Mynd i'r cynnwys
Home » Ymweld â Pheriw ar gyfer lansio astudiaeth ymchwil dementia ‘IMPACT Salud’

Ymweld â Pheriw ar gyfer lansio astudiaeth ymchwil dementia ‘IMPACT Salud’

  • Flog
Clocwedd o’r chwith uchaf: Tîm IMPACT Salud a rhanddeiliaid yn y lansiad yn Lima; Aelodau’r panel trafod ar degwch iechyd byd-eang; Aelodau o dîm IMPACT yn gweithio ar ddadansoddiad SWAT ar gyfer y prosiect; Aelodau’r tîm yn cynllunio’r prosiect

Mae Dr Jemma Hawkins a’r Athro Graham Moore yn trafod taith ymchwil gynhyrchiol a gwerth chweil

Fe deithion ni i Beriw am y tro cyntaf ym mis Mehefin eleni fel rhan o’n gwaith gyda thîm rhyngwladol o gydweithwyr ar brosiect pedair blynedd sy’n canolbwyntio ar wella canlyniadau i unigolion â dementia a’u gofalwyr ym Mheriw. Ariennir astudiaeth Salud IMPACT gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (NIHR) a chaiff ei harwain gan Goleg Imperial Llundain a chanolfan CRONICAS o fewn Universidad Peruana Cayetona Heredia (UPCH) yn Lima. Mae’n cynnwys pum pecyn gwaith integredig i gyd wedi’u harwain ar y cyd gan ymchwilydd o Beriw a’r DU, rydyn ni’n cyd-arwain un o’r pecynnau gwaith hyn yr un.

Roedd y daith yn gyfle gwych i dreulio amser wyneb yn wyneb gyda’n partneriaid sefydledig yn ogystal â chydweithwyr cymharol newydd, yr ydyn ni wedi rhyngweithio â nhw’n bennaf mewn cyfarfodydd ar-lein ers i gynllunio ar gyfer y prosiect hwn ddechrau yn ystod pandemig COVID-19. Yn ystod yr ymweliad buon ni’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm cyfan a chyfarfodydd pecyn gwaith unigol, yn ogystal â chyfarfod blynyddol y bwrdd cynghori. Yn ogystal, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau i lansio’r prosiect yn swyddogol a darparu cyfleoedd hyfforddi i weithwyr gofal iechyd a rhoddwyr gofal, mewn cydweithrediad â Gweinyddiaeth Iechyd y wlad (MINSA). Yn rhan o hyn, cymerodd Jemma ran mewn trafodaeth banel yn archwilio dulliau o wella tegwch iechyd byd-eang.

Mae ein rhan yn y prosiect mawr hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio fframweithiau methodolegol a arweinir gan Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) i ddeall sut y gellir addasu modelau ymyrraeth o gyd-destunau incwm uchel (yr Unol Daleithiau) a’u trosglwyddo i’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol gwahanol iawn ym Mheriw. Mae’r astudiaeth yn archwilio hyn o fewn pedwar rhanbarth o Beriw sy’n amrywio yn eu cyd-destunau daearyddol a demograffig. Felly, rhoddodd yr ymweliad hwn gyfleoedd defnyddiol inni ddeall sut y cymhwysir dulliau a ddatblygwyd yng Nghymru i gyd-destunau rhyngwladol newydd. Mae dementia a’r cyd-destun Periw yn feysydd ymchwil cwbl newydd i’r ddau ohonon ni. Fe ddysgon ni lawer iawn gan ein gwesteiwyr am y ddau beth yma yn ystod ein hamser ym Mheriw.

Mae’r prosiect yn ei ail flwyddyn o bedair ac rydyn ni’n edrych ymlaen at fwy o ymweliadau i’r ddau gyfeiriad i rannu’r hyn a ddysgwyd ac arbenigedd, a chynyddu effaith yr ymchwil bwysig y mae’r tîm yn ei gwneud.

Gallwch chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect yma: https://x.com/ImpactSalud.