewn gofal. Er syndod, ychydig iawn a wyddom gan blant a phobl ifanc eu hunain am eu profiad o berthnasoedd â phobl fel eu gofalwyr a’u hathrawon. Pan glywais am yr Alwad am Gymrodoriaethau gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cyflwynais gais gyda’r nod o lenwi’r bwlch gwybodaeth hwnnw.
Pan mae hyn yn broblem?
Daw’r dyfyniad ‘Ymdeimlad o gariad a gwerthfawrogiad…’ o ddeunyddiau a grëwyd gan bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn rhoi sylw i’r hyn sy’n bwysig iddynt a’u blaenoriaethau o ran ymchwil. Daeth pwysigrwydd ymdeimlad o gariad i’r amlwg fel thema glir. Cynorthwywyd y bobl ifanc yn y prosiect hwn gan y grwpiau canlynol ac eraill: Lleisiau CASCADE – sef grŵp o bobl ifanc sy’n gysylltiedig â Lleisiau mewn Gofal Cymru; Llysgenhadon Maethu Ieuenctid – sef grŵp o bobl ifanc sy’n gysylltiedig â’r Rhwydwaith Maethu; a Tribe – sef grŵp o bobl ifanc sy’n ymwneud â’r ‘Diamond Project’, sy’n rhan o waith Ymestyn yn Ehangach ym Mhrifysgol Abertawe. Gellir darllen rhagor am y prosiect yma.
Ar hyn o bryd, mae dros 80,000 o blant a phobl ifanc yn byw mewn gofal awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr (1, 2). Mae ymchwil yn awgrymu bod hanner y plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn profi anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol sy’n glinigol arwyddocaol (3), sy’n gysylltiedig ag achosi trallod, yn ogystal â chanlyniadau gwael o ran iechyd ac addysg. Felly, mae’n deg dweud bod iechyd meddwl plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn bryder sylweddol o ran gofal cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus.
Mae ymchwil yn dangos bod perthnasoedd â gofalwyr sy’n gynnes, yn sensitif ac yn ymatebol yn gysylltiedig â chanlyniadau gwell o ran iechyd meddwl a lles (4). Fodd bynnag, mae llawer o blant mewn gofal yn profi newidiadau i leoliadau, gan arwain at ofalwyr ac amgylcheddau newydd. Gall y newidiadau hyn ei gwneud hi’n anoddach iddynt fod ag ymdeimlad o gariad a gwerthfawrogiad ac i ymddiried mewn pobl wrth symud ymlaen, ac mae’r agweddau hyn yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles.
Sut bydd hyn yn gweithio?
Fe wnaeth fy PhD ganolbwyntio ar ddylanwad perthynas person ifanc â’u rhiant mabwysiadol. Mae’r Gymrodoriaeth hon yn barhad o’r ymchwil honno, gan ddefnyddio dulliau mwy datblygedig ac edrych ar grŵp ehangach o blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
Byddaf yn llunio adolygiad cwmpasu o’r dystiolaeth ryngwladol sydd ar gael am berthnasoedd plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, a’r cymorth cymdeithasol maent yn ei gael. Hefyd, byddaf yn cynnal cyfweliadau â phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru, gan siarad am eu profiadau o ran cymorth cymdeithasol a pherthnasoedd, yn enwedig yr agweddau oedd fwyaf defnyddiol neu niweidiol i’w hiechyd meddwl a’u lles.
Yn dilyn hyn, bydd pecyn gwaith meintiol sylweddol, a fydd yn cynnwys cynnal dadansoddiadau trawstoriadol niferus o’r Arolygon Iechyd a Lles Myfyrwyr a gynhelir gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion er mwyn ymchwilio i dueddiadau yng nghanfyddiadau plant a phobl ifanc o berthnasoedd (â gofalwyr, cyfoedion ac athrawon) dros gyfnod o amser. Yn ogystal, bydd y gwaith yn archwilio sut mae’r perthnasoedd hyn yn cysylltu â’i gilydd ac yn cysylltu ag iechyd meddwl a lles. Bydd yr agwedd olaf yn cysylltu’r Arolygon Iechyd a Lles Myfyrwyr â setiau data gofal cymdeithasol ac iechyd gan ddefnyddio SAIL i archwilio p’un a yw perthnasoedd yn gallu cymedroli’r cysylltiad rhwng profiadau cynnar niweidiol ac iechyd meddwl a lles yn ddiweddarach.
Bydd dau grŵp o blant a phobl ifanc ledled y DU sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a grŵp a recriwtiwyd o ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, yn cael eu cynnwys drwy gydol yr astudiaeth. Byddant yn helpu â materion fel beth i’w ofyn mewn cyfweliadau, pa ddata sydd bwysicaf i edrych arnynt, a’r ffordd orau o rannu’r canfyddiadau. Er y bu’r rhan fwyaf o fy rôl o fewn DECIPHer yn ymwneud â dadansoddi data eilaidd, edrychaf ymlaen yn fawr at ddysgu rhagor am yr agweddau ymchwil ansoddol, a mynd allan i siarad â’r bobl ifanc eu hunain.
Cadwch lygad yn agored
Bydd y canfyddiadau ar gael i’r cyhoedd, ymchwilwyr, sefydliadau awdurdodau lleol ac elusennau perthnasol trwy gyflwyniadau mewn cynhadledd, gweminarau, podlediadau, crynodeb o’r canfyddiadau, a chyhoeddiadau academaidd. Rwyf hefyd yn gobeithio cael cyllid ychwanegol er mwyn dylunio animeiddiad â phlant a phobl ifanc i’w rannu’n eang.
Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi wrth i’r Gymrodoriaeth fynd rhagddi – gallwch ddisgwyl diweddariadau pellach ar wefan DECIPHer!
Gwybodaeth bellach
Mae rhagor o wybodaeth am Gymrodoriaethau a gyllidir gan Ymchwil Iechyd a Gofal i’w chael yma: https://ymchwiliechydagofalcymru.org/cyfadran-gwobrau-personol/ein-gwobrau-prosiectau-ariennir?award=43
1. UK Government. Children looked after in England including adoptions: Reporting year 2022. In: National Statistics, editor. UK,2022.
2. Welsh Government. Children looked after. In: StatsWales, editor. Cardiff, Wales: Welsh Government, 2022.
3. Sempik J, Ward H, Darker I. Emotional and Behavioural Difficulties of Children and Young People at Entry into Care. Clinical Child Psychology and Psychiatry. 2008;13(2):221-33.
4. Boeldt DL, Rhee SH, Dilalla LF, Mullineaux PY, Schulz-Heik RJ, Corley RP, et al. The Association between Positive Parenting and Externalizing Behavior. Infant and child development. 2012;21(1):85-106.